Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n credu ein bod i gyd mewn perygl o anghofio pa mor anodd y gall fod i fod yn berson ifanc. Mae cymaint o bwysau y mae cymdeithas yn eu rhoi ar yr ifanc—arholiadau ie, ond hefyd straen a disgwyliadau ynglŷn â sut y dylent edrych, delfrydau ynghylch delwedd y corff wedi'u trwytho gan hysbysebion ac Instagram, bwlio, a phwysau i gael y lleoliad gyrfa cywir neu wneud y penderfyniad cywir ar eu ffurflen Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau.
Mae tyfu i fyny yn ein cymdeithas yn ddigon anodd fel y mae, ond eleni, i ffwrdd oddi wrth eu ffrindiau a threfn ysgol arferol, bydd ein pobl ifanc wedi wynebu straen ac unigrwydd digynsail. Dros yr haf, aeth pobl ifanc 17 a 18 oed drwy bryder diangen pan ddywedwyd wrthynt mai algorithm fyddai'r ffordd orau o bennu eu dyfodol, er bod yr algorithm hwnnw'n cosbi pobl am fyw mewn ardaloedd tlawd—algorithm a osododd nenfwd ar eu huchelgais.
Roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei meddwl ynglŷn â'r penderfyniad trychinebus hwnnw, a bod pobl ifanc wedi cael eu dyfodol yn ôl. Ond mae'n rhaid i ni ddysgu gwers o'r hyn a ddigwyddodd. Ni ellir ailadrodd y camgymeriad hwnnw, a dyna pam y mae ein cynnig heddiw'n galw am warant na fydd arholiadau'n cael eu cynnal y flwyddyn nesaf ac y bydd proses gadarn o asesu gan athrawon yn dod yn eu lle. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y misoedd nesaf.
Ond fel Gweinidog yr wrthblaid Plaid Cymru dros y dyfodol, credaf fod angen inni asesu'r hyn rydym am i'n plant ei gael o'r ysgol. Fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi nodi, bydd sgiliau fel creadigrwydd, datrys problemau a deallusrwydd emosiynol hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol oherwydd bydd yn debygol y bydd yn rhaid i ni weithio'n hirach ac addasu setiau sgiliau'n gyflymach. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o feithrin y sgiliau hyn y gellir eu trosglwyddo yn hytrach na dim ond dyfarnu marciau statig cyfyngedig ar ddarn o bapur.
A yw'n deg rhoi marc i unigolyn 16 oed a all naill ai agor drysau neu eu cau am byth? Does bosibl na ddylai addysg ymwneud â chysylltu plant â'u cymuned a chenedlaethau eraill, oherwydd mae dysgu'n cael effaith gymdeithasol hefyd. Yr wythnos hon, bydd Aelodau o bob rhan o'r Senedd yn lansio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng y cenedlaethau, a chredaf fod hwn yn faes y bydd yn rhaid i'n gwleidyddiaeth ddychwelyd iddo.
Ar wahân i arholiadau, mae ein cynnig heddiw'n sôn am y pwysau mawr sy'n wynebu ein pobl ifanc. Ddiwedd mis Awst, cyhoeddwyd adroddiad a ofynnodd i blant mewn 35 o wledydd sut roeddent yn teimlo am y dyfodol a hwy eu hunain. Gan y plant yng Nghymru oedd rhai o'r sgoriau isaf o ran hapusrwydd. Yn waeth na dim, nid eleni yn ystod y pandemig y casglwyd y canlyniadau sobreiddiol hyn, ond ddwy flynedd yn ôl. Rwy'n arswydo meddwl cymaint gwaeth y gallai'r rhagolygon fod pe bai'r un bobl ifanc yn cael eu harolygu heddiw.
Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, ysgrifennais lythyr agored at bobl ifanc Cymru, yn dweud nad nodi'r canfyddiadau yn unig, ysgwyd ein pennau a symud ymlaen y dylem ei wneud. Dylent fod yn destun cywilydd i bob un ohonom. Pobl ifanc yw ein dyfodol. Hwy yw'r goleuni sy'n ein harwain. Dylai wneud inni stopio'n stond fod rhagolygon y bobl ifanc hyn ar eu dyfodol eu hunain mor llwm, a dylem weithredu i newid hyn.
Lywydd dros dro, mae ein cynnig heddiw yn galw am ddarparu cymorth iechyd meddwl, am wasanaethau cwnsela a therapi i fod ar gael ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Mae ein cynnig hefyd yn galw am wneud llesiant yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm. Ni ddylid cynllunio gwersi yn yr ysgol ar sail cyflawniad academaidd yn unig, dylent feithrin cadernid pobl ifanc a meithrin cysylltiadau'r bobl ifanc hynny â'u cymunedau. Yr un mor bwysig, dylai'r ysgol ymwneud â chanfod a theimlo llawenydd.