Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch, Joyce, a diolch i chi am gydnabod y gwaith partneriaeth rhagorol rhwng fy adran i ac awdurdodau addysg lleol a ganiataodd i filoedd lawer o ddarnau o offer a dyfeisiau Mi-Fi gael eu darparu yn gyflym iawn yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod gwariant technoleg wedi'i gynllunio yn mynd tuag at offer i ysgolion fel y gellir ei ddosbarthu ac fel y gallwn barhau i sicrhau fod gan bob plentyn y cysylltedd a'r adnoddau TG sydd eu hangen arnynt i ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn dysgu cyfunol a dysgu o bell, a sicrhau bod gan y staff eu hunain yr offer angenrheidiol fel y gallant ei ddefnyddio os oes angen iddynt weithio oddi ar safle'r ysgol.