– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Ac felly symudwn at eitem 12, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i'n cynnig y cynnig ger ein bron i gymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
Erbyn hyn, rydym yn ail wythnos y cyfnod atal byr, a hoffwn i ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau pam y gwnaethom ni gyflwyno y mesurau eithriadol hyn ar 23 Hydref. Rydym yn parhau i wynebu bygythiad gwirioneddol a chynyddol i iechyd y cyhoedd. Ar yr adeg pan wnaethom ni gyflwyno'r rheoliadau roedd y feirws yn lledaenu yn gyflym ym mhob rhan o Gymru, ac roeddem ni newydd gael wythnos fwyaf angheuol y pandemig ers yr uchafbwynt ym mis Ebrill. Fe wnaethom ni wrando ar gyngor SAGE a'n cell cynghori technegol ein hunain a phwyso a mesur y cyngor hwnnw yn ofalus wrth wneud y penderfyniad hwn. Roedd gennym ni 17 o ardaloedd diogelu iechyd lleol ar waith, a wnaeth wahaniaeth sylweddol ond nid oedden nhw'n ddigon ar eu pen eu hunain. Roedd y gyfradd mynychder dreigl saith diwrnod ar gyfer Cymru yn fwy na 130 o achosion ym mhob 100,000 o bobl. Ers hynny y mae wedi cynyddu i dros 250 o achosion ym mhob 100,000. Erbyn hyn, mae gan bedair ardal awdurdod lleol dros 300 o achosion ym mhob 100,000, ac roedd achosion mewn ardaloedd fel sir Benfro a Cheredigion yn cyrraedd neu'n mynd y tu hwnt i 50 o achosion ym mhob 100,000. Roedd methu â gweithredu yn creu perygl o lethu ein GIG. Roedd nifer y bobl a oedd yn mynd i'r ysbyty gyda'r coronafeirws yn cynyddu ac mae'n dal i gynyddu bob dydd. Roedd yn rhaid i ni sicrhau y gallai ein hunedau gofal critigol barhau i ofalu am bobl sy'n ddifrifol wael.
Nid ni yw'r unig rai, wrth gwrs, sydd wedi cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol. Rydym ni'n gweld cyfyngiadau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ac, mewn newid polisi mawr y penwythnos hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyfyngiadau symud cenedlaethol am bedair wythnos yn Lloegr o ddydd Iau. Ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at drychineb feddygol a moesol pe na byddai camau yn cael eu cymryd yn Lloegr. Fe wnaethom ni weithredu yn gynharach yng Nghymru, ond rydym yn croesawu'r cyfyngiadau yn Lloegr, sy'n atgyfnerthu difrifoldeb y bygythiad yr ydym yn ei wynebu ym mhob gwlad yn y DU. Nid oes bwled hud, ond ein huchelgais yw cyrraedd y Nadolig heb fod angen cyfnod atal byr cenedlaethol arall.
Dylai trafodaethau y pedair gwlad a ddechreuodd o ddifrif yn COBRA ddoe helpu pob un ohonom ni i gyflawni'r uchelgais hwnnw a rennir. Mae gan bawb ran i'w chwarae yn ein hymdrech genedlaethol i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus. Mae'n parhau i fod yn hanfodol bod pobl yn dal i gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb pan fo'n ofynnol gwneud hynny. Po fwyaf o bobl yr ydym yn cwrdd â nhw, y mwyaf o bobl sydd mewn perygl o'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i bobl ystyried, yn ogystal ag os oes hawl gwneud rhywbeth, ond hefyd a yw'n angenrheidiol ac yn synhwyrol—beth ddylem ni fod yn ei wneud? Mae'n ofynnol o hyd i bawb yng Nghymru aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd.
Rydym ni wedi ceisio lleihau'r tarfu ar addysg plant, felly dychwelodd ysgolion cynradd, ysgolion arbennig a dwy flynedd gyntaf ysgolion uwchradd fel arfer ddoe, a disgyblion hŷn sydd angen sefyll arholiadau yn yr un modd. Mae disgyblion hŷn a myfyrwyr addysg bellach yn dysgu o gartref yr wythnos hon. Bydd ein prifysgolion yn parhau i ddarparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth nad yw'n hanfodol wedi cau—felly hefyd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu. Mae addoldai wedi cau, ac eithrio ar gyfer angladdau neu seremonïau priodas. Ac nid yw pobl yn cael cwrdd ag eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, boed hynny dan do neu yn yr awyr agored. Er hynny, mae oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain, a rhieni sengl, yn parhau i gael ymuno ag un aelwyd arall, am resymau yr ydym ni wedi eu hadrodd o'r blaen yn y gorffennol.
Rydym ni wedi darparu pecyn newydd gwerth £300 miliwn o gymorth ariannol i helpu busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn. Rydym yn gwybod bod busnesau bach wedi eu taro'n arbennig o galed, ac rydym ni wedi cyflwyno taliad untro o £5,000 i'r rhai sy'n gorfod cau. Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth sydd ar gael bellach gan Lywodraeth y DU. Fel yr ydym ni'n gwybod erbyn hyn, yn dilyn y dirywiad yn ne Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi ailgyflwyno'r cymorth ffyrlo a hunangyflogaeth fwy hael ledled y DU.
Rydym ni'n defnyddio'r amser hwn i gynllunio ymlaen llaw a pharhau i gryfhau ein paratoadau ar gyfer y gaeaf, ein cynlluniau wrth gefn a'n gwasanaeth profi, olrhain a diogelu llwyddiannus ar hyn o bryd. Hoffwn i ddiolch i bobl Cymru unwaith eto am eu hymdrech enfawr ar y cyd. Mae heddluoedd yng Nghymru yn parhau i ddweud bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydymffurfio â rheoliadau'r cyfnod atal byr. I'r lleiafrif bach nad ydyn nhw'n cydymffurfio, mae'r heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill yn gorfodi'r rheoliadau lle bo angen.
Erbyn hyn mae llai nag wythnos i fynd. Bydd y cyfnod atal yn dod i ben, yn ôl y bwriad, ddydd Llun, 9 Tachwedd. Fel yr ydym ni wedi dweud droeon o'r blaen, ni fydd y cyfraddau trosglwyddo is i'w gweld am ddwy neu dair wythnos ar ôl y cyfnod atal. Mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan ym mhob cymuned ledled Cymru i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn gweithio, i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau.
Ddoe, nododd y Prif Weinidog y rheolau cenedlaethol syml y byddwn yn eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod atal byr, a rhoddwyd rhagor o fanylion yn y datganiad heddiw i'r Senedd. Byddwn ni, wrth gwrs, yn eu trafod eto yn y dyfodol, ond mae angen i bob un ohonom ni gymryd cyfrifoldeb personol am ein dewisiadau a'n gweithredoedd. Mae hyn yn bwysicach na rheolau, rheoliadau neu ganllawiau newydd. Mae angen i bawb newid ein hymddygiad yn gadarnhaol er mwyn amddiffyn pobl rhag niwed y feirws. Bydd siopau, busnesau lletygarwch, addoldai a champfeydd yn ailagor a bydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf. O ddydd Llun nesaf ymlaen, dim ond gyda'u swigod yn eu cartref eu hunain y dylai pobl gyfarfod, a dim ond dwy aelwyd fydd yn cael ffurfio swigod. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau teithio y tu mewn i Gymru, ond yn ystod y mis o gyfyngiadau symud yn Lloegr, ni chaniateir teithio i Loegr ac oddi yno heb esgus rhesymol. Fodd bynnag, dylai pawb ystyried yn ofalus a oes angen iddyn nhw deithio i rannau eraill o Gymru.
Byddwn yn parhau i ddilyn dull gofalus a graddol o ddod allan o'r cyfnod atal byr, a byddwn yn adolygu'r sefyllfa yn gadarnhaol o fewn pythefnos. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae hyn yn arbennig o angenrheidiol er mwyn ystyried effaith y cyfyngiadau symud mis o hyd yn Lloegr. Mae'r cyfnod atal byr yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni adennill rhywfaint o reolaeth dros ledaeniad y feirws er mwyn achub bywydau a, gyda'r Nadolig yn nesáu, er mwyn osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hirach a llawer mwy niweidiol. Rwyf i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwlad a chefnogi'r cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ddoe. Fe wnaethon nhw ddod i rym am 6 p.m. ddydd Gwener, 23 Hydref 2020, ac maen nhw'n dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020, ac ar yr adeg honno byddan nhw wedi bod mewn grym yng Nghymru am gyfanswm o 17 diwrnod.
Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a'i holl reoliadau diwygio, sy'n cynnwys y mesurau a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer cyfyngiadau lleol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn pedwar maes allweddol, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu. Maen nhw'n cyfyngu ar symud a theithio drwy ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol. Maen nhw'n cyfyngu ar ymgynnull â phobl eraill. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i gau mathau penodol o fusnesau a lleoliadau, ac maen nhw'n gosod rhwymedigaethau ar y bobl sy'n gyfrifol am leoliadau sy'n agored i'r cyhoedd, neu am waith sy'n cael ei wneud mewn unrhyw leoliad.
Adroddodd y pwyllgor wyth pwynt rhinwedd. Nododd ein pwynt cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol o ganlyniad i'r cyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno. Amlygodd ein hail bwynt y diffyg ymgynghori ffurfiol a wnaed, ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o drafodaethau brys gyda sectorau a rhanddeiliaid allweddol. Oherwydd yr adroddiadau eang yn y cyfryngau am anfodlonrwydd ynghylch y rhybudd byr a gafodd ei roi i gyflwyno'r rheoliadau hyn, rydym ni wedi gofyn am ragor o fanylion ynghylch pwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â nhw, a phryd, cyn gwneud y rheoliadau.
Mae rheoliad 16 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau cymysg sy'n rhedeg busnesau a ganiateir a rhai sydd wedi eu gwahardd ar yr un safle. Fe wnaethom ni nodi'r feirniadaeth eang o'r polisi penodol hwn a'r dryswch y mae wedi ei achosi ymhlith rhanddeiliaid. O gofio bod eglurder yn hanfodol wrth wneud deddfwriaeth, gofynnodd ein trydydd pwynt adrodd i Lywodraeth Cymru a yw'n bwriadu diwygio'r ddarpariaeth benodol hon, neu a fydd yn rhoi rhagor o ganllawiau i fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd. Yn ystod ein cyfarfod ddoe, fe wnaethom ni ystyried ymhellach i ba raddau y mae'r rheoliadau yn effeithio ar fusnesau ac aelwydydd estynedig. O ganlyniad, mae pwyntiau adrodd 6, 7 ac 8 yn gofyn am eglurhad ar bwyntiau penodol yn y rheoliadau a sut y mae cymhwyso darpariaethau penodol yn ymarferol. Er enghraifft, mae pwynt adrodd 6 yn gofyn am esboniad o ble a sut y mae'r rheoliadau yn gwahardd archfarchnad rhag gwerthu eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro ystyr y gair 'busnes' pan gaiff ei ddefnyddio yn rheoliadau 11, 15 ac 16. Mae ein seithfed pwynt adrodd yn gofyn am eglurhad ynghylch effeithiau'r rheoliadau ar aelwydydd estynedig. O ran pwyntiau adrodd 6 a 7, byddai'n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru, yn y mannau yr ydym yn eu hawgrymu, ddarparu rhai enghreifftiau ymarferol i ddangos y pwyntiau y maen nhw'n dymuno eu gwneud mewn ymateb.
Gan droi at fater canllawiau, mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn gofyn i'r Llywodraeth ddarparu manylion ynghylch pryd y cafodd canllawiau ar y cyfnod o 17 diwrnod eu cyhoeddi er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid gydymffurfio â'r newidiadau deddfwriaethol hyn. Mae ein pumed pwynt rhinwedd yn nodi bod asesiad effaith integredig wedi ei gyhoeddi. Rydym ni'n croesawu hynny. Mae hyn yn ystyried effaith y rheoliadau mewn cysylltiad â chydraddoldeb a hawliau plant yn benodol, ac rydym ni'n croesawu hynny.
Wrth gloi, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr holl bwyntiau yr ydym yn eu codi, a'r egwyddorion sy'n sail iddyn nhw, wrth baratoi'r rheoliadau newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe a bydd hynny yn disodli'r gyfres yr ydym yn ei thrafod heddiw. Diolch, Llywydd.
Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies, a oes modd dad-fudo'r meicroffon? Ie, dyna ni.
Diolch, Llywydd. Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau. Rwyf i yn credu bod y sylw diwethaf a wnaethoch ychydig yn ddichwaeth a dweud y lleiaf, drwy alw i gefnogi eich gwlad, fel pe baech, drwy bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, yn rhyw fath o fradwr. Rwyf i yn credu bod hynny yn ffordd arbennig o ddichwaeth o gloi eich sylwadau agoriadol. Mae gwahanol safbwyntiau i ymdrin â nhw. Rydym ni wedi cyflwyno ein barn ni. Mae gennych chi'r pleidleisiau yn y Senedd hon i ennill, ond mae cwestiynu teyrngarwch pobl i'w gwlad yn ffordd arbennig o ddichwaeth o estyn allan a cheisio ffurfio consensws wrth symud ymlaen ar ôl i ni ddod allan o'r cyfnod atal byr.
Ac rwyf i am wneud ychydig o bwyntiau ar y materion. Mae rhai ardaloedd yn y mesurau lleol wedi bod o dan y mesurau lleol hynny ers pump neu chwe wythnos. Maen nhw wedi cael problemau difrifol o ran, yn amlwg, gweithgarwch economaidd, a phethau eraill sydd wedi bod yn digwydd yn eu hardal, er gwaethaf y cyfyngiadau symud am bythefnos yr ydych chi wedi eu gorfodi arnyn nhw, ac mae hynny wedi ei bwysleisio gan y diffyg cymorth busnes. Ar ôl 24 awr, cafodd cymorth busnes y Llywodraeth ei ddefnyddio'n llwyr yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n dangos lefel y niwed sy'n digwydd i'r economi.
Rydym ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd wrth sôn am sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu, ac rydym ni i gyd eisiau sicrhau bod y feirws yn cael ei waredu, ond nid yw'r cyfathrebu ynghylch y cyfnod atal byr, y cyfyngiadau symud—galwch ef beth fynnwch chi—wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, yn enwedig o ran y rheoliadau siopa hanfodol a gafodd eu cyhoeddi sydd wedi arwain at y ddeiseb fwyaf hyd yma i'r Cynulliad, neu, dylwn i ddweud, Senedd Cymru, gyda bron i 70,000 o lofnodion. Ac mae'r newyddion heddiw am heintiau a gafodd eu caffael mewn ysbytai a nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â heintiau a gafodd eu caffael mewn ysbytai yn destun pryder mawr, rwyf i'n awgrymu, i bob Aelod. A'r un ffigur sydd wedi fy nharo i, yn fwy nag unrhyw ffigur arall, rwyf i'n awgrymu, yw'r ffigur sy'n ymwneud â'r cyfraddau hunanladdiad, sydd wedi mynd trwy'r to. Mewn rhai ardaloedd, maen nhw wedi cynyddu'n sydyn—mae'r gwasanaethau ambiwlans wedi ymdrin â bron i ddwy ran o dair yn fwy o hunanladdiadau bob dydd mewn rhannau o'r wlad. Nid wyf i wedi gweld ffigurau Cymru eto. Ond dyna'r niwed gwirioneddol sy'n digwydd. Ac rwyf i'n credu bod cwestiynu teyrngarwch pobl i'w gwlad oherwydd nad ydyn nhw'n pleidleisio dros reoliadau eich lliw Llywodraeth chi oherwydd nad ydyn nhw o reidrwydd yn cytuno â nhw islaw chi, Gweinidog, yn wir i chi, ac rwyf i'n credu y dylech chi fyfyrio ar hynny heno. Ni fyddwn yn pleidleisio ar y rheoliadau hyn, oherwydd y dadleuon yr ydym ni wedi eu cyflwyno o'r blaen. Rwy'n parchu eich safbwynt, rwy'n parchu'r ffaith bod gennych chi'r pleidleisiau, ond nid oes gennych fy mharch o ran y sylwadau yr ydych wedi eu gwneud y prynhawn yma.
Rydyn ni wedi trafod a phleidleisio ar nifer fawr o