– Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
Symudwn at eitem 8: dadl Plaid Cymru ar ddyfodol addysg. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7440 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi sicrwydd amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd yn lle hynny;
b) sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.
c) sicrhau bod pob disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:
i) cymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a
ii) ymrwymo i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg;
d) sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;
e) cynnal hawliau pob disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i ad-drefnu ysgolion;
f) blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion;
g) cefnogi myfyrwyr addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio gartref;
h) atal prentisiaid rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu diswyddo;
i) cynnal hawliau cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith drwy brofion.
Diolch yn fawr. Mae'n cynnig ni y prynhawn yma'n canolbwyntio ar agweddau pwysig ac amserol o'r byd addysg yng Nghymru. Yn gyntaf, arholiadau ac asesu a'r angen am newid sydd wedi'i danlinellu gan COVID a gan ofynion y cwricwlwm newydd, ac mi fyddaf i'n ymhelaethu ar hyn yn fy nghyfraniad i. Agwedd bwysig arall ydy hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru. Mae cynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes yr iaith Gymraeg, yn hanfodol i ddisgyblion ar draws Cymru fel bod ganddynt ymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol Cymru ac o sail hanesyddol ein cymdeithas gyfoes. Er bod rhai agweddau pwysig yn elfennau mandadol o'r cwricwlwm newydd, megis addysg rhywioldeb a pherthnasau, mae rhai rhannau a grwpiau o'n cymdeithas ni wedi cael eu hanghofio. Mae cymunedau pobl ddu a phobl o liw yn haeddu parch a statws yn y cwricwlwm newydd, a hefyd rôl y cymunedau amrywiol hynny yn hanes Cymru fodern. Felly, cefnogwn fod hanes pobl ddu a phobl o liw yn elfen statudol o'r Bil fel rhan o strategaeth i gryfhau hunaniaeth Cymru yn ei holl amrywiaeth ac i ddileu hiliaeth.
Mi fyddwn ni'n sôn am brentisiaethau ac addysg bellach y prynhawn yma—yr angen i gefnogi prentisiaid sy'n cael eu heffeithio ar lefel gwaith ac ariannol oherwydd COVID-19. Mi fyddwn ni'n trafod lles meddyliol ac emosiynol ein pobl ifanc ac mi fyddwn ni'n trafod y Gymraeg, a'r angen i gymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ymhob sector a chyfnod dysgu. Mae gan Abertawe a Rhondda Cynon Taf yr un cyfraniad a'r un cyfrifoldeb yn yr ymdrech genedlaethol hon ag sydd gan Wynedd a Cheredigion.
Rydw i am droi at arholiadau. Mae ffiasgo arholiadau'r haf yn dal yn fyw iawn ym meddyliau ein pobl ifanc ni. Maen nhw'n cofio ei bod hi wedi cymryd ymdrech enfawr—ac mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn ganolog i'r ymdrech honno—i gael gwared ar system yr algorithm, a oedd yn mynd i fod yn annheg iawn i lawer o bobl ifanc. Ar ôl penderfynu, yn gwbl iawn, i ganslo'r arholiadau, aed ymlaen yn ddiangen i ddefnyddio fformiwla fathemategol fethedig. Yn y diwedd, fe newidiodd Gweinidog Addysg Cymru ei meddwl, ar ôl cryn frwydro, ac fe ddefnyddiwyd asesiadau'r athrawon. Rhoddwyd ffydd yn yr athrawon, y bobl broffesiynol sy'n adnabod ein pobl ifanc orau, ond gellid fod wedi gwneud hynny o'r cychwyn cyntaf ac osgoi'r holl ffiasgo a'r holl boen meddwl a phryder i bobl ifanc.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud ers yr haf na ddylid cynnal arholiadau lefel A a TGAU yr haf nesaf chwaith. Roeddem ni'n dweud hynny gan fod yr arbenigwyr yn dweud wrthym ni y byddai yna ail don o'r coronafeirws yn yr hydref. Mi oeddem ni o'r farn y byddai gwneud penderfyniad buan, cyn i'r ysgolion ailagor, hyd yn oed, ym mis Medi, yn ffordd deg o symud ymlaen, ac mi fyddai ein pobl ifanc ni, a'u hathrawon a'u rhieni, yn gwybod beth oedd i ddigwydd, efo digon o amser i newid cyfeiriad a newid trefniadau. Gellid defnyddio asesiadau athrawon, a byddai digon o amser i greu dull synhwyrol o safoni. Dydy hi ddim rhy hwyr, ac rydyn ni'n parhau i bwyso am ganslo arholiadau'r haf nesaf, ac erbyn hyn mae pwysau cynyddol yn dod o bob cyfeiriad. Gobeithio y daw penderfyniad ar 9 Tachwedd, sef y dyddiad sy'n cael ei grybwyll bellach ar gyfer gwneud penderfyniad. A dwi'n mawr obeithio na fydd y Gweinidog Addysg yn dilyn Lloegr yn slafaidd unwaith eto, ac y cawn y penderfyniad cywir i bobl ifanc Cymru.
Wrth i'r feirws ledaenu ac wrth i'r sefyllfa ddifrifoli, mae disgyblion yn colli'r ysgol am eu bod nhw'n hunanynysu. Mae'r amharu ar rediad eu haddysg yn cynyddu yn gyflym. Mae disgyblion oed arholiadau yn mynd i golli mwy o'u haddysg yn y cyfnod clo byr; mae hyn ar ben yr addysg a gollwyd dros y cyfnod clo mawr. Ac mae rhai pobl ifanc yn mynd i golli mwy nag un cyfnod o'u haddysg, a'r cyfnodau yma'n digwydd ar wahanol amseroedd o ysgol i ysgol, o goleg i goleg, efo gwahanol bobl ifanc yn colli gwahanol ddarnau o waith. Ac eto, pawb yn eistedd yr un arholiad.
Dydy gwneud y gwaith o bell ddim yn bosib i lawer. Mae yna nifer o hyd heb ddyfais electronaidd, heb gysylltedd band eang, a heb y lle a'r llonydd yn y cartref i wneud eu gwaith, gan olygu'n aml mai'r bobl ifanc o gefndiroedd tlawd sydd yn colli allan ac yn cael eu gadael ar ôl, a dydy hynny ddim yn deg.
Mae yna ddull amgen o asesu cynnydd person, un fyddai'n cynnwys asesu parhaus ac asesiadau athrawon. Dydy hi ddim fel petai yna ddim dewis ond arholiadau; mae yna ddewis, a gorau po gyntaf y penderfynir ar hwnnw, a chael gwared ar yr ansicrwydd a rhoi chwarae teg i bawb.
Ac yn y tymor hir, mae angen cael gwared ar obsesiwn y Llywodraeth efo arholiadau ac angen creu system sy'n cofnodi cyrhaeddiad yr unigolyn. Mae angen i'r system addysg drwyddi draw sifftio o bwyslais gormodol ar arholiadau, profion, tystysgrifau, a symud at sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir ar gyfer byd gwaith, ac ar gyfer bywyd yn y dyfodol.
Mae Cwricwlwm Cymru yn cynnig rhan o'r ateb, ond mae'r system gyfan angen newid. Mae hyn yn cynnwys ailfeddwl am gymwysterau ac asesiadau, gan ddechrau efo trafodaeth ystyrlon am TGAU. Oes angen cymhwyster o gwbl ar gyfer pobl ifanc 16 oed, pan fod y mwyafrif helaeth iawn yn aros mewn addysg? Mae eisiau symud o un arholiad sydd yr un peth i bawb ac sy'n rhoi gradd ar sail nad yw'n mesur y sgiliau iawn. Mae gan Gwricwlwm Cymru, o'i wreiddio'n iawn, y gallu i symud y pwyslais i ddysgu a sgiliau. Mae'n rhaid i'r ffordd yr ydym yn asesu gael ei alinio yn iawn iddo hefyd, neu bydd o ddim yn gweithio, a bydd ysgolion yn parhau i ganolbwyntio ar y graddau yn hytrach na chynnydd yr unigolyn.
Mae gennym ni gyfle gwirioneddol i greu system addysg ardderchog yng Nghymru, un sydd ddim yn gadael yr un plentyn na'r un person ifanc ar ôl. Mae'r cwricwlwm yn cynnig cyfle inni gychwyn ar y daith honno. Mae angen craffu ar y Bil yn fanwl dros y misoedd nesaf, gan wneud yn siŵr y bydd y cwricwlwm yn wirioneddol ffit i bwrpas y Gymru fodern, ac mae o angen cael ei gefnogi efo adnoddau a hyfforddiant ystyrlon, ac mae angen i'n dulliau asesu ni newid hefyd.
Ein plant a'n pobl ifanc ydy ein dyfodol; nhw ydy dyfodol ein cenedl. Dydyn nhw ddim yn cael amser hawdd ar y funud, ond fe ddaw cyfnod gwell. Mae angen i ni yn y Senedd roi pob cefnogaeth iddyn nhw yn y cyfnod COVID yma, ond hefyd drwy sicrhau bod yr hadau yr ydym yn eu plannu ar gyfer gwyrdroi ein system addysg—fod yr hadau rheini yn tyfu'n gryf ac yn tyfu i'r cyfeiriad cywir. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pawb yn y ddadl bwysig yma.
