Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 21 Hydref 2020.
Nod y cynnig yma, fel rydyn ni wedi clywed, ar gyfer Bil calonnau Cymru ydy gwella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ac rydw i'n cefnogi'r cynnig yn frwd. Ac mae'r pwyslais ar y tu allan i'r ysbyty: pan fydd rhywun yn syrthio'n ddiymadferth i'r llawr yn anymwybodol, ar ganol y stryd, mewn siop neu allan yn loncian a dim ond chi sydd yna, a fuasech chi'n gwybod beth i'w wneud?
A allaf i yn y lle cyntaf longyfarch Alun Davies—wnes i ei longyfarch o ddoe hefyd; mae hyn yn mynd yn habit nawr—ond a allaf i ei longyfarch o heddiw yn benodol am weithio mor ddygn a chaled y tu ôl i'r llenni i ddod â'r cynnig yma gerbron, a hefyd ei longyfarch o ar y ffaith ei fod o wedi goroesi'r ataliad ar ei galon ei hun, achos pur anghyffredin, fel rydyn ni wedi clywed, ydy hynna? Mae o'n wyrthiol. Rydyn ni wedi clywed ei gyfraniad huawdl o eisoes, a diolch am hynny; profiad gwerthfawr.
Nawr, rydyn ni gyd yn gwybod am arbenigedd ein meddygon, llawfeddygon, nyrsys arbenigol ac ati yn ein hysbytai mawrion sy'n ymdrin efo clefyd y galon, llawdriniaethau arbenigol ar y galon, yn arloesi bob dydd o'r wythnos, ond pwyslais y cynnig hwn ydy triniaeth ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty a'r feddygfa, lle nad oes meddyg neu nyrs ar gael. Mae'n bwysig, fel rydyn ni wedi clywed, i gael yr hyder yn y lle cyntaf i ymyrryd, ac ar ben hynny y gallu i weithredu yn yr argyfwng yma. Mae profiad Denmarc yn dangos, os ydy pawb yn dysgu CPR yn yr ysgol, gellid arbed rhyw 200 o fywydau bob blwyddyn.
Nawr, o ddarganfod rhywun yn anymwybodol yn y stryd, rhaid sicrhau, wrth gwrs, taw ataliad ar y galon sydd wedi digwydd, a sicrhau bod anadl, chwilio am y pwls, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel, os taw chi sydd yn ymyrryd. Wedyn gweithredu CPR yn ddisymwth—dwy law ar y frest yn gadarn ac yn galed ac yn gyflym i gyfeiliant un ai 'Nellie the Elephant' neu 'Staying Alive' yn eich pen—ac anfon rhywun i ôl diffibriliwr a ffonio 999 i gael ambiwlans brys. Achos mae'r bobl yma wedi marw. Mae pobl yn poeni am wneud niwed, ond mae'r bobl yma wedi marw. Roedd Alun wedi marw. Allwch chi ddim gwneud y sefyllfa yn waeth. Tri y cant sydd yn goroesi. Mewn rhai achosion, mae 8 y cant yn goroesi. Tri y cant o bobl oedd wedi marw nawr yn fyw, ac mae Alun yn un o'r rheina. Dyna pam mai gwyrth yw e, ac mae eisiau pob clod i hynny. Ond, wrth gwrs, mae mwy o bobl yn goroesi mewn gwledydd lle mae yna fwy o hyfforddiant yn rhoi mwy o hyder i bobl i ymyrryd yn y lle cyntaf. Gyda'r hyder hynny, mi all mwy o bobl weithredu. Bydd pobl yn gwybod beth i'w wneud, bydd pobl yn peidio â mynd i banig, ac wrth wneud cymorth cyntaf a CPR, byddan nhw'n gwybod beth i'w wneud yn reddfol. Dyna pam y dylai fod yn orfodol yn yr ysgolion.
Ac i orffen, felly, mae'n rhaid gwella argaeledd defibrillators cymunedol. Rhaid iddyn nhw fod yn amlwg; rydyn ni'n gwybod eu bod nhw yna. Mae pobl wedi bod yn casglu arian—rydyn ni'n gwybod eu bod nhw yna. Mae eisiau rhagor ohonyn nhw. Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cofrestru, fel y dywedodd Mick Antoniw. Mae'n rhaid i rywun edrych ar eu holau nhw, achos does dim pwynt cael un sydd ddim yn gweithio. Rhaid inni wybod lle maen nhw, ac mae hefyd angen y gofrestr, ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn cynnal a chadw cyson.
Mae pob munud yn cyfri yn y math o argyfwng y gwnaeth Alun Davies ei ddioddef. Dyna pam mae'n rhaid inni gael pobl sy'n fodlon ymyrryd, a'r defibrillators a'r ambiwlansys. Mae Alun wedi crisialu hynny'n berffaith yn ei gyfraniad ac yn ei hanes ysbrydoledig. Mae'n ofynnol i ni gyd chwarae ein rhan—cefnogwch y cynnig.