Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:39, 21 Hydref 2020

Dwi'n falch eich bod chi'n cadw'r sefyllfa o dan adolygiad parhaus. Mae hynny'n hollbwysig, onid ydy? 

I droi at fater arall, i orffen, ym mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd y byddai 600 o athrawon ychwanegol yn cael eu recriwtio i ysgolion a 300 o gynorthwywyr dysgu ar gyfer y flwyddyn ysgol bresennol. Byddwn i'n hoffi cael diweddariad am hyn, a does yna, efallai, ddim digon o amser prynhawn yma i chi wneud hynny, ond a wnewch chi roi datganiad llawn i ni, maes o law, ac egluro i ni pa waith monitro a gwerthuso mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â'r gwariant yma ar gyfer yr athrawon ychwanegol a'r cynorthwywyr dysgu ychwanegol, ac esboniad yn union sut mae hyn yn arwain at leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion?