Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ddoe. Fe wnaethon nhw ddod i rym am 6 p.m. ddydd Gwener, 23 Hydref 2020, ac maen nhw'n dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020, ac ar yr adeg honno byddan nhw wedi bod mewn grym yng Nghymru am gyfanswm o 17 diwrnod.
Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a'i holl reoliadau diwygio, sy'n cynnwys y mesurau a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer cyfyngiadau lleol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn pedwar maes allweddol, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu. Maen nhw'n cyfyngu ar symud a theithio drwy ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol. Maen nhw'n cyfyngu ar ymgynnull â phobl eraill. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i gau mathau penodol o fusnesau a lleoliadau, ac maen nhw'n gosod rhwymedigaethau ar y bobl sy'n gyfrifol am leoliadau sy'n agored i'r cyhoedd, neu am waith sy'n cael ei wneud mewn unrhyw leoliad.
Adroddodd y pwyllgor wyth pwynt rhinwedd. Nododd ein pwynt cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol o ganlyniad i'r cyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno. Amlygodd ein hail bwynt y diffyg ymgynghori ffurfiol a wnaed, ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o drafodaethau brys gyda sectorau a rhanddeiliaid allweddol. Oherwydd yr adroddiadau eang yn y cyfryngau am anfodlonrwydd ynghylch y rhybudd byr a gafodd ei roi i gyflwyno'r rheoliadau hyn, rydym ni wedi gofyn am ragor o fanylion ynghylch pwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â nhw, a phryd, cyn gwneud y rheoliadau.
Mae rheoliad 16 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau cymysg sy'n rhedeg busnesau a ganiateir a rhai sydd wedi eu gwahardd ar yr un safle. Fe wnaethom ni nodi'r feirniadaeth eang o'r polisi penodol hwn a'r dryswch y mae wedi ei achosi ymhlith rhanddeiliaid. O gofio bod eglurder yn hanfodol wrth wneud deddfwriaeth, gofynnodd ein trydydd pwynt adrodd i Lywodraeth Cymru a yw'n bwriadu diwygio'r ddarpariaeth benodol hon, neu a fydd yn rhoi rhagor o ganllawiau i fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd. Yn ystod ein cyfarfod ddoe, fe wnaethom ni ystyried ymhellach i ba raddau y mae'r rheoliadau yn effeithio ar fusnesau ac aelwydydd estynedig. O ganlyniad, mae pwyntiau adrodd 6, 7 ac 8 yn gofyn am eglurhad ar bwyntiau penodol yn y rheoliadau a sut y mae cymhwyso darpariaethau penodol yn ymarferol. Er enghraifft, mae pwynt adrodd 6 yn gofyn am esboniad o ble a sut y mae'r rheoliadau yn gwahardd archfarchnad rhag gwerthu eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro ystyr y gair 'busnes' pan gaiff ei ddefnyddio yn rheoliadau 11, 15 ac 16. Mae ein seithfed pwynt adrodd yn gofyn am eglurhad ynghylch effeithiau'r rheoliadau ar aelwydydd estynedig. O ran pwyntiau adrodd 6 a 7, byddai'n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru, yn y mannau yr ydym yn eu hawgrymu, ddarparu rhai enghreifftiau ymarferol i ddangos y pwyntiau y maen nhw'n dymuno eu gwneud mewn ymateb.
Gan droi at fater canllawiau, mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn gofyn i'r Llywodraeth ddarparu manylion ynghylch pryd y cafodd canllawiau ar y cyfnod o 17 diwrnod eu cyhoeddi er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid gydymffurfio â'r newidiadau deddfwriaethol hyn. Mae ein pumed pwynt rhinwedd yn nodi bod asesiad effaith integredig wedi ei gyhoeddi. Rydym ni'n croesawu hynny. Mae hyn yn ystyried effaith y rheoliadau mewn cysylltiad â chydraddoldeb a hawliau plant yn benodol, ac rydym ni'n croesawu hynny.
Wrth gloi, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr holl bwyntiau yr ydym yn eu codi, a'r egwyddorion sy'n sail iddyn nhw, wrth baratoi'r rheoliadau newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe a bydd hynny yn disodli'r gyfres yr ydym yn ei thrafod heddiw. Diolch, Llywydd.