Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr. Mae'n cynnig ni y prynhawn yma'n canolbwyntio ar agweddau pwysig ac amserol o'r byd addysg yng Nghymru. Yn gyntaf, arholiadau ac asesu a'r angen am newid sydd wedi'i danlinellu gan COVID a gan ofynion y cwricwlwm newydd, ac mi fyddaf i'n ymhelaethu ar hyn yn fy nghyfraniad i. Agwedd bwysig arall ydy hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru. Mae cynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes yr iaith Gymraeg, yn hanfodol i ddisgyblion ar draws Cymru fel bod ganddynt ymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol Cymru ac o sail hanesyddol ein cymdeithas gyfoes. Er bod rhai agweddau pwysig yn elfennau mandadol o'r cwricwlwm newydd, megis addysg rhywioldeb a pherthnasau, mae rhai rhannau a grwpiau o'n cymdeithas ni wedi cael eu hanghofio. Mae cymunedau pobl ddu a phobl o liw yn haeddu parch a statws yn y cwricwlwm newydd, a hefyd rôl y cymunedau amrywiol hynny yn hanes Cymru fodern. Felly, cefnogwn fod hanes pobl ddu a phobl o liw yn elfen statudol o'r Bil fel rhan o strategaeth i gryfhau hunaniaeth Cymru yn ei holl amrywiaeth ac i ddileu hiliaeth.
Mi fyddwn ni'n sôn am brentisiaethau ac addysg bellach y prynhawn yma—yr angen i gefnogi prentisiaid sy'n cael eu heffeithio ar lefel gwaith ac ariannol oherwydd COVID-19. Mi fyddwn ni'n trafod lles meddyliol ac emosiynol ein pobl ifanc ac mi fyddwn ni'n trafod y Gymraeg, a'r angen i gymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ymhob sector a chyfnod dysgu. Mae gan Abertawe a Rhondda Cynon Taf yr un cyfraniad a'r un cyfrifoldeb yn yr ymdrech genedlaethol hon ag sydd gan Wynedd a Cheredigion.
Rydw i am droi at arholiadau. Mae ffiasgo arholiadau'r haf yn dal yn fyw iawn ym meddyliau ein pobl ifanc ni. Maen nhw'n cofio ei bod hi wedi cymryd ymdrech enfawr—ac mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn ganolog i'r ymdrech honno—i gael gwared ar system yr algorithm, a oedd yn mynd i fod yn annheg iawn i lawer o bobl ifanc. Ar ôl penderfynu, yn gwbl iawn, i ganslo'r arholiadau, aed ymlaen yn ddiangen i ddefnyddio fformiwla fathemategol fethedig. Yn y diwedd, fe newidiodd Gweinidog Addysg Cymru ei meddwl, ar ôl cryn frwydro, ac fe ddefnyddiwyd asesiadau'r athrawon. Rhoddwyd ffydd yn yr athrawon, y bobl broffesiynol sy'n adnabod ein pobl ifanc orau, ond gellid fod wedi gwneud hynny o'r cychwyn cyntaf ac osgoi'r holl ffiasgo a'r holl boen meddwl a phryder i bobl ifanc.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud ers yr haf na ddylid cynnal arholiadau lefel A a TGAU yr haf nesaf chwaith. Roeddem ni'n dweud hynny gan fod yr arbenigwyr yn dweud wrthym ni y byddai yna ail don o'r coronafeirws yn yr hydref. Mi oeddem ni o'r farn y byddai gwneud penderfyniad buan, cyn i'r ysgolion ailagor, hyd yn oed, ym mis Medi, yn ffordd deg o symud ymlaen, ac mi fyddai ein pobl ifanc ni, a'u hathrawon a'u rhieni, yn gwybod beth oedd i ddigwydd, efo digon o amser i newid cyfeiriad a newid trefniadau. Gellid defnyddio asesiadau athrawon, a byddai digon o amser i greu dull synhwyrol o safoni. Dydy hi ddim rhy hwyr, ac rydyn ni'n parhau i bwyso am ganslo arholiadau'r haf nesaf, ac erbyn hyn mae pwysau cynyddol yn dod o bob cyfeiriad. Gobeithio y daw penderfyniad ar 9 Tachwedd, sef y dyddiad sy'n cael ei grybwyll bellach ar gyfer gwneud penderfyniad. A dwi'n mawr obeithio na fydd y Gweinidog Addysg yn dilyn Lloegr yn slafaidd unwaith eto, ac y cawn y penderfyniad cywir i bobl ifanc Cymru.
