8. Dadl Plaid Cymru: Dyfodol Addysg

Part of the debate – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM7440 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi sicrwydd amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd yn lle hynny;

b) sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.

c) sicrhau bod pob disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:

i) cymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a

ii) ymrwymo i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg;

d) sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;

e) cynnal hawliau pob disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i ad-drefnu ysgolion;

f) blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion;

g) cefnogi myfyrwyr addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio gartref;

h) atal prentisiaid rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu diswyddo;

i) cynnal hawliau cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith drwy brofion.