Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch. Y diffiniad o erledigaeth yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw pan fyddwch yn cael eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail hil. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithio sy'n rhoi pobl yn eich grŵp hiliol o dan anfantais. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mater i'r Llywydd oedd penderfynu pwy fyddai'n holi'r Prif Weinidog yn hytrach na'r system bleidlais deg arferol.