Detholwyd naw gwelliant i'r cynnig. A galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1 i 9, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;
pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'
Gwelliant 4—Darren Millar
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol â hynny:
'sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system well o asesu a chymwysterau cyffredinol sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig;'
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ymddiheuro am gynifer o welliannau? Ond diolch am eu dewis. Ond wrth gwrs, roeddem am ddangos parch at y cynnig gwreiddiol, a oedd â llawer o wybodaeth ynddo. Efallai'n llai o gynnig portmanto a mwy o gist ddillad, sy'n mynd i alw am nifer o lwythwyr cyhyrog i'w chodi oddi ar y ddaear, felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi bod yn bwyta ein sbigoglys i ddod drwy hon.
Siân, rydym yn sicr yn rhannu rhai o'ch pryderon am ddyfodol addysg, a dyna pam ein bod yn edrych ymlaen at y cwricwlwm newydd a rhai o ddiwygiadau eraill y Llywodraeth, gyda gobaith, ond gyda chryn dipyn o anesmwythyd hefyd. Ond mae gwahaniaeth, rwy'n meddwl, rhwng arloesi mawr ei angen, a bod yn ddiofal. Ni ddylai'r camau brys a gymerwyd o ganlyniad i'r haf cythryblus a gawsom gael unrhyw statws fel prawf o werth ffordd ymlaen heb arholiadau. Rydym wedi ymwroli a derbyn y gallai'r tarfu parhaus ar addysg disgyblion gyfiawnhau culhau'r maes llafur, ond holl bwynt gadael i hynny ddigwydd fyddai er mwyn caniatáu i arholiadau fynd rhagddynt heb leihau eu trylwyredd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gallai ymateb Llywodraeth Cymru i COVID gyflwyno sefyllfa ddi-droi'n-ôl, a allai olygu bod paratoi ar gyfer arholiadau mewn ffordd sy'n deg i bawb yn amhosibl.
Ac felly mae'n ofid i mi nad yw ysgolion uwchradd ar agor yn llawn yn ystod y cyfyngiadau cenedlaethol hyn. Roedd pob arweinydd cyngor am iddynt agor, fel y clywsom yn gynharach, ac mae'n bosibl y bydd y penderfyniad yn dod â'r sefyllfa ddi-droi'n-ôl honno ychydig yn nes, ar yr un pryd â methiant i ystyried effeithiau cronnol eraill absenoldeb estynedig o'r ysgol. Ar 15 Hydref, dim ond 83.7 y cant o ddisgyblion oedd yn mynychu ysgol; dyma ganlyniad, yn rhannol, grwpiau ysgol enfawr yn cael eu hanfon adref—rhaid i hynny ddod i ben. Rydym eisoes yn gwybod bod plant Cymru wedi cael llai o hyfforddiant yn ystod y cyfyngiadau na phlant mewn rhannau eraill o'r DU, ac rydym i gyd wedi clywed lleisiau teuluoedd, ac fe fyddwch chi wedi clywed llais Comisiynydd Plant Cymru. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr nad yw'r sefyllfa ddi-droi'n-ôl hon yn dod mewn gwirionedd, ond os bydd angen i ysgolion Cymru newid i gynllun B, dylai gwneud penderfyniad ynglŷn â pha bryd i wneud hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth gan athrawon a phobl ifanc, nid Cymwysterau Cymru yn unig, ond wedi'i wneud o fewn y ffrâm amser y cyfeirir ati yn y gwelliant.
Mae angen sicrwydd ar ysgolion fel ar fusnesau; dyna fy mhwynt ar hyn. Ond nid yw sicrwydd yr un fath â rhoi'r gorau i ymdrechu fel y mae'r SNP wedi'i wneud drwy gael gwared ar arholiadau. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn diweddaru arholiadau a gallu cael y gorau gan ein pobl ifanc, drwy gydnabod nad ydym i gyd yn dysgu yn yr un ffordd, a dyna yw ein gwelliant 4, a byddwch yn sylwi ei fod yn cyfeirio'n benodol at gyrsiau a chymwysterau galwedigaethol. Gan ei bod yn ddigon posibl fod Cymwysterau Cymru'n gweithio ar fersiynau newydd o'r rhain wedi'u llunio yng Nghymru, ond y cwricwlwm newydd—mae'r cychwyn yn ymwneud â hyblygrwydd i gyfateb i allu, ac felly bydd angen hawl i ddisgyblion allu cael mynediad at gyrsiau y tu allan i'r ysgol a cheisio am gymwysterau cydnabyddedig nad ydynt wedi'u gwneud yng Nghymru o bosibl, yn y tymor canolig hwn o leiaf. A dylent gael yr hawl honno nes eu bod yn 18 oed.
Credaf eich bod yn iawn, Blaid Cymru, i godi mater prentisiaethau, ond credaf fod hynny'n haeddu dadl ar wahân a dweud y gwir, ac ymateb manwl gan Weinidog yr economi, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant i'r cynnig ar hynny. Ond nid oes gennym unrhyw fwriad o roi disgyblion Cymru dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion mewn mannau eraill, ac mae hynny'n cynnwys Lloegr. Mae angen inni oresgyn yr anfantais sydd yno eisoes drwy godi safonau cyn inni gweryla ynglŷn â sut i brofi bod y safonau hynny wedi'u codi.
Gan symud ymlaen, tybed a gaf fi wahodd yr Aelodau i dderbyn ein gwelliant ar achos Driver, ar sail symlrwydd llwyr? Mae pethau wedi symud ymlaen ers dad-ddethol gwelliant 10, ond a gaf fi eich gwahodd hefyd i ystyried barn Comisiynydd y Gymraeg sy'n nodi, os ydym am gael pobl ifanc yn gadael yr ysgol yn fedrus mewn o leiaf ddwy iaith, fod angen i'r gweithlu addysg fod yn gymwys i gyflawni hynny? A gwyddom ein bod yn ei chael hi'n anodd cael athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni waeth pa mor dda y mae'r sgiliau hyn yn cael eu hymgorffori mewn hyfforddiant i athrawon yn y dyfodol, y gweithlu presennol fydd yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Bydd angen y cymorth mwyaf posibl ar lawer ohonynt i allu gwneud hyn yn hyderus, a bydd unrhyw dargedau ac unrhyw Ddeddf addysg newydd yn uchelgais gwag os nad oes gan ein hathrawon fodd o gydymffurfio. Mae angen cael continwwm cefnogol i gyd-fynd â'r cwricwlwm er mwyn helpu athrawon pryderus i ddechrau ar hyn, cyn iddynt fynd yn fwy pryderus am Fil sy'n anochel o ymwneud mwy â'r ffon na'r abwyd.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, da iawn, Weinidog, am wneud cynnydd cymedrol ar argymhellion 'Cadernid Meddwl'. Yn sicr, mae angen i iechyd gyflymu ar hyn hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y penderfyniad heddiw. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod yn cefnogi pwyntiau eraill yn y cynnig, ond credaf fod cryn gefnogaeth i broffil uwch i iechyd meddwl yn y system addysg wrth inni symud ymlaen yn eithaf hanfodol, nid yn y cwricwlwm, ac i athrawon ac addysgwyr yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu haddysgu. Diolch.
Ni ddewiswyd gwelliant 10, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, yn unol â Rheol Sefydlog 12.23. Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n credu ein bod i gyd mewn perygl o anghofio pa mor anodd y gall fod i fod yn berson ifanc. Mae cymaint o bwysau y mae cymdeithas yn eu rhoi ar yr ifanc—arholiadau ie, ond hefyd straen a disgwyliadau ynglŷn â sut y dylent edrych, delfrydau ynghylch delwedd y corff wedi'u trwytho gan hysbysebion ac Instagram, bwlio, a phwysau i gael y lleoliad gyrfa cywir neu wneud y penderfyniad cywir ar eu ffurflen Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau.
Mae tyfu i fyny yn ein cymdeithas yn ddigon anodd fel y mae, ond eleni, i ffwrdd oddi wrth eu ffrindiau a threfn ysgol arferol, bydd ein pobl ifanc wedi wynebu straen ac unigrwydd digynsail. Dros yr haf, aeth pobl ifanc 17 a 18 oed drwy bryder diangen pan ddywedwyd wrthynt mai algorithm fyddai'r ffordd orau o bennu eu dyfodol, er bod yr algorithm hwnnw'n cosbi pobl am fyw mewn ardaloedd tlawd—algorithm a osododd nenfwd ar eu huchelgais.
Roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei meddwl ynglŷn â'r penderfyniad trychinebus hwnnw, a bod pobl ifanc wedi cael eu dyfodol yn ôl. Ond mae'n rhaid i ni ddysgu gwers o'r hyn a ddigwyddodd. Ni ellir ailadrodd y camgymeriad hwnnw, a dyna pam y mae ein cynnig heddiw'n galw am warant na fydd arholiadau'n cael eu cynnal y flwyddyn nesaf ac y bydd proses gadarn o asesu gan athrawon yn dod yn eu lle. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y misoedd nesaf.