Wrth i'r feirws ledaenu ac wrth i'r sefyllfa ddifrifoli, mae disgyblion yn colli'r ysgol am eu bod nhw'n hunanynysu. Mae'r amharu ar rediad eu haddysg yn cynyddu yn gyflym. Mae disgyblion oed arholiadau yn mynd i golli mwy o'u haddysg yn y cyfnod clo byr; mae hyn ar ben yr addysg a gollwyd dros y cyfnod clo mawr. Ac mae rhai pobl ifanc yn mynd i golli mwy nag un cyfnod o'u haddysg, a'r cyfnodau yma'n digwydd ar wahanol amseroedd o ysgol i ysgol, o goleg i goleg, efo gwahanol bobl ifanc yn colli gwahanol ddarnau o waith. Ac eto, pawb yn eistedd yr un arholiad.
Dydy gwneud y gwaith o bell ddim yn bosib i lawer. Mae yna nifer o hyd heb ddyfais electronaidd, heb gysylltedd band eang, a heb y lle a'r llonydd yn y cartref i wneud eu gwaith, gan olygu'n aml mai'r bobl ifanc o gefndiroedd tlawd sydd yn colli allan ac yn cael eu gadael ar ôl, a dydy hynny ddim yn deg.
Mae yna ddull amgen o asesu cynnydd person, un fyddai'n cynnwys asesu parhaus ac asesiadau athrawon. Dydy hi ddim fel petai yna ddim dewis ond arholiadau; mae yna ddewis, a gorau po gyntaf y penderfynir ar hwnnw, a chael gwared ar yr ansicrwydd a rhoi chwarae teg i bawb.
Ac yn y tymor hir, mae angen cael gwared ar obsesiwn y Llywodraeth efo arholiadau ac angen creu system sy'n cofnodi cyrhaeddiad yr unigolyn. Mae angen i'r system addysg drwyddi draw sifftio o bwyslais gormodol ar arholiadau, profion, tystysgrifau, a symud at sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir ar gyfer byd gwaith, ac ar gyfer bywyd yn y dyfodol.
Mae Cwricwlwm Cymru yn cynnig rhan o'r ateb, ond mae'r system gyfan angen newid. Mae hyn yn cynnwys ailfeddwl am gymwysterau ac asesiadau, gan ddechrau efo trafodaeth ystyrlon am TGAU. Oes angen cymhwyster o gwbl ar gyfer pobl ifanc 16 oed, pan fod y mwyafrif helaeth iawn yn aros mewn addysg? Mae eisiau symud o un arholiad sydd yr un peth i bawb ac sy'n rhoi gradd ar sail nad yw'n mesur y sgiliau iawn. Mae gan Gwricwlwm Cymru, o'i wreiddio'n iawn, y gallu i symud y pwyslais i ddysgu a sgiliau. Mae'n rhaid i'r ffordd yr ydym yn asesu gael ei alinio yn iawn iddo hefyd, neu bydd o ddim yn gweithio, a bydd ysgolion yn parhau i ganolbwyntio ar y graddau yn hytrach na chynnydd yr unigolyn.
Mae gennym ni gyfle gwirioneddol i greu system addysg ardderchog yng Nghymru, un sydd ddim yn gadael yr un plentyn na'r un person ifanc ar ôl. Mae'r cwricwlwm yn cynnig cyfle inni gychwyn ar y daith honno. Mae angen craffu ar y Bil yn fanwl dros y misoedd nesaf, gan wneud yn siŵr y bydd y cwricwlwm yn wirioneddol ffit i bwrpas y Gymru fodern, ac mae o angen cael ei gefnogi efo adnoddau a hyfforddiant ystyrlon, ac mae angen i'n dulliau asesu ni newid hefyd.
Ein plant a'n pobl ifanc ydy ein dyfodol; nhw ydy dyfodol ein cenedl. Dydyn nhw ddim yn cael amser hawdd ar y funud, ond fe ddaw cyfnod gwell. Mae angen i ni yn y Senedd roi pob cefnogaeth iddyn nhw yn y cyfnod COVID yma, ond hefyd drwy sicrhau bod yr hadau yr ydym yn eu plannu ar gyfer gwyrdroi ein system addysg—fod yr hadau rheini yn tyfu'n gryf ac yn tyfu i'r cyfeiriad cywir. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pawb yn y ddadl bwysig yma.