Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 21 Hydref 2020.
Efallai ei bod yn arwyddocaol fod EDF, y cwmni y tu ôl i'r prosiect, bellach wedi teimlo bod angen cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i Cyfoeth Naturiol Cymru fynnu eu bod yn gwneud hynny. Credaf fod hynny'n gydnabyddiaeth o'r angen am ddadansoddiad cynhwysfawr a thrylwyr o samplau gwaddodion. Ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r cynllun samplu cychwynnol, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus wrth gwrs. Hyderaf y bydd gwaith cwmpasu EDF yn gynhwysfawr, ac mae'n bwysig wrth gwrs fod y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi i bawb eu gweld.
Nawr, dywed EDF ei fod yn bwriadu mynd ymhellach na'r gofynion rheoliadol arferol er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd. Wel, mae hynny ynddo'i hun, rwy'n meddwl, yn fesur o effeithiolrwydd yr ymgyrch hyd yma, ac fe arhoswn i weld manylion ynglŷn â pha mor drylwyr a pha mor ddwfn fydd y profion, gan gynnwys profion ar gyfer gronynnau allyrru alffa pur a thritiwm.
Felly, i ddyfynnu EDF ar eu rheswm dros y penderfyniad unochrog i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol, maent yn dweud hyn:
Credwn ei bod yn iawn inni fynd y tu hwnt i ddadleuon technegol i roi'r hyder angenrheidiol i'r cyhoedd fod yr holl bryderon wedi cael sylw.
'Yr holl bryderon wedi cael sylw'—wel, byddwn yn gobeithio hynny hefyd, oherwydd ceir y fath lefel o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn fel bod yn rhaid inni gadw hyder y cyhoedd hefyd. Ac mae hynny'n newyddion i'w groesawu gan na chynhaliwyd asesiad effaith o'r fath cyn y gwaredu cychwynnol yn 2018. Ac mae'n rhaid i mi ddweud nad oes gan y diwydiant niwclear hanes da iawn yn gyffredinol o fod yn agored ac yn dryloyw, ffaith a allai esbonio rhywfaint ar y gwrthwynebiad rydym yn edrych arno yma yng Nghymru i'r cynigion hyn.
Felly, mae Plaid Cymru yn cefnogi asesiad llawn a thryloyw o'r effaith amgylcheddol, sef prif fyrdwn y ddeiseb sydd ger ein bron heddiw, yn syml iawn oherwydd hanes y safle; mae wedi bod yn orsaf ynni niwclear ers dros hanner canrif. Mae gronynnau ymbelydrol o bibellau all-lif Hinkley Point A, a oedd yn weithredol rhwng 1965 a 2000, a Hinkley Point B, sydd wedi bod ar agor ers 1976, wedi'u fflysio i fae Bridgewater dros y 55 mlynedd diwethaf. Ac wrth gwrs, gwyddom fod plwtoniwm wedi gollwng o Hinkley Point A yn y 1970au, a allai hefyd fod wedi halogi'r mwd y maent am ei waredu nawr yn nyfroedd Cymru wrth gwrs. A'r cynnig newydd hwn, cofiwch, yw gwaredu wyth gwaith cymaint o fwd o'i gymharu â'r gwaredu olaf yn 2018. Mae'n 600,000 tunnell ciwbig, o'i gymharu ag 82,000 tunnell y tro diwethaf.
Mae digon o amser wedi mynd heibio i alluogi'r asesiad o'r effaith amgylcheddol y tro hwn i archwilio ac asesu'r hyn a ddigwyddodd i'r gwaddod a adawyd ar safle gwasgaru Cardiff Grounds yn 2018. A dylai'r asesiad o'r effaith amgylcheddol hefyd sicrhau bod lefelau ymbelydredd ar hyd arfordir deheuol Cymru yn cael eu mesur cyn unrhyw waredu pellach, a byddai hynny'n rhoi data llinell sylfaen i ni ar gyfer pennu unrhyw gynnydd mewn ymbelydredd o ganlyniad i unrhyw waredu pellach. Gyda'r amrediad llanw yn afon Hafren wrth gwrs, mae'n debygol iawn y bydd y mwd hwn yn gwasgaru'n bell ac yn eang a gellid golchi gronynnau ar y lan, a dylid mesur ac asesu effeithiau hyn hefyd ar bobl sy'n byw ar hyd yr arfordir ac yn defnyddio'r traethau, hyd yn oed y rhai sy'n bwyta bwyd môr.
Sefydlodd profion yn Cumbria yn y 1980au gan ymchwilwyr o'r Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Harwell fod gwaddodion a waredwyd o waith gorsaf niwclear Sellafield wedi'u golchi ar y lan ac wedyn wedi'u chwythu sawl milltir i mewn i'r tir. Felly, dylai unrhyw asesiad effaith ar y cynnig hwn ganolbwyntio hefyd ar y posibilrwydd y caiff y mwd hwn ei olchi ar y lan a'i chwythu i mewn i'r tir o arfordir de Cymru. Mae deall i ba raddau y gwasgarir y mwd hwn, yn enwedig ar ein glannau, ac effaith yr union ronynnau a gynhwysir ynddo a all fod yn niweidiol i fywyd gwyllt ac i bobl yn hollbwysig. Dylai mesur cynhwysfawr hefyd olygu profion i ganfod allyrwyr alffa, nid dim ond allyrwyr gama, oherwydd mae allyrwyr alffa yn fwy peryglus pan gânt eu hanadlu.
Yn ystod fy nghyfarfod fis diwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, fe'i gwneuthum yn glir beth roeddwn yn ei ddisgwyl o'r broses hon cyn bod unrhyw bosibilrwydd o roi trwydded ar gyfer gwaredu pellach. Ac mae EDF yn cyflawni'r asesiad hwn o'r effaith amgylcheddol, ond wrth gwrs, ni ddylid caniatáu iddo farcio'i waith cartref ei hun. Mae angen iddo ddangos ei holl waith yn gyhoeddus fel y gallwn i gyd ymddiried yng nghadernid a dilysrwydd y broses. Os yw Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn mynd i olygu unrhyw beth, rhaid i'r egwyddor ragofalus fod yn berthnasol yma. Rhaid i'r baich cyfrifoldeb fod ar EDF a Cyfoeth Naturiol Cymru i brofi bod gwaredu mwd yn ddiogel y tu hwnt i amheuaeth ac nid dim ond gadael i ymgyrchwyr geisio profi nad ydyw, a dylai unrhyw fethiant yn hynny o beth olygu na waredir y mwd. Byddaf yn gwylio'r broses gyda llygad barcud, fel y gwn y bydd eraill rwy'n siŵr dros y misoedd nesaf i sicrhau ein bod yn cael y canlyniad cywir i'n hamgylchedd ac i iechyd a lles pobl Cymru wrth gwrs.