Ond fel Gweinidog yr wrthblaid Plaid Cymru dros y dyfodol, credaf fod angen inni asesu'r hyn rydym am i'n plant ei gael o'r ysgol. Fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi nodi, bydd sgiliau fel creadigrwydd, datrys problemau a deallusrwydd emosiynol hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol oherwydd bydd yn debygol y bydd yn rhaid i ni weithio'n hirach ac addasu setiau sgiliau'n gyflymach. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o feithrin y sgiliau hyn y gellir eu trosglwyddo yn hytrach na dim ond dyfarnu marciau statig cyfyngedig ar ddarn o bapur.
A yw'n deg rhoi marc i unigolyn 16 oed a all naill ai agor drysau neu eu cau am byth? Does bosibl na ddylai addysg ymwneud â chysylltu plant â'u cymuned a chenedlaethau eraill, oherwydd mae dysgu'n cael effaith gymdeithasol hefyd. Yr wythnos hon, bydd Aelodau o bob rhan o'r Senedd yn lansio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng y cenedlaethau, a chredaf fod hwn yn faes y bydd yn rhaid i'n gwleidyddiaeth ddychwelyd iddo.
Ar wahân i arholiadau, mae ein cynnig heddiw'n sôn am y pwysau mawr sy'n wynebu ein pobl ifanc. Ddiwedd mis Awst, cyhoeddwyd adroddiad a ofynnodd i blant mewn 35 o wledydd sut roeddent yn teimlo am y dyfodol a hwy eu hunain. Gan y plant yng Nghymru oedd rhai o'r sgoriau isaf o ran hapusrwydd. Yn waeth na dim, nid eleni yn ystod y pandemig y casglwyd y canlyniadau sobreiddiol hyn, ond ddwy flynedd yn ôl. Rwy'n arswydo meddwl cymaint gwaeth y gallai'r rhagolygon fod pe bai'r un bobl ifanc yn cael eu harolygu heddiw.
Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, ysgrifennais lythyr agored at bobl ifanc Cymru, yn dweud nad nodi'r canfyddiadau yn unig, ysgwyd ein pennau a symud ymlaen y dylem ei wneud. Dylent fod yn destun cywilydd i bob un ohonom. Pobl ifanc yw ein dyfodol. Hwy yw'r goleuni sy'n ein harwain. Dylai wneud inni stopio'n stond fod rhagolygon y bobl ifanc hyn ar eu dyfodol eu hunain mor llwm, a dylem weithredu i newid hyn.
Lywydd dros dro, mae ein cynnig heddiw yn galw am ddarparu cymorth iechyd meddwl, am wasanaethau cwnsela a therapi i fod ar gael ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Mae ein cynnig hefyd yn galw am wneud llesiant yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm. Ni ddylid cynllunio gwersi yn yr ysgol ar sail cyflawniad academaidd yn unig, dylent feithrin cadernid pobl ifanc a meithrin cysylltiadau'r bobl ifanc hynny â'u cymunedau. Yr un mor bwysig, dylai'r ysgol ymwneud â chanfod a theimlo llawenydd.
Lywydd dros dro, mae ein cynnig yn mynd ymhellach. Mae'n ymdrin â chynnwys y cwricwlwm ei hunan, gan ddweud y dylai pob disgybl gael dealltwriaeth o hunaniaeth a hanes Cymru a'r straeon amryw sydd wedi'u gweu at ei gilydd i greu ein cenedl. Ac mae ein cynnig yn ceisio rhoi'r hawl i blant Cymru ddysgu drwy'r iaith Gymraeg. Eleni, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi gorfod wynebu straen a phryderon. Drwy basio'r cynnig hwn, bydd ein Senedd yn dangos ein hymrwymiad i'w llesiant, i'w datblygiad, ac i'w dyfodol. Rwy'n gobeithio bydd Aelodau eraill yn teimlo yr un peth.
Rwy'n credu bod hwn yn ymarfer o ran sut i beidio ag ysgrifennu cynnig, oherwydd mae mor llawn o ddatganiadau mawreddog a gormodiaith, ond dim am gymhlethdod y sefyllfa bresennol y mae ysgolion yn ei hwynebu, a hefyd, rwy'n meddwl ei fod yn achub y blaen ar waith ein cyd-Aeodau yn y pwyllgor plant a phobl ifanc. Felly, fel cyfres o gynigion, mae'n cwmpasu o leiaf bedwar pwnc gwahanol—mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Serch hynny, mae Suzy Davies a Delyth Jewell ill dwy wedi gwneud pwyntiau pwysig y bydd angen i'r pwyllgor plant a phobl ifanc eu hystyried, ond rwy'n credu mewn gwirionedd nad yw'r cynnig ei hun yn gwneud cyfiawnder â'r naill ochr na'r llall, oherwydd nid yw'r gwelliannau'n ei glirio mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn amlwg fod yn rhaid inni roi blaenoriaeth i les meddyliol pobl ifanc yn y cwricwlwm newydd, oherwydd gwyddom fod llawer o bobl ifanc wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, ac mae angen inni sicrhau o ddifrif nad yw hyn yn digwydd wrth symud ymlaen.
Ymwelais â'r ysgol lle rwy'n llywodraethwr—yr ysgol uwchradd lle rwy'n llywodraethwr—yn fy etholaeth heddiw, a gwnaeth y trefniadau a wnaed yn ysgol Teilo Sant er lles myfyrwyr a staff argraff fawr arnaf. Roeddwn yn meddwl bod y cynlluniau'n rhagorol, a'r holl athrawon sy'n symud o un ystafell ddosbarth i'r llall, yn hytrach na'r disgyblion fel sy'n arferol yn yr ysgol uwchradd, ond mae hynny'n galluogi pob dosbarth o fewn pob grŵp blwyddyn i fod mewn swigod ar wahân. Felly, mae gan bob grŵp blwyddyn ei ran ei hun ar wahân o'r adeilad gyda'i le chwarae awyr agored ei hun, ac mae ffenestri ar agor i bob ystafell ddosbarth iddi gael ei hawyru'n briodol. Nid yw Blwyddyn 7 yn ei chael yn anodd dilyn hyn, am ei fod fwy neu lai'n barhad o'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol gynradd. Blwyddyn 8—cafwyd rhywfaint o ddysgu pwrpasol iawn ac addysgu rhagorol, a'r hyn sy'n digwydd ym mlwyddyn 8 yw bod swyddog cyflawniad yn eistedd yn y coridor y tu allan i'r wyth ystafell ddosbarth, ac mae ar gael i oruchwylio unrhyw un o'r rhesymau pam fod disgybl yn gadael yr ystafell ddosbarth yn ystod gwers, a hefyd ar gael i siarad â disgyblion am bethau a allai fod yn eu poeni ac a allai fod yn amharu ar eu dysgu. Siaradais â rhywun 13 oed a ddywedodd ei bod yn hoffi'r trefniadau newydd, gan ei fod yn ei gwneud yn haws iddi gyfarfod â'i ffrindiau yn ystod egwyl canol y bore ac amser cinio, gan nad ydynt i gyd yn cael eu gwasgaru i wahanol rannau o'r hyn sy'n ysgol eithaf mawr.
Fe'm trawyd yn arbennig gan y trefniadau dysgu diwygiedig ar gyfer pobl ifanc sy'n ei chael yn anodd iawn dilyn y cwricwlwm uwchradd llawn, a dywedodd llawer o'r disgyblion yr euthum i'w gweld sydd ar gymhareb lawer mwy dwys o athrawon i ddisgyblion fod yn llawer gwell ganddynt y system addysgu hon yn hytrach na bod mewn ystafell ddosbarth o 20 i 30 o ddisgyblion. Yn amlwg, mae'n ddrutach o lawer os oes gennych gymhareb o fwy o oedolion i ddisgyblion—mae hynny'n ddrutach o lawer. Ond fe'm trawyd yn fawr hefyd gan y ffordd roedd y pennaeth yn ymdrin â lles ei staff, ac mae trefniadau penodol wedi'u rhoi ar waith ar gyfer aelodau o staff sy'n teimlo bod byw drwy'r pandemig hwn yn brofiad pryderus iawn. Mae'n anodd rhagweld pwy fydd hyn yn cael eu heffeithio'n wael gan hyn, ond roeddent yn drefniadau sensitif iawn—newid amserlenni pobl, diwygio oriau pobl—er mwyn sicrhau nad oedd y bobl hynny'n mynd yn absennol oherwydd salwch a bod rhaid dod ag athrawon cyflenwi i mewn, sy'n cynyddu'r risg. Un o'r pethau eraill sy'n bwysig iawn i bob ysgol sicrhau ei fod yn digwydd yw nad yw unrhyw ddisgybl y nodwyd bod angen prawf arnynt yn cael eu caniatáu yn ôl i'r ysgol nes eu bod wedi cael prawf a'i fod yn negatif. A lle cafwyd prawf positif—a dim ond mewn ychydig iawn o achosion y digwyddodd—mae'r pennaeth eisoes wedi gwneud y trefniadau asesu risg ar gyfer y plentyn unigol fel eu bod yn gwybod yn union pa gamau y mae angen eu cymryd o ganlyniad i'r prawf positif hwnnw.
