6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Calonnau Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:38, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Dai Lloyd, Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies am eu cefnogaeth wrth gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ond Lywydd, hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i Thoma a Mike Powell, a achubodd fy mywyd drwy roi triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i mi; Tom, a feiciodd fel y gwynt i ddod o hyd i ddiffibriliwr; i'r holl bobl nad wyf yn gwybod eu henwau a helpodd pan oedd angen seibiant ar Thoma; i'r parafeddygon; wedyn, i Sean Gallagher a'i dîm gofal y galon yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Wrth ddiolch i'r holl bobl hyn, rydym hefyd yn adrodd stori am ataliad y galon a'r bobl y mae angen iddynt allu achub bywydau.

Nawr, fi fyddai'r cyntaf i dderbyn nad wyf yn athletwr naturiol. Ond pan benderfynais fynd allan i redeg un noson yn y gwanwyn, nid oedd gennyf reswm dros gredu y gallai fod y peth olaf y byddwn i byth yn ei wneud. Nid oeddwn wedi profi unrhyw boen nac anghysur ar unrhyw adeg yn y dyddiau cyn i hyn ddigwydd. Nid oeddwn yn teimlo'n sâl ac nid oedd gennyf unrhyw broblemu isorweddol a wnâi i mi gredu fy mod mewn perygl arbennig. Roedd yn gwbl annisgwyl. Roedd toriadau ar fy wyneb oherwydd ei fod wedi digwydd mor sydyn. Ni lwyddais i dorri fy nghwymp hyd yn oed. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen help ar unwaith ar yr unigolyn: adfywio cardio-pwlmonaidd ar unwaith a defnydd o diffibriliwr. Ond gwyddom y gall y ddau beth fod yn frawychus i wylwyr. Roeddwn yn anymwybodol cyn i mi gael unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn oedd yn digwydd i mi. Nid oes amser i alw am help. 

Ysgrifennodd Tom e-bost ataf, a oedd yn esbonio'r hyn a ddigwyddodd. Gadewch i mi ei ddweud yn ei eiriau ef: 'Pan gyrhaeddais y fan, roeddent eisoes yn rhoi CPR i chi. Roedd pawb ar bigau'r drain ond yn drefnus. Er mwyn gwneud defnydd ohonof fy hun cynigiais gyfeirio'r ambiwlans i mewn. Dywedodd rhywun a oedd yn cerdded eu ci wrthyf na allent ddod o hyd i'r diffibriliwr yn ôl cyfarwyddyd y sawl a atebodd yr alwad 999. Roeddwn i'n gwybod bod lleoli'r diffibriliwr yn hollbwysig, felly ceisiais feddwl sut i ddod o hyd i un. Cefais un gan wraig garedig iawn wrth y ddesg ddiogelwch yn y coleg heb holi fawr o gwestiynau. Rhuthrais yn ôl wedi i mi ei gael. Roedd yr adrenalin yn llifo ac roeddwn yn rhy ofnus i'w wneud fy hun, ond roedd eich ffrind yn gwybod beth i'w wneud. Mae'n amlwg ei bod wedi cael hyfforddiant.' A'r hyfforddiant hwnnw, Lywydd, a achubodd fy mywyd ac sy'n fy ngalluogi i wneud yr araith hon heddiw.

Rwy'n cydnabod ac yn deall bod gan Gymru strategaeth atal y galon y tu allan i'r ysbyty, a lansiwyd yn ôl yn 2017, a deallaf ei bod yn darparu rhaglen waith gydweithredol ar gyfer gwella cyfraddau goroesi ac ôl-ofal. Mewn sawl ffordd, mae'r strategaeth hon yn cyffwrdd â'r prif faterion rwyf am fynd i'r afael â hwy y prynhawn yma. Rwy'n gwneud y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw am nad wyf yn credu bod y cynllun wedi cael y cyrhaeddiad na'r effaith yr hoffai pawb ohonom eu gweld.

Yn ei hanfod, mae dwy brif elfen i'r cynnig hwn. Yn gyntaf oll, sicrhau ein bod yn cael cyfle i achub bywyd pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, ac yn ail, eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt i fyw bywyd normal wedyn. Rwy'n cydnabod bod Sefydliad Prydeinig y Galon, a llawer o Aelodau, wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd o blaid darparu hyfforddiant CPR mewn ysgolion a cholegau. Rwy'n cytuno. Yn y cynnig hwn, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod hyfforddiant o'r fath yn digwydd. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthwynebu hyfforddiant ffurfiol mewn amgylchedd ysgol. Felly, mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i amlinellu beth y mae am ei wneud yn lle hynny.

Mae lleoliad diffibrilwyr cymunedol hefyd yn hanfodol. Oni ellir dod o hyd i ddiffibriliwr a'i ddefnyddio o fewn munudau, bydd yn rhy hwyr. Roeddwn i'n lwcus iawn, ond rwy'n ymwybodol fod dyn ifanc wedi cael ataliad y galon ychydig flynyddoedd yn ôl yn agos at y fan lle cefais i un. Bryd hynny, ni ddaethpwyd o hyd i ddiffibriliwr, a bu farw'r dyn ifanc hwnnw. Fe'm hatgoffir hefyd o'r ymgyrch sy'n cael ei harwain gan deulu Justin Edinburgh, cyn reolwr clwb pêl-droed Casnewydd a fu farw ar ôl cael ataliad y galon mewn campfa lle nad oedd diffibriliwr ar gael. Ni allaf weld ffordd ymlaen oni bai ein bod yn ei gwneud yn ddyletswydd uniongyrchol ar lywodraeth leol i sicrhau bod y pethau hyn sy'n achub bywydau ar gael drwy bob un o'n gwahanol gymunedau.

Ail agwedd y cynnig hwn yw sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio ac yn cydweithredu i greu llwybrau goroesi. Mae hyn yn golygu bod clinigwyr a rheolwyr y GIG yn cydweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd nid yn unig i ddatblygu a darparu'r diagnosis a'r gofal gorau, ond i sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Rwy'n ofni weithiau nad yw ein byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd cystal ag y dylent o bosibl. Nid oes diben cystadlu, na dyblygu adnoddau. Hoffwn weld yr uchelgeisiau a geiriau'r strategaeth bresennol yn dod yn realiti. A dyna pam fy mod am weld hyn ar y llyfr statud. Mae llawer i'w ddysgu o'r enghraifft hon, a llawer i'w ddysgu o leoedd eraill a gwledydd eraill.

Unwaith eto, yng ngeiriau Tom: 'Mae'n rhaid bod eich brest wedi teimlo'n gleisiog ac yn boenus. Gweithiodd nifer o aelodau o'r cyhoedd yn galed arnoch. Roedd yn stwff dramatig. Ar ôl ei weld yn cael ei wneud, os bydd byth yn digwydd eto, rwy'n teimlo'n hyderus y gallwn reoli'r sefyllfa.' Rwyf am weld yr hyder hwnnw a'r gred honno'n dod yn gyffredin yng Nghymru. Ym mis Ebrill, deuthum yn un o ddim ond 3 y cant o bobl sydd wedi goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n teimlo'n gryf fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb mawr yn awr i bawb na wnaeth oroesi i sicrhau y gallwn i gyd, yn y dyfodol, gael yr un cyfle i oroesi a byw. Diolch yn fawr iawn.