Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 21 Hydref 2020.
Trefn. Neil. Rwy'n derbyn bod yr hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn ymwneud â'r cwestiwn cyntaf, ac fe'i camddeallais. Roeddwn yn gofyn i weld a oedd eich cwestiwn atodol wedi'i dderbyn gan Swyddfa'r Llywydd, ac nid yw wedi cael ei dderbyn. Ac rwyf newydd ddweud, yn fy marn i, caiff ei ystyried yn groes i'r drefn. Mae'n rhaid i chi eistedd yn awr.