Felly, credaf fod yr ysgol hon yn dilyn trywydd diogel iawn. Rwy'n hoffi geiriad y gwelliant perthnasol—credaf mai gwelliant 8 o welliannau'r Ceidwadwyr ydyw—ond credaf y byddai'n anghywir tybio bod pob ysgol yn rheoli'r sefyllfa ryfedd hon mewn ffordd gystal ag y mae Teilo Sant yn ei wneud, a tybed pa rôl y mae Estyn a'r consortia yn ei chwarae i sicrhau bod gan bob ysgol gynlluniau asesu risg ac addysgu a dysgu cadarn iawn i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn dysgu cystal â phosibl yn yr amgylchiadau rhyfedd hyn rydym i gyd yn byw trwyddynt.
Yn olaf, rwyf am ddweud—
Dai—. Na, na—
O'r gorau.
Rydych chi ymhell dros chwe munud. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, yn y ddadl yma, dwi'n mynd i ganolbwyntio ar addysg gyfrwng Cymraeg ac o brofiad fel cyn-gadeirydd corff llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach yn Waunarlwydd, Abertawe, â 250 o blant efo 92 y cant o ddisgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae'n debyg mai'r diffyg gweithredu a diffyg unrhyw ymateb ystyrlon i adroddiad yr Athro Sioned Davies, 'Un iaith i bawb', sy'n crisialu'n amlycaf y cynnydd hollol annigonol sydd wedi digwydd ym maes addysg Gymraeg ers datganoli. Dywedwyd wrth y Llywodraeth yn ôl yn 2013 ei bod hi'n unfed awr ar ddeg ac y dylid gweithredu i greu un continwwm dysgu ac un cymhwyster Cymraeg i bawb, ac ar fyrder, i sicrhau nad yw'r system addysg yn amddifadu rhagor o'n pobl ifanc o'u rhuglder yn ein dwy iaith genedlaethol.
Mae cwestiynau caled iawn angen eu gofyn ynglŷn â sut ein bod ni wedi parhau efo'r system ddiffygiol am saith mlynedd heb weithredu. Ac mae gan adran addysg Llywodraeth Cymru lot i ateb yn ei gylch, ond mae gan yr un adran cwestiynau yr un mor ddyrys i'w hateb wrth edrych ymlaen, sef: sut all ddarn o ddeddfwriaeth arfaethedig, sydd, yn ôl Aled Roberts, yn peryglu sail a statws addysg gyfrwng Cymraeg, sy'n gwneud Saesneg yn elfen fandadol o'r cwricwlwm gan danseilio addysg gyfrwng Cymraeg ac sy'n milwrio yn erbyn strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth ei hun—ei eiriau fe ydy'r rheini—wedi gwneud ei ffordd allan o ddrysau rhithiol Parc Cathays o gwbl, heb sôn am ddechrau ar ei thaith seneddol?
Rhywbeth arall fydd yn niweidiol i'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol ydy methu gwerthfawrogi a thyfu'r hyn sydd gennym ni'n barod. Caeodd cyngor Abertawe Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn fy rhanbarth i, yn groes i safonau'r Gymraeg, gan fwrw ymlaen i werthu'r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain a chodi dau fys i ddyfarniad Comisiynydd y Gymraeg am fethiannau niferus wrth ymgysylltu ac ystyried yr effaith ar y Gymraeg.
Mewn achos tebyg iawn yn ddiweddar, aeth criw o drigolion Rhondda Cynon Taf â'r cyngor i gyfraith ac ennill yn erbyn y cyngor yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac ysgolion eraill, sy'n dangos pa mor gryf mae pobl yn teimlo am yr hawl i gael addysg Gymraeg. Mae dyfarniad cadarn y Barnwr Fraser yn ei gyfanrwydd yn gam mawr ymlaen o ran y disgwyliadau gan lysoedd ar awdurdodau cyhoeddus i roi sylw teilwng a phriodol i'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau, ac yn warchodaeth i gymunedau eraill. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Sion Norton yng Nghilfynydd oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar y Gymraeg. Ac mae'r cyngor, wrth geisio herio sail y dyfarniad, yn parhau i fethu'n lân â derbyn nad ydy cynnydd llefydd mewn addysg Gymraeg ar lefel sirol yn gwneud iawn am dynnu darpariaeth o un gymuned, gan olygu y gallai'r disgyblion hynny fod wedi eu colli am byth o addysg Gymraeg, fel y dywedir yn y dyfarniad.
Ategaf yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian ddoe wrth Jeremy Miles: mae'n gywilydd o beth i unrhyw awdurdod cyhoeddus fod yn herio'r dyfarniad ar y sail yma a'r cynseiliau sy'n codi ohono. Mae angen i'r Llywodraeth roi datganiad clir a diamwys na fyddan nhw'n cefnogi apêl ar y sail yma, ac yn lle ceisio tanseilio’r cynseiliau sy’n codi o’r achos, dylid eu hyrwyddo.
Roedd Jeremy Miles yn sôn ddoe bod y Llywodraeth yn ystyried impact y dyfarniad—yr impact ar gynghorau sir fel Abertawe a Rhondda sydd yn parhau i lesteirio ymdrechion i dyfu addysg Gymraeg, beryg. Ond os yw 1 miliwn o siaradwyr yn uchelgais wirioneddol i’r Llywodraeth, dylai groesawu’r effaith gadarnhaol a'r disgwyliadau sy’n codi o’r achos yma o ran ystyried effaith penderfyniadau ar y Gymraeg yn ystyrlon a chynhwysfawr. Mae angen ei weld fel penderfyniad cadarnhaol i gymunedau Cymru, i addysg Gymraeg ac i rym y bobl.
I gloi, wrth gofio Felindre, cefnogwn rieni, athrawon, disgyblion a chymunedau Pontypridd yn eu brwydr dros addysg a’r Gymraeg, gan fod brwydr Pontypridd yn frwydr i Gymru gyfan ac yn crisialu’r dewis sydd i Lywodraeth Cymru: cefnogi cam sylweddol ymlaen i addysg Gymraeg neu gefnogi cynghorau sir sy’n tanseilio'r ymdrechion i greu'r filiwn. Diolch yn fawr.
Cyn i mi symud ymlaen at y materion sy'n ymwneud â'r cynnig, a gaf fi gofnodi fy niolch i staff ein system addysg, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig a'r cyfyngiadau, ac yn enwedig ein hathrawon? Roeddent yn wynebu heriau anodd bryd hynny ac fe wnaethant gamu i'r adwy a chyflawni dros ein pobl ifanc a sicrhau y gallai dysgu ddigwydd. Credaf fod hyn hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod gennym, yng Nghymru, system addysg a oedd â hunaniaeth ddigidol mewn gwirionedd, a chyda system Hwb ar waith, gallodd disgyblion ddatblygu eu sgiliau gartref, drwy gymorth yr athrawon a oedd yn gweithio yn yr ystafelloedd dosbarth. Rwy'n eu canmol am yr holl waith a wnaethant a'r gwaith y maent wedi'i wneud ers hynny.
Rwyf hefyd am siarad am y cynnig nawr, a chredaf fy mod yn cytuno â Suzy Davies: mae'r cynnig hwn mor eang, nid yw'n gwneud cyfiawnder â'r gwahanol elfennau ynddo. Ar un elfen yn unig y gallwn ganolbwyntio, fel arfer, mewn cynnig ac mae cynifer o elfennau yn y cynnig hwn, ac rwy'n credu bod y cwmpas yn rhy fawr i allu canolbwyntio ar un elfen.
Ond rwyf am ganolbwyntio ar y system arholi. Rwy'n cytuno ag Aelodau sydd wedi nodi'r heriau a wynebodd pobl ifanc yn yr haf a'r anawsterau a gawsant pan oeddent yn aros am y canlyniadau, oherwydd nid oeddent yn glir a fyddai'r algorithm hwnnw'n gweithio ai peidio, a phan ddaeth y canlyniadau allan, yr hyn a ddigwyddodd y tu hwnt i hynny, a rhaid inni beidio â gadael i hynny ddigwydd eto. Roedd hynny'n rhywbeth y dylem ddysgu gwersi ohono a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto.
Nawr, lle mae gennym fantais yw bod y rhan fwyaf o unigolion a oedd yn wynebu arholiadau yr haf hwnnw wedi cwblhau eu cyrsiau at ei gilydd erbyn y daeth y cyfyngiadau symud i rym, felly roedd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r deunydd pwnc wedi'i gwblhau—yn ddigon agos. Efallai nad oedd rhai wedi cyrraedd mor bell â hynny eto. Mae'r sefyllfa'n wahanol eleni gan nad yw'r myfyrwyr sydd o bosibl yn wynebu arholiadau yr haf nesaf yn yr un sefyllfa. Byddent wedi colli rhywfaint o addysgu ym mis Mehefin a mis Gorffennaf y byddent wedi'i gael yn y chweched isaf neu ym mlwyddyn 10, ac maent hefyd yn wynebu ychydig o aflonyddwch nawr. Felly, gwyddom ymlaen llaw na fydd y deunydd a'r wybodaeth a'r cymwyseddau a'r sgiliau, o bosibl, ar y lefel y byddem yn disgwyl iddynt fod erbyn i'r arholiadau ddod o dan amgylchiadau arferol, a rhaid inni ystyried hynny.
Nawr, y cwestiwn wedyn yw: ai arholiadau yw'r ateb neu ai mecanweithiau eraill yw'r ateb? Rwyf wedi codi'r cwestiwn o'r blaen ynglŷn ag a ddylem edrych ar ddull wedi'i gymedroli o asesu athrawon. Fe gymeraf y ddau opsiwn yma, Lywydd dros dro. Os dilynwn lwybr arholi a bod yn rhaid cynnal yr arholiadau—ac rydym yn aros am benderfyniad y Gweinidog ar hyn—rhaid inni sicrhau bod yr arholiadau'n adlewyrchu'r galluoedd a'r wybodaeth y mae myfyrwyr wedi'u hennill yn y cyfnod hwnnw. Oherwydd gallai fod gennym faes llafur, ond ni fydd pob ysgol yn cyflwyno'r maes llafur hwnnw yn yr un drefn neu'r un modd, ac felly ni allwch warantu y bydd disgybl ar yr un lefel o wybodaeth a dealltwriaeth i ateb cwestiynau yn yr arholiad yr haf nesaf, yn y ffordd rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, mae'n gwestiwn difrifol iawn: os ydym yn cael arholiadau, sut bethau fydd yr arholiadau hynny mewn gwirionedd a beth fyddant yn ei asesu?
Os ydym am symud at ddull asesu wedi'i gymedroli, rhaid inni wneud y penderfyniad yn gyflym oherwydd bod angen i athrawon a disgyblion ddeall sut y cânt eu hasesu ar gyfer eu graddau, ac mae hynny'n hollbwysig. Rwy'n hapus i roi fy mhrofiad i Blaid Cymru o fod wedi gwneud hynny. Rwyf wedi dysgu ar bob lefel: TGAU hyd at raddau Meistr, ar bob lefel. Rwyf hefyd wedi cymedroli ac arholi ar lefelau ar hyd y llinellau hynny hefyd. Ac mae'n wahanol i'w addysgu, ei asesu a'i gymedroli, ac mae angen deall y profiadau os ydym am wneud hynny. Er mwyn rhoi cymedroli ar waith, mae angen inni weithredu'n gyflym, oherwydd mae angen i athrawon wybod sut y maent wedi rhoi pethau at ei gilydd, mae angen iddynt gael eu dulliau asesu, y cynlluniau marcio asesiadau, mae angen iddynt gael gwaith cwrs enghreifftiol, mae angen eu hanfon at arholwyr i'w cymedroli. Mae yna broses gyfan sy'n rhaid ei rhoi ar waith, ac ni ellir gwneud hynny yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn; mae angen ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, rwy'n cytuno, os ydym yn symud at asesiad athrawon, gorau po gyntaf, felly rwy'n edrych ymlaen at y cyhoeddiad yn yr wythnos sy'n dechrau 9 Tachwedd i gael hynny. Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog addysg i'w roi mor gynnar â hynny.
Ond rwyf hefyd yn ystyried sylwadau llefarydd Plaid Cymru pan agorodd y ddadl, ynglŷn â ble rydym yn mynd gydag asesiadau a ble rydym yn mynd gydag arholiadau. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn gwneud datganiadau eang fod angen inni gael newid, ond mae'r newid hwnnw'n cymryd amser, ac mae angen mynd â phobl gyda chi ar y newid hwnnw. Mae angen mynd â disgyblion, cymdeithas, busnesau, y system addysg, prifysgolion a cholegau gyda chi ar y newid hwnnw, ac nid yn ein gwlad ni'n unig, ond ym mhob gwlad yn y DU a gwledydd ledled Ewrop, oherwydd mae pawb yn cydnabod y mathau hynny o gymwysterau. Os ydym am i'n pobl ifanc allu gweithio yn y byd y tu hwnt i Gymru, rhaid inni sicrhau bod y byd y tu hwnt i Gymru yn cydnabod yr hyn rydym yn ei asesu a'r cymwysterau a fydd ganddynt. Nid darlun tymor byr yw hwnnw; mae'n sefyllfa hirdymor i allu cael hynny, ac os nad ydych yn fy nghredu, ceisiwch edrych ar sut y cafodd bagloriaeth Cymru ei derbyn gan brifysgolion dros y blynyddoedd diwethaf. Gallaf ddweud wrthych o'r adeg pan oeddwn yn gweithio yn y sector ei bod wedi bod yn anodd cael cydnabyddiaeth iddi i ddechrau, yn enwedig gan rai o'r prifysgolion gorau. Mae angen inni sicrhau bod pawb yn dod gyda ni. Mae datganiadau mawreddog yn iawn, ond mae'r realiti'n llawer mwy cymhleth. Felly, os ydych am sicrhau dyfodol cadarn i'n pobl ifanc, fod ganddynt lefydd i fynd yn unrhyw le yn y byd—
Iawn, diolch, David. Roeddwn yn gobeithio eich bod yn dod i ben yn naturiol, ond nid wyf mor siŵr nawr, ond rydych dros y chwe munud. Mandy Jones—
Rwyf am gloi ar bwynt syml iawn—
Na—
Credaf fod dyfodol cryf i bobl ifanc yng Nghymru. Credaf fod y cwricwlwm hwn yn rhoi cyfle iddynt, a chredaf ein bod—
A wnaiff y gweithredwr ddiffodd y sain ar David Rees nawr os gwelwch yn dda? Mandy Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n holl bobl ifanc. Mae eu bywydau, efallai'n fwy nag unrhyw rai o'n bywydau ni, wedi'u troi ben i waered gan y cyfyngiadau symud. Nid ydynt wedi gweld eu ffrindiau, maent wedi gweld colli eu trefn ddyddiol arferol, maent wedi gorfod dod i arfer â gwahanol ffyrdd o ddysgu, byw a bod, ac mae'r rhai sy'n gwneud arholiadau eleni wedi cael set benodol o bryderon, ac er fy mod yn falch fod y DU wedi mabwysiadu dull cyffredin gydag asesiadau athrawon, rwy'n gweld bod gwledydd eraill wedi parhau ag arholiadau a drefnwyd, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol. Rwy'n pryderu'n fawr na chafodd myfyrwyr ledled y DU eleni yr addysg y mae ganddynt hawl iddi ac na chawsant y mwynhad o orffen arholiadau roeddent wedi paratoi ar eu gyfer ers blwyddyn neu fwy. Er hynny, mae gennyf bryderon difrifol am benderfyniad cynnar ar asesiadau athrawon ar gyfer 2021, er fy mod yn cydnabod na ddylid ailadrodd sefyllfa eleni ledled y DU.
Bydd fy sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar safonau. Deallaf y bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad cyn neu yn ystod wythnos hanner tymor am gynlluniau ar gyfer arholiadau haf 2021, ac eto, yn Lloegr, dywedant eu bod yn bwriadu cynnal arholiadau, efallai'n ddiweddarach ac efallai wedi'u diwygio, ond ceir arwydd clir y byddant yn mynd rhagddynt. Felly, hoffwn fynegi fy mhryderon difrifol am ostwng safon aur Safon Uwch yng Nghymru os na fydd arholiadau'n digwydd y flwyddyn nesaf a'u bod yn mynd rhagddynt yn Lloegr. Gall hyn arwain at anghysondebau anochel o ran trylwyredd, parch cydradd, lefel y galw a safon Safon Uwch Cymru, ac efallai y bydd UCAS, prifysgolion Grŵp Russell a chyflogwyr y dyfodol yn ystyried eu bod o safon is na'r rhai a gymerwyd gan fyfyrwyr yn Lloegr. Mae'r rhain yn oblygiadau difrifol os bydd myfyrwyr Cymru'n gwneud cais i brifysgolion Lloegr yn enwedig, ac mae perygl gwirioneddol y bydd eu ceisiadau i sefydliadau addysg uwch yn dioddef o ganlyniad i ganfyddiad fod safonau Safon Uwch yng Nghymru yn is o gymharu â myfyrwyr Safon Uwch yn Lloegr.
Gallaf ragweld adeg pan fyddwn yn dod yn gyfforddus gydag asesiadau athrawon ac yn cerdded yn ein cwsg i sefyllfa lle bydd arholiadau'n perthyn i'r gorffennol. Darllenais heddiw fod Philip Blaker yn Cymwysterau Cymru yn awgrymu profiad o berfformio—ymadrodd na fyddwn yn awgrymu, ar y pwynt hwn, y byddai'n ennyn hyder mewn unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc. Credaf y byddai hynny'n llwybr llithrig. Mae'n debyg y bydd addysg uwch ac addysg bellach yn cynnwys rhyw fath o broses arholi, a bydd dysgwyr Cymru dan anfantais fawr. Mae gennyf bryderon gwirioneddol hefyd am safonau addysgol. Gadewch inni gofio bod addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU, yn sicr yn ôl PISA, felly ofnaf y bydd y trylwyredd angenrheidiol i roi unrhyw gyfle i blant Cymru gystadlu â'u cyfoedion ledled y DU yn sicr o gael ei golli. A sut y byddwn yn gwybod, a sut y gallwn roi sicrwydd i gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch fod addysg yng Nghymru ar yr un lefel ag addysg yng ngwledydd eraill y DU a/neu weddill y byd os symudwn oddi wrth broses arholi dderbyniol sy'n caniatáu rhyw fath o gymhariaeth?
Rwy'n sicr yn cytuno â'ch pwynt am fand eang. Mae'n 2020, ac eto mae ardaloedd o Gymru o hyd, gan gynnwys fy ardal i, yn dioddef yn sgil cyflymder band eang ofnadwy. Clywn straeon am bobl yn sefyll wrth ffenestri ac yn cerdded i lawr y ffordd. Rwyf wedi gorfod gwneud hynny fy hun. Mae gwir angen blaenoriaethu band eang fel y cyfleustod nesaf i ddysgwyr, a phob un ohonom.
Mae'n destun gofid mawr i mi, a dylai fod i bawb yn y Siambr hon, fod safonau addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU, heb sôn am y byd, yn ôl PISA. Ofnaf y bydd unrhyw symudiadau i symud oddi wrth system o arholiadau i 'brofiad o berfformio' yn dwysáu unrhyw anfanteision negyddol mewn perthynas ag addysg yng Nghymru.
Fel sy'n digwydd yn aml gyda chynigion Plaid Cymru ar gyfer dadleuon, mae hwn yn gofyn am ormod ac yn ymestyn ffiniau datganoli drwy gamu i faes lles, felly ni allaf ei gefnogi yn ei gyfanrwydd. Mae rhai o'r pwyntiau yn y cynnig hwn yn sicr yn y categori 'braf eu cael'; fodd bynnag, dylai rhieni a dysgwyr gael dewis o hyd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio. Mae'n ymddangos bod gwelliannau'r Ceidwadwyr wedi'u gwreiddio'n fwy mewn realiti, felly byddaf yn cefnogi'r rheini heddiw. Diolch.
Diolch, Gadeirydd, diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Ni fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r cynnig heddiw. Mae'r cynnig hwn gan Blaid Cymru yn honni ei fod yn ymwneud â rhoi dyfodol gwell i bobl ifanc yng Nghymru, ond gallai ei ganlyniad pe bai Plaid Cymru yn cael eu ffordd fod yn union i'r gwrthwyneb i hynny. Anaml y gwelais gynnig y byddai ei ganlyniad mor amlwg yn negyddu diben y cynnig hwnnw. P'un ai twpdra ar ran Plaid Cymru yw hyn neu fod effeithiau erchyll eu dyheadau yn gwbl fwriadol, nid wyf yn gwybod.
Yr edefyn amlwg sy'n rhedeg drwy eu gwahanol bwyntiau yw israddio safonau addysg yng Nghymru. Mae mor amlwg fel fy mod bron yn amau ei fod yn cael ei wneud yn fwriadol. Thema gyson yw eu bod am inni gael gwahanol arholiadau a safonau i'r rhai yn Lloegr, felly'r canlyniad fyddai na ellir mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion ysgol Cymru yn erbyn y rhai yn Lloegr. Felly, wrth i safonau Cymru barhau i ostwng, fel y maent wedi bod yn gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf, ni fyddwn yn gallu gweld eu bod yn gostwng oherwydd ni fyddwn bellach yn gallu mesur sut y mae ein disgyblion ysgol yn gwneud o gymharu â sut y mae disgyblion ysgol yn gwneud drws nesaf yn Lloegr. Bydd hyn yn golygu na fydd Gweinidogion addysg Cymru yn gorfod wynebu'r canlyniadau, gan y gallant wneud honiadau ffug fod safonau Cymru'n codi, ond y gwir yn ddi-os fydd y gwrthwyneb.
Wrth ei flas mae profi pwdin. Os na all prifysgolion Lloegr fesur gallu disgyblion Cymru yn erbyn rhai Lloegr yn hawdd, a ydym yn mynd i gael mwy o'n disgyblion disglair i mewn i brifysgolion gorau Lloegr, neu lai ohonynt? Os bydd cyflogwyr mewn cwmnïau mawr yn Lloegr—yn Llundain, ym Manceinion a dinasoedd mawr eraill—os na fyddant yn gallu mesur cymwysterau pobl ifanc Cymru yn hawdd yn erbyn eu cyfoedion o Loegr, a fydd mwy o bobl ifanc o Gymru yn cael swyddi sy'n talu'n dda yn Lloegr, neu lai? Rwy'n credu fy mod yn gwybod yr ateb tebygol.
Dim ond ystryw yw'r syniad o gwricwlwm newydd i Gymru sy'n ymwahanu'n llwyr oddi wrth yr hyn a geir yn Lloegr fel bod Gweinidogion addysg Cymru yn llai atebol i rieni yng Nghymru ac fel y gellir celu safonau sy'n gostwng yn haws. Mae'r cliw amlwg i fwriadau Plaid Cymru yn eu pwynt agoriadol, lle maent yn gofyn i Lywodraeth Cymru warantu na fydd arholiadau'n cael eu cynnal yr haf nesaf. Byddai unrhyw blaid synhwyrol yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud ei gorau glas i sicrhau bod arholiadau'n mynd rhagddynt, ond mae Plaid Cymru eisiau'r gwrthwyneb. Ym myd delfrydol Plaid Cymru, ni fyddai arholiadau o gwbl, mae'n debyg, a byddai pob disgybl yn cael ei raddio yn ôl yr hyn a ddywed athro. Ond yn y byd go iawn, gwyddom fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn awyddus iawn i sefyll arholiadau y flwyddyn nesaf, am nad ydynt am fynd drwy'r ffiasgo llwyr a gawsom yr haf hwn, pan roddwyd graddau yn ôl asesiadau athrawon a'r algorithmau ofnadwy hynny y cyfeiriwyd atynt. Ond mae Plaid Cymru heddiw eisiau condemnio mwy o ddisgyblion i fynd trwy lanast tebyg eto.
A gaf fi ddatgan ychydig o ffeithiau gwleidyddol syml wrth Blaid Cymru? Mae Cymru bob amser wedi elwa'n economaidd o'i pherthynas agos â Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o ddatblygiad economaidd Cymru wedi bod drwy ryngweithio â Lloegr, drwy fasnachu â Lloegr, drwy fuddsoddiad o Loegr i Gymru, a thrwy genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o Gymry'n ceisio gwella eu hunain drwy chwilio am gyfleoedd, weithiau yn Lloegr. Ond mae Plaid Cymru am gau hyn i gyd. Maent am gael gwladwriaeth annibynnol, yn seiliedig ar dyn a ŵyr pa fath o economi, lle mai'r allwedd i gyrhaeddiad yw y bydd pawb yng Nghymru yn siarad Cymraeg yn y pen draw. Mae gweddill y byd yn awyddus iawn i ddysgu Saesneg oherwydd manteision economaidd amlwg dysgu Saesneg. Un fantais sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym yr iaith Saesneg, ond mae Plaid Cymru am israddio pwysigrwydd y Saesneg fel y gallwn i gyd siarad Cymraeg.
Ar ôl mwy nag 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cymru'n dioddef yn sgil cyflogau cymharol isel. Nid yw Llywodraethau Llafur Cymru wedi gwneud dim byd o gwbl i newid hyn. Bellach mae gennym yr economi wannaf o bob un o bedair gwlad y DU, ond nid yw Plaid Cymru'n ymdrechu hyd yn oed. Maent am godi wal rhyngom a Lloegr a chondemnio cenedlaethau o Gymry yn y dyfodol i dlodi a diffyg rhagolygon gyrfa. Ond fe fydd hi'n iawn, oherwydd bydd holl bobl dlawd Cymru yn gallu siarad Cymraeg. Byddai'n anghredadwy pe na bai'n wir. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Lywydd, rwy'n meddwl efallai eich bod newydd fy ngalw, ond nid wyf yn clywed dim o'ch desg, felly os ydych newydd wneud—. Os gall rhywun nodio neu fy helpu, oherwydd ni allaf glywed.
Iawn.
Gwych. Perffaith. Diolch. Mae'n ddrwg iawn gennyf, nid wyf yn clywed y Llywydd o gwbl.
A gaf fi ddechrau, Lywydd, drwy ddweud y byddwn fel arfer yn agor fy sylwadau mewn dadl fel hon drwy ddiolch i ba blaid bynnag sydd wedi cyflwyno'r ddadl am wneud hynny? Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi fod yn onest, mae ychydig yn anodd gwybod ble i ddechrau heddiw gyda chynnig Plaid Cymru. Mae'n cwmpasu cynifer o faterion gwahanol a chwbl ddigyswllt weithiau fel na ellir trafod yr un ohonynt o ddifrif mewn ffordd werth chweil mewn amser mor fyr, sy'n drueni mawr, oherwydd mae'r elfennau unigol yn haeddu eu trafod yn wir. Ond mae'n fy atgoffa o'r cyngor, pan fydd gennych ormod o flaenoriaethau, nad oes gennych yr un i bob pwrpas, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud bod y cynnig hwn heddiw, mewn ffordd, yn perthyn i'r categori hwnnw. Ac am y rhesymau hyn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yn ei gyfanrwydd heddiw. A gaf fi ddweud, serch hynny, fy mod yn llongyfarch y Ceidwadwyr am eu hymdrech orchestol i geisio diwygio'r hyn sy'n teimlo, bron, fel cynnig na ellir ei ddiwygio? Ond Lywydd dros dro, fe geisiaf ymdrin ag o leiaf rai o'r materion a godwyd yn y cynnig y prynhawn yma.
Rwy'n ymwybodol iawn o ba mor anodd fu'r cyfnod hwn i bawb sy'n ymwneud ag addysg, yn staff a dysgwyr fel ei gilydd. Ond rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i liniaru effeithiau'r pandemig. Fe fyddwch i gyd yn ymwybodol o'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid i ni eu gwneud yn y dyddiau diwethaf i weithredu'r cyfnod atal byr dros yr wythnosau nesaf, ac rydym wedi gwneud ein gorau i aflonyddu gyn lleied â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar ein disgwyliadau ar gyfer dysgu dros y cyfnod hwn. I ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod ganddynt y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen i gam nesaf eu haddysg neu eu hyfforddiant neu eu cyflogaeth, a chan adeiladu ar yr adnoddau sydd eisoes ar gael i ysgolion, dyna pam ein bod wedi darparu £3.2 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i addysg bellach a dysgu oedolion ddiwedd yr haf hwn. Bydd y cyllid hwn yn helpu ein sefydliadau addysg bellach i gynorthwyo dysgwyr i barhau i ddysgu gartref o bell. Gwn nad yw dysgu ar-lein yn briodol ar gyfer pob cwrs nac i bob dysgwr, ac rwy'n disgwyl i golegau ac ysgolion sicrhau eu bod yn ymateb i amgylchiadau dysgwyr unigol lle bynnag y bo modd.
Mewn perthynas ag arholiadau ac asesu, rwyf am fod yn sicr fod y penderfyniadau a wnawn yn awr er lles gorau pob dysgwr, ac mae hynny'n golygu sicrhau'n bendant ein bod yn dysgu gwersi 2020. Yn wahanol i Lywodraeth San Steffan, rwyf wedi sefydlu adolygiad annibynnol i'n helpu i ddysgu'r gwersi hynny ac i ddarparu argymhellion ar gyfer y modd y caiff cymwysterau eu hasesu yn 2021. Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn rhoi cyngor pellach ar sut y dylid cwblhau asesiadau yn 2021, o ystyried yr aflonyddu parhaus yn sgil COVID-19 ar addysg y dosbarthiadau arholiad hynny. Byddaf yn edrych ar y cyngor ac yn gwneud penderfyniad yn syth ar ôl toriad hanner tymor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud tra bo plant yn yr ysgol fel y gallant gael y lefelau priodol o gymorth a gwybodaeth a sgyrsiau gyda'u hathrawon.
A gaf fi ddweud, Lywydd dros dro—? Pan fo Gareth Bennett yn gwneud y cyhuddiadau y mae'n eu gwneud am safonau addysg yng Nghymru a mynediad i brifysgolion ar y lefel uchaf, yn 2019, enillodd myfyrwyr Cymru fwy o ganlyniadau Safon Uwch ar y lefel uchaf na'r un rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr yn gwneud ceisiadau llwyddiannus i astudio meddygaeth, milfeddygaeth, peirianneg yn ein prifysgolion gorau un. Mae ein rhaglen Seren wedi sicrhau, os ydych yn blentyn wedi'i addysgu mewn ysgol gyfun yng Nghymru, eich bod yn fwy tebygol nag unman arall yn y Deyrnas Unedig o gael cynnig gan brifysgol Caergrawnt. A phan ystyriwch yr heriau a wynebir yn rhai o'n cymunedau cynhenid dlawd, mae honno'n dipyn o gamp. Ac yn hytrach na difrïo athrawon a myfyrwyr Cymru yma y prynhawn yma, dylem ddiolch iddynt am eu hymdrechion enfawr yn cyflawni yn y modd hwnnw. Mawredd, 'a'n gwaredo' meddai. Wel, a'n gwaredo rhag bod yn genedl sydd am sicrhau y gall ein holl blant a phobl ifanc adael eu system addysg yn siarad y ddwy iaith. A'n gwaredo rhag bod gennym Aelod yn y lle hwn nad yw'n gweld gwerth cael a chreu system addysg sy'n caniatáu i'n plant fod yn ddwyieithog. Rwy'n credu bod hynny'n llawer mwy o syndod na dim arall rwyf wedi'i glywed y prynhawn yma.
Nawr, gwn hefyd fod ysgolion yn poeni ar hyn o bryd am ddatblygu'r cwricwlwm. Rydym wedi cyhoeddi 'Cwricwlwm Cymru: y daith hyd at 2022' yn ddiweddar. Er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen disgwyliadau cyffredin hon ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfeiriad clir tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. Mae cyhoeddi'r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig tuag at newid y cwricwlwm, ond wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau presennol, dim ond pan fydd eu staff a'u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion ddefnyddio'r rhain i gefnogi eu prosesau cynllunio. Rydym hefyd yn parhau i weithio ar gynnwys y cwricwlwm, ac rwy'n glir y dylai gwmpasu ehangder y profiadau a'r hanesion sy'n ffurfio Cymru, a dyna pam ein bod wedi penodi'r Athro Charlotte Williams OBE i arwain gweithgor i gynghori a gwella'r gwaith o addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, nid mewn hanes yn unig, ond ym mhob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Gan droi at addysg cyfrwng Cymraeg, gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau parhad ieithyddol o'r cyfnod cyn 16 oed i'r cyfnod ôl-16. Mae cynllun ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn manylu ar y camau gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor sydd eu hangen i wireddu hyn. Mae gwaith wedi dechrau ar brosiectau strategol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu darpariaeth gadarn ac i ddatblygu rhwydwaith o gymorth i diwtoriaid a chomisiynu adnoddau'n benodol i ymgorffori darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer ein dysgwyr. Yn y sector prentisiaethau, mae mwy o hyfforddiant asesydd cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu, ac mae llwyddiant y modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, Prentis-Iaith, ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau. Mae'r coleg hefyd yn datblygu'r seilwaith addysg uwch, gan ddarparu grantiau academaidd i brifysgolion mewn pynciau STEM, iechyd a gofal cymdeithasol, a'r gwyddorau cymdeithasol, i enwi ond rhai ohonynt. Rwyf hefyd yn gweithio i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ddeilliannau ieithyddol disgwyliedig dysgwyr. Cynhaliwyd adolygiad o ddiffiniadau cyfredol o ysgolion y llynedd, a chyn bo hir, byddaf yn ymgynghori ar drefniadau anstatudol newydd ar gyfer dynodiadau ysgolion.
Ond wrth gwrs, mae dysgu'n ymwneud â mwy nag arholiadau a'r cwricwlwm yn unig. Mae iechyd meddwl a lles ein dysgwyr, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn, o'r pwys mwyaf. Daeth yr ymgynghoriad ar y dull ysgol gyfan o ymdrin â chanllawiau fframwaith lles emosiynol i ben ym mis Medi, a bwriadwn gyhoeddi fersiwn derfynol o'r fframwaith tuag at ddiwedd y flwyddyn neu ddechrau mis Ionawr. Bydd y canllawiau statudol hyn yn helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ddiwallu eu hanghenion lles eu hunain mewn modd cyson a chyfannol sy'n hyrwyddo mynediad cyfartal. Mae hefyd yn arf pwysig i fynd i'r afael â'r ymateb tymor byr, tymor canolig a hirdymor i COVID-19 drwy fynd i'r afael ag anghenion lles plant a phobl ifanc.
Lywydd Dros Dro, mae lliniaru effaith y pandemig hwn wedi bod yn ffocws pwysig i mi a'r Llywodraeth hon ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector i ddarparu arweiniad a chymorth i sicrhau y gellir darparu addysg ddiogel rhag COVID, ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb am y ffordd y maent wedi gweithio i sicrhau bod dysgu wedi parhau. Roedd cyfraniad Jenny Rathbone yn tynnu sylw'n berffaith at y gwaith caled sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.
Mae gennym sylfeini cadarn yn eu lle, a thrwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn benderfynol o barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny i gyd yn wyneb pandemig byd-eang. Ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system addysg ac sy'n gwneud popeth yn eu gallu dan yr amgylchiadau mwyaf anodd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.
Diolch. Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan. Yn wir, fe'i gosodwyd yn fwriadol i fod yn gynnig eang ei gwmpas ac mae wedi ysgogi dadl eang ei chwmpas, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
Ni allaf ymateb i'r holl sylwadau sydd wedi'u gwneud. Credaf fod pwyntiau Siân Gwenllian am bwysigrwydd amrywiaeth yn hanes ein cenedl yn bwysig iawn, ac roeddwn yn falch o weld y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i hynny o ran pwysigrwydd y profiad du a phrofiad Cymru yn ein cwricwlwm. Fel y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud yn glir, mae hawl pob plentyn i'w iaith a'i ddiwylliant ei hun yn ganolog i'r hyn y credwn y dylai system addysg fod, ac unwaith eto, cefais fy nghalonogi gan yr hyn oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny.
Mae Siân yn cyflwyno achos pwerus iawn yn erbyn arholiadau fel ffurf ar asesiad, nid yn unig ar gyfer eleni, ond wrth symud ymlaen, er y byddwn yn ystyried—a chredaf y byddem i gyd yn ystyried—y pwyntiau y mae David Rees yn eu gwneud ynglŷn â bod angen i newid yn y system asesu gymryd amser, mae angen ei wreiddio, mae angen ei werthu'n effeithlon. Ond byddwn yn dadlau bod hynny, wrth gwrs, yn rheswm dros ddechrau ar y gwaith hwnnw nawr. Beth yw diben cael cwricwlwm arloesol, ysbrydoledig o'r radd flaenaf ond ein bod yn asesu mewn dulliau a ddatblygwyd tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl.
Rwy'n ddiolchgar i Suzy Davies am ei chyfraniad ac i'r Ceidwadwyr am fynd i'r drafferth i ddiwygio'r hyn oedd yn gynnig eang ei gwmpas. Roedd yn braf na wnaeth hi gwyno am y peth, yn wahanol i eraill y gallwn sôn amdanynt. Wrth gwrs, mae gennym farn sylfaenol wahanol, yn enwedig ynglŷn ag arholiadau, ond rwy'n falch iawn o allu derbyn gwelliannau 3, 6 a 9, sydd, yn ein barn ni, yn cryfhau ac yn cefnogi'r cynnig, a chredaf ei bod yn briodol fel pleidiau ar draws y Siambr hon ein bod yn cymryd amser i fynd i'r afael â chynigion ein gilydd a gwneud hynny mewn modd eithaf manwl.
Gwnaeth Delyth bwyntiau grymus ynglŷn â pha mor anodd yw bod yn ifanc ar yr adegau gorau a pha mor anodd ydyw yn awr, ac unwaith eto, cyfeiriodd at hawl plant i'w hiaith a'u diwylliant a pha mor bwysig yw hi ein bod i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyrwyddo a chefnogi lles ein plant a'n pobl ifanc.
Nid wyf yn cydnabod y modd y disgrifiodd Jenny Rathbone ein cynnig. Mae'r materion sy'n wynebu plant a phobl ifanc yn ein gwlad ar hyn o bryd yn eang ac maent yn gymhleth, ac felly hefyd ein cynnig.
Nid yw'n syndod bod Dai Lloyd yn cyflwyno achos pwerus iawn dros yr hawl i bobl ifanc gael addysg cyfrwng Cymraeg ble bynnag y bônt. Mae'n nodi'r methiant i sicrhau, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, fod ein holl bobl ifanc yn gallu gadael yr ysgol yn siarad ein dwy iaith genedlaethol. Nid yw hynny'n golygu bod angen i bob un ohonynt fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg, wrth gwrs, ond rydym yn gwneud i'r plant mewn addysg cyfrwng Saesneg astudio Cymraeg ac nid ydynt yn rhugl ar y diwedd, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Mae'n cyflwyno achos angerddol dros gymal (e) yn ein cynnig. Fel y dywedodd, mae brwydrau'r teuluoedd ym Mhontypridd dros addysg cyfrwng Cymraeg yn frwydr a ddylai fod yn frwydr i bob un ohonom.
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at gyfraniad David Rees, a oedd wedi'i wneud yn dda yn fy marn i. Rwy'n amlwg yn anghytuno â'r pwyntiau a wnaeth am gwmpas y cynnig, ond credaf fod y pwyntiau a wnaeth am y graddau y mae myfyrwyr wedi colli dysgu eleni, ac ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio cymedroli i sicrhau bod asesiadau addysgu'n deg ac nad oes unrhyw duedd wedi'i chynnwys—a chytunaf yn llwyr fod angen inni weithredu'n gyflym. Os ydym am newid prosesau asesu yn y tymor hir, mae honno'n broses hirdymor ac mae angen inni wneud hynny'n fuan.
Roedd Mandy Jones yn iawn i fynd i'r afael ag effaith COVID ar ein pobl ifanc, ac roedd hi'n iawn i ddweud bod angen penderfyniad arnom ynglŷn â'r arholiadau; rydym yn anghytuno â'i chasgliadau wrth gwrs. Nid wyf am i addysg yng Nghymru fod yr un mor dda na'r un fath â rhannau eraill o'r DU; rwy'n credu bod angen inni fod yn uchelgeisiol ac mae angen inni ei wneud yn llawer gwell.
Gareth Bennett—beth sydd yna i'w ddweud? Yn hollol anghywir mewn gormod o ffyrdd imi fynd drwyddynt, er y byddwn yn ategu rhai o'r sylwadau a wnaeth y Gweinidog wrth ymateb i rai o'r pethau a ddywedodd.
Felly, yn olaf, i droi at gyfraniad y Gweinidog: wel, mae'n ddrwg gennyf fod ehangder ein cynnig yn rhy gymhleth ac yn ormod o her iddi. Tybiaf fod ganddi weision sifil a all ei chynorthwyo yn y materion hyn. Gwnaeth—. A lwyddodd i egluro i mi pa rai o'r pwyntiau yn ein cynnig sydd ddim yn flaenoriaeth yn ei barn hi? Naddo. Byddwn wedi hoffi pe bai wedi mynd i'r afael â rhai manylion, yn enwedig y mater ynglŷn â myfyrwyr yn gallu mynd adref ar gyfer y Nadolig. Nid wyf yn gwybod am fewnflwch pobl eraill, ond y negeseuon rwy'n eu cael gan fyfyrwyr a'u teuluoedd—dyna'r hyn y maent yn fwyaf ofnus yn ei gylch ar hyn o bryd, oherwydd maent am wybod bod yna ddiwedd, yn enwedig y rheini ohonynt sy'n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd o bosibl yn rhannu llety gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod yn dda iawn; maent am wybod bod yna ddiwedd, ac mae'r Gweinidog wedi ein sicrhau y bydd yna gynllun. Gobeithio y bydd yn un da, ond credaf fod angen iddi gyflwyno'r cynllun hwnnw'n fuan, a'i gwneud yn glir y bydd y myfyrwyr hynny'n gallu mynd adref at eu teuluoedd gyda phrofion priodol i sicrhau y gallant wneud hynny'n ddiogel.
Nawr, i ddod yn ôl at ymateb y Gweinidog yn gyffredinol i'n cynnig: wel, fel gwrthbleidiau yn y Siambr hon, rydym yn gyfarwydd â gwelliannau 'mae popeth yn iawn—dileu popeth' diystyriol wrth gwrs. Yn y bôn, yr hyn a gawsom gan y Gweinidog heno, mae arnaf ofn, oedd araith ddiystyriol 'mae popeth yn iawn'. Roedd hynny braidd yn siomedig. Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd yn awgrymu bod popeth yn iawn; roedd llawer o'r cyfraniadau a gawsom gan eraill yn cydnabod cynnydd ac yn cydnabod—a chredaf fy mod am bwysleisio hyn—pa mor galed y mae pobl sy'n gweithio yn y system yn gweithio i wneud hyn yn iawn ar yr adeg anodd hon, a byddwn yn dweud bod hynny'n wir am y Gweinidog a'i swyddogion hefyd mae'n debyg. Ond mae diystyru'r pwyntiau cymhleth yn ein cynnig ac ymateb fel pe na bai unrhyw faterion yn galw am sylw braidd yn siomedig.
Lywydd Dros Dro, nid wyf yn ymddiheuro am fod fy mhlaid wedi cyflwyno cynnig eang ei gwmpas i'r Cynulliad hwn. Rwy'n cytuno, er enghraifft, â gwelliant y Ceidwadwyr sy'n dweud y gallem wneud â dadl gyfan arall ar brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, ac os na fydd y Llywodraeth yn cyflwyno un yn fuan, gobeithio y gallwn greu cyfle i wneud hynny. Mae'r rhain yn faterion enfawr, cymhleth. Maent yn bwysig. Ac os na allwn eu trafod yn y lle hwn, ac os na all y Gweinidog ymdopi â gorfod ateb cynifer ohonynt ar unwaith, mae rhywbeth o'i le braidd.
Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn gyda gwelliannau 3, 6 a 9 i'r Senedd. Diolch yn fawr iawn, bawb.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna Aelodau'n gwrthwynebu, felly gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd toriad o bum munud fan lleiaf yn awr i baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio, a bydd cymorth TG ar gael.