7. Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:29, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon. Rwyf wedi gwrthwynebu gwaredu gwaddodion a garthwyd o safle gorsaf bŵer niwclear Hinkley C yn y gorffennol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch diogelwch gwaddodion. Efallai fod y gwaddod a garthir yn cael ei waredu yn rhanbarth Canol De Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar fy rhanbarth i, sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd ac yn hafan i fflora a ffawna morol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi lleisio pryderon am ddiogelwch y gwaddod, a diolch i'r ffaith ein bod wedi mynegi'r pryderon hynny, a diolch i ymdrechion y ddeiseb hon, mae EDF bellach wedi cydsynio i asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol ac wedi penodi CEFAS i gynnal profion radiolegol dwfn.

Rwy'n gobeithio y bydd CEFAS hefyd yn gwneud profion am ystod ehangach o radioniwclidau. Dengys ymchwil a gynhaliwyd mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w canfod ar ddyfnderoedd mwy nag 1m. Gwyddom hefyd fod 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau wedi'u cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y cynhaliwyd profion amdanynt. Cynhaliodd yr arolygon gwaddodion brofion ar gyfer caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na chafwyd profion ar gyfer y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn creu risg i iechyd pobl? Wrth gwrs eu bod, ond ni chafwyd profion ar eu cyfer, nac ar gyfer y 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol yn yr hyn a ollyngir o'r hen orsafoedd niwclear hyn. Mae angen i CEFAS gynnal profion ar gyfer y rhain.

A fydd yr adroddiad a'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn barnu bod y gwaddod yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd? Oherwydd ni allwn fentro gwneud niwed di-ben-draw i'n hecosystem a bygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd, fel Rhosili, bae'r Tri Chlogwyn a bae Rest. Rhaid inni fod yn agored ac yn dryloyw. Pan fydd y gwaredu'n dechrau, pwy all ddweud a fydd hynny'n agor y drysau i waredu gormodol o fwy a mwy o fwd, mwy nag a awgrymwyd? Rwy'n llwyr gefnogi'r deisebwyr ac yn diolch iddynt unwaith eto am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd morol Cymru. Diolch yn fawr.