8. Dadl Plaid Cymru: Dyfodol Addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:54, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ymddiheuro am gynifer o welliannau? Ond diolch am eu dewis. Ond wrth gwrs, roeddem am ddangos parch at y cynnig gwreiddiol, a oedd â llawer o wybodaeth ynddo. Efallai'n llai o gynnig portmanto a mwy o gist ddillad, sy'n mynd i alw am nifer o lwythwyr cyhyrog i'w chodi oddi ar y ddaear, felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi bod yn bwyta ein sbigoglys i ddod drwy hon.

Siân, rydym yn sicr yn rhannu rhai o'ch pryderon am ddyfodol addysg, a dyna pam ein bod yn edrych ymlaen at y cwricwlwm newydd a rhai o ddiwygiadau eraill y Llywodraeth, gyda gobaith, ond gyda chryn dipyn o anesmwythyd hefyd. Ond mae gwahaniaeth, rwy'n meddwl, rhwng arloesi mawr ei angen, a bod yn ddiofal. Ni ddylai'r camau brys a gymerwyd o ganlyniad i'r haf cythryblus a gawsom gael unrhyw statws fel prawf o werth ffordd ymlaen heb arholiadau. Rydym wedi ymwroli a derbyn y gallai'r tarfu parhaus ar addysg disgyblion gyfiawnhau culhau'r maes llafur, ond holl bwynt gadael i hynny ddigwydd fyddai er mwyn caniatáu i arholiadau fynd rhagddynt heb leihau eu trylwyredd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gallai ymateb Llywodraeth Cymru i COVID gyflwyno sefyllfa ddi-droi'n-ôl, a allai olygu bod paratoi ar gyfer arholiadau mewn ffordd sy'n deg i bawb yn amhosibl.

Ac felly mae'n ofid i mi nad yw ysgolion uwchradd ar agor yn llawn yn ystod y cyfyngiadau cenedlaethol hyn. Roedd pob arweinydd cyngor am iddynt agor, fel y clywsom yn gynharach, ac mae'n bosibl y bydd y penderfyniad yn dod â'r sefyllfa ddi-droi'n-ôl honno ychydig yn nes, ar yr un pryd â methiant i ystyried effeithiau cronnol eraill absenoldeb estynedig o'r ysgol. Ar 15 Hydref, dim ond 83.7 y cant o ddisgyblion oedd yn mynychu ysgol; dyma ganlyniad, yn rhannol, grwpiau ysgol enfawr yn cael eu hanfon adref—rhaid i hynny ddod i ben. Rydym eisoes yn gwybod bod plant Cymru wedi cael llai o hyfforddiant yn ystod y cyfyngiadau na phlant mewn rhannau eraill o'r DU, ac rydym i gyd wedi clywed lleisiau teuluoedd, ac fe fyddwch chi wedi clywed llais Comisiynydd Plant Cymru. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr nad yw'r sefyllfa ddi-droi'n-ôl hon yn dod mewn gwirionedd, ond os bydd angen i ysgolion Cymru newid i gynllun B, dylai gwneud penderfyniad ynglŷn â pha bryd i wneud hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth gan athrawon a phobl ifanc, nid Cymwysterau Cymru yn unig, ond wedi'i wneud o fewn y ffrâm amser y cyfeirir ati yn y gwelliant. 

Mae angen sicrwydd ar ysgolion fel ar fusnesau; dyna fy mhwynt ar hyn. Ond nid yw sicrwydd yr un fath â rhoi'r gorau i ymdrechu fel y mae'r SNP wedi'i wneud drwy gael gwared ar arholiadau. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn diweddaru arholiadau a gallu cael y gorau gan ein pobl ifanc, drwy gydnabod nad ydym i gyd yn dysgu yn yr un ffordd, a dyna yw ein gwelliant 4, a byddwch yn sylwi ei fod yn cyfeirio'n benodol at gyrsiau a chymwysterau galwedigaethol. Gan ei bod yn ddigon posibl fod Cymwysterau Cymru'n gweithio ar fersiynau newydd o'r rhain wedi'u llunio yng Nghymru, ond y cwricwlwm newydd—mae'r cychwyn yn ymwneud â hyblygrwydd i gyfateb i allu, ac felly bydd angen hawl i ddisgyblion allu cael mynediad at gyrsiau y tu allan i'r ysgol a cheisio am gymwysterau cydnabyddedig nad ydynt wedi'u gwneud yng Nghymru o bosibl, yn y tymor canolig hwn o leiaf. A dylent gael yr hawl honno nes eu bod yn 18 oed.

Credaf eich bod yn iawn, Blaid Cymru, i godi mater prentisiaethau, ond credaf fod hynny'n haeddu dadl ar wahân a dweud y gwir, ac ymateb manwl gan Weinidog yr economi, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant i'r cynnig ar hynny. Ond nid oes gennym unrhyw fwriad o roi disgyblion Cymru dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion mewn mannau eraill, ac mae hynny'n cynnwys Lloegr. Mae angen inni oresgyn yr anfantais sydd yno eisoes drwy godi safonau cyn inni gweryla ynglŷn â sut i brofi bod y safonau hynny wedi'u codi. 

Gan symud ymlaen, tybed a gaf fi wahodd yr Aelodau i dderbyn ein gwelliant ar achos Driver, ar sail symlrwydd llwyr? Mae pethau wedi symud ymlaen ers dad-ddethol gwelliant 10, ond a gaf fi eich gwahodd hefyd i ystyried barn Comisiynydd y Gymraeg sy'n nodi, os ydym am gael pobl ifanc yn gadael yr ysgol yn fedrus mewn o leiaf ddwy iaith, fod angen i'r gweithlu addysg fod yn gymwys i gyflawni hynny? A gwyddom ein bod yn ei chael hi'n anodd cael athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni waeth pa mor dda y mae'r sgiliau hyn yn cael eu hymgorffori mewn hyfforddiant i athrawon yn y dyfodol, y gweithlu presennol fydd yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Bydd angen y cymorth mwyaf posibl ar lawer ohonynt i allu gwneud hyn yn hyderus, a bydd unrhyw dargedau ac unrhyw Ddeddf addysg newydd yn uchelgais gwag os nad oes gan ein hathrawon fodd o gydymffurfio. Mae angen cael continwwm cefnogol i gyd-fynd â'r cwricwlwm er mwyn helpu athrawon pryderus i ddechrau ar hyn, cyn iddynt fynd yn fwy pryderus am Fil sy'n anochel o ymwneud mwy â'r ffon na'r abwyd.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, da iawn, Weinidog, am wneud cynnydd cymedrol ar argymhellion 'Cadernid Meddwl'. Yn sicr, mae angen i iechyd gyflymu ar hyn hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y penderfyniad heddiw. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod yn cefnogi pwyntiau eraill yn y cynnig, ond credaf fod cryn gefnogaeth i broffil uwch i iechyd meddwl yn y system addysg wrth inni symud ymlaen yn eithaf hanfodol, nid yn y cwricwlwm, ac i athrawon ac addysgwyr yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu haddysgu. Diolch.