Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan. Yn wir, fe'i gosodwyd yn fwriadol i fod yn gynnig eang ei gwmpas ac mae wedi ysgogi dadl eang ei chwmpas, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
Ni allaf ymateb i'r holl sylwadau sydd wedi'u gwneud. Credaf fod pwyntiau Siân Gwenllian am bwysigrwydd amrywiaeth yn hanes ein cenedl yn bwysig iawn, ac roeddwn yn falch o weld y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i hynny o ran pwysigrwydd y profiad du a phrofiad Cymru yn ein cwricwlwm. Fel y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud yn glir, mae hawl pob plentyn i'w iaith a'i ddiwylliant ei hun yn ganolog i'r hyn y credwn y dylai system addysg fod, ac unwaith eto, cefais fy nghalonogi gan yr hyn oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny.
Mae Siân yn cyflwyno achos pwerus iawn yn erbyn arholiadau fel ffurf ar asesiad, nid yn unig ar gyfer eleni, ond wrth symud ymlaen, er y byddwn yn ystyried—a chredaf y byddem i gyd yn ystyried—y pwyntiau y mae David Rees yn eu gwneud ynglŷn â bod angen i newid yn y system asesu gymryd amser, mae angen ei wreiddio, mae angen ei werthu'n effeithlon. Ond byddwn yn dadlau bod hynny, wrth gwrs, yn rheswm dros ddechrau ar y gwaith hwnnw nawr. Beth yw diben cael cwricwlwm arloesol, ysbrydoledig o'r radd flaenaf ond ein bod yn asesu mewn dulliau a ddatblygwyd tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl.
Rwy'n ddiolchgar i Suzy Davies am ei chyfraniad ac i'r Ceidwadwyr am fynd i'r drafferth i ddiwygio'r hyn oedd yn gynnig eang ei gwmpas. Roedd yn braf na wnaeth hi gwyno am y peth, yn wahanol i eraill y gallwn sôn amdanynt. Wrth gwrs, mae gennym farn sylfaenol wahanol, yn enwedig ynglŷn ag arholiadau, ond rwy'n falch iawn o allu derbyn gwelliannau 3, 6 a 9, sydd, yn ein barn ni, yn cryfhau ac yn cefnogi'r cynnig, a chredaf ei bod yn briodol fel pleidiau ar draws y Siambr hon ein bod yn cymryd amser i fynd i'r afael â chynigion ein gilydd a gwneud hynny mewn modd eithaf manwl.
Gwnaeth Delyth bwyntiau grymus ynglŷn â pha mor anodd yw bod yn ifanc ar yr adegau gorau a pha mor anodd ydyw yn awr, ac unwaith eto, cyfeiriodd at hawl plant i'w hiaith a'u diwylliant a pha mor bwysig yw hi ein bod i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyrwyddo a chefnogi lles ein plant a'n pobl ifanc.
Nid wyf yn cydnabod y modd y disgrifiodd Jenny Rathbone ein cynnig. Mae'r materion sy'n wynebu plant a phobl ifanc yn ein gwlad ar hyn o bryd yn eang ac maent yn gymhleth, ac felly hefyd ein cynnig.
Nid yw'n syndod bod Dai Lloyd yn cyflwyno achos pwerus iawn dros yr hawl i bobl ifanc gael addysg cyfrwng Cymraeg ble bynnag y bônt. Mae'n nodi'r methiant i sicrhau, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, fod ein holl bobl ifanc yn gallu gadael yr ysgol yn siarad ein dwy iaith genedlaethol. Nid yw hynny'n golygu bod angen i bob un ohonynt fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg, wrth gwrs, ond rydym yn gwneud i'r plant mewn addysg cyfrwng Saesneg astudio Cymraeg ac nid ydynt yn rhugl ar y diwedd, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Mae'n cyflwyno achos angerddol dros gymal (e) yn ein cynnig. Fel y dywedodd, mae brwydrau'r teuluoedd ym Mhontypridd dros addysg cyfrwng Cymraeg yn frwydr a ddylai fod yn frwydr i bob un ohonom.
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at gyfraniad David Rees, a oedd wedi'i wneud yn dda yn fy marn i. Rwy'n amlwg yn anghytuno â'r pwyntiau a wnaeth am gwmpas y cynnig, ond credaf fod y pwyntiau a wnaeth am y graddau y mae myfyrwyr wedi colli dysgu eleni, ac ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio cymedroli i sicrhau bod asesiadau addysgu'n deg ac nad oes unrhyw duedd wedi'i chynnwys—a chytunaf yn llwyr fod angen inni weithredu'n gyflym. Os ydym am newid prosesau asesu yn y tymor hir, mae honno'n broses hirdymor ac mae angen inni wneud hynny'n fuan.
Roedd Mandy Jones yn iawn i fynd i'r afael ag effaith COVID ar ein pobl ifanc, ac roedd hi'n iawn i ddweud bod angen penderfyniad arnom ynglŷn â'r arholiadau; rydym yn anghytuno â'i chasgliadau wrth gwrs. Nid wyf am i addysg yng Nghymru fod yr un mor dda na'r un fath â rhannau eraill o'r DU; rwy'n credu bod angen inni fod yn uchelgeisiol ac mae angen inni ei wneud yn llawer gwell.
Gareth Bennett—beth sydd yna i'w ddweud? Yn hollol anghywir mewn gormod o ffyrdd imi fynd drwyddynt, er y byddwn yn ategu rhai o'r sylwadau a wnaeth y Gweinidog wrth ymateb i rai o'r pethau a ddywedodd.
Felly, yn olaf, i droi at gyfraniad y Gweinidog: wel, mae'n ddrwg gennyf fod ehangder ein cynnig yn rhy gymhleth ac yn ormod o her iddi. Tybiaf fod ganddi weision sifil a all ei chynorthwyo yn y materion hyn. Gwnaeth—. A lwyddodd i egluro i mi pa rai o'r pwyntiau yn ein cynnig sydd ddim yn flaenoriaeth yn ei barn hi? Naddo. Byddwn wedi hoffi pe bai wedi mynd i'r afael â rhai manylion, yn enwedig y mater ynglŷn â myfyrwyr yn gallu mynd adref ar gyfer y Nadolig. Nid wyf yn gwybod am fewnflwch pobl eraill, ond y negeseuon rwy'n eu cael gan fyfyrwyr a'u teuluoedd—dyna'r hyn y maent yn fwyaf ofnus yn ei gylch ar hyn o bryd, oherwydd maent am wybod bod yna ddiwedd, yn enwedig y rheini ohonynt sy'n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd o bosibl yn rhannu llety gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod yn dda iawn; maent am wybod bod yna ddiwedd, ac mae'r Gweinidog wedi ein sicrhau y bydd yna gynllun. Gobeithio y bydd yn un da, ond credaf fod angen iddi gyflwyno'r cynllun hwnnw'n fuan, a'i gwneud yn glir y bydd y myfyrwyr hynny'n gallu mynd adref at eu teuluoedd gyda phrofion priodol i sicrhau y gallant wneud hynny'n ddiogel.
Nawr, i ddod yn ôl at ymateb y Gweinidog yn gyffredinol i'n cynnig: wel, fel gwrthbleidiau yn y Siambr hon, rydym yn gyfarwydd â gwelliannau 'mae popeth yn iawn—dileu popeth' diystyriol wrth gwrs. Yn y bôn, yr hyn a gawsom gan y Gweinidog heno, mae arnaf ofn, oedd araith ddiystyriol 'mae popeth yn iawn'. Roedd hynny braidd yn siomedig. Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd yn awgrymu bod popeth yn iawn; roedd llawer o'r cyfraniadau a gawsom gan eraill yn cydnabod cynnydd ac yn cydnabod—a chredaf fy mod am bwysleisio hyn—pa mor galed y mae pobl sy'n gweithio yn y system yn gweithio i wneud hyn yn iawn ar yr adeg anodd hon, a byddwn yn dweud bod hynny'n wir am y Gweinidog a'i swyddogion hefyd mae'n debyg. Ond mae diystyru'r pwyntiau cymhleth yn ein cynnig ac ymateb fel pe na bai unrhyw faterion yn galw am sylw braidd yn siomedig.
Lywydd Dros Dro, nid wyf yn ymddiheuro am fod fy mhlaid wedi cyflwyno cynnig eang ei gwmpas i'r Cynulliad hwn. Rwy'n cytuno, er enghraifft, â gwelliant y Ceidwadwyr sy'n dweud y gallem wneud â dadl gyfan arall ar brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, ac os na fydd y Llywodraeth yn cyflwyno un yn fuan, gobeithio y gallwn greu cyfle i wneud hynny. Mae'r rhain yn faterion enfawr, cymhleth. Maent yn bwysig. Ac os na allwn eu trafod yn y lle hwn, ac os na all y Gweinidog ymdopi â gorfod ateb cynifer ohonynt ar unwaith, mae rhywbeth o'i le braidd.
Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn gyda gwelliannau 3, 6 a 9 i'r Senedd. Diolch yn fawr iawn, bawb.