3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i bolisïau i sicrhau nad yw gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil yn digwydd i aelodau etholedig a staff? OQ55734
[Anghlywadwy.]—yn cael eu datblygu a'u hadolygu yn gyson drwy broses gadarn, sy'n cynnwys ymgynghori â'n holl rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, ein hundebau llafur, ein cyfreithwyr, a lle bo'n briodol, cyngor gan ein cyfreithwyr allanol. Asesir polisïau newydd neu ddiwygiedig yn erbyn yr holl nodweddion gwarchodedig drwy asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, ac mae'r Comisiwn yn gweithio gyda chyrff meincnodi annibynnol i gael sicrwydd allanol ar agweddau penodol ar bolisi. Rydym hefyd yn cael adborth gan Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn, drwy arolygon amrywiol, gan gynnwys yr arolwg urddas a pharch. Mae hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant ar gael i Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn. Mae gan Aelodau, staff yr Aelodau a staff y Comisiwn i gyd ffyrdd o godi pryderon yn ffurfiol, os oes angen. Cyfrifoldeb y bwrdd taliadau yw darparu polisi penodol ar gyfer Aelodau a staff yr Aelodau. Mae ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i waith y bwrdd taliadau.
Diolch. Y diffiniad o erledigaeth yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw pan fyddwch yn cael eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail hil. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithio sy'n rhoi pobl yn eich grŵp hiliol o dan anfantais. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mater i'r Llywydd oedd penderfynu pwy fyddai'n holi'r Prif Weinidog yn hytrach na'r system bleidlais deg arferol.
Trefn. Trefn. Trefn. Neil, mae hwn yn fater sy'n ymwneud â gweithdrefn yn y Senedd, dan arweiniad y Llywyddion, ac nid yw'n rhywbeth y mae'r Comisiynydd yn gymwys i siarad amdano. Felly, mae'n rhaid i mi ofyn i chi eistedd oherwydd mae'r cwestiwn hwn, neu mae'r cwestiwn atodol hwn, yn groes i'r drefn.
Nid oedd yn groes i'r drefn. Cytunodd y swyddogion ar y cwestiwn hwn. Fe'i derbyniwyd. Rwy'n codi mater hiliaeth yn y Senedd hon, gwahaniaethu anuniongyrchol, a hoffwn ofyn i chi, gyda'r parch mwyaf, adael i mi barhau, os gwelwch yn dda.
A gafodd y sgript ei derbyn? Beth oedd y sgript a gafodd ei derbyn gennym?
Gallwch ofyn i mi ofyn y cwestiwn mewn—
Trefn. Rydych newydd ddweud wrthyf fod y sgript roeddech yn ei darllen wedi'i gosod yn Swyddfa'r Llywydd.
Y cwestiwn—
Nid eich cwestiwn atodol. Nawr, na, na—
[Anghlywadwy.]
Trefn. Neil. Rwy'n derbyn bod yr hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn ymwneud â'r cwestiwn cyntaf, ac fe'i camddeallais. Roeddwn yn gofyn i weld a oedd eich cwestiwn atodol wedi'i dderbyn gan Swyddfa'r Llywydd, ac nid yw wedi cael ei dderbyn. Ac rwyf newydd ddweud, yn fy marn i, caiff ei ystyried yn groes i'r drefn. Mae'n rhaid i chi eistedd yn awr.
Gallaf ei ddweud mewn ffordd wahanol.
Nid wyf yn credu.
Dyma hiliaeth ar waith.
Na, mae'n rhaid i chi eistedd, Neil.
Hiliaeth a gwahaniaethu ar waith go iawn yw hyn.
Neil, rwy'n gofyn i chi, am y tro olaf, a wnewch—?
[Anghlywadwy.]—yn y Senedd hon o beidio â chael gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog tra bod Aelodau eraill wedi cael gofyn hyd at 6 o gwestiynau.
Neil—[Anghlywadwy.]—yn cael ei ddiffodd. Nawr, eisteddwch fel y gallwn barhau â'n busnes.
David Rowlands fydd yn ateb cwestiwn 5.
Cywilyddus. Cywilyddus.
Janet Finch-Saunders.
Cywilyddus. Cywilyddus.
Yr unig beth cywilyddus yma yw eich ymddygiad chi—
Trefn. Janet, nid ydych yn helpu. Os gwelwch yn dda.
Janet, pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—
Trefn. Neil, gadewch y Siambr os gwelwch yn dda. Rwy'n credu mai dyna fyddai orau i bawb nawr.
Rwy'n mynd. Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—
Na, na. Os gwelwch yn dda, Neil.
Diolch, Lywydd dros dro.
Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i, byddech yn gweld sut rydych yn cael eich trin. Nid ydych yn deall.
Bydd cwestiwn 5, mae'n ddrwg gennyf, yn cael ei ateb gan David Rowlands. Janet, mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws.
Na, mae'n iawn. Diolch, Lywydd dros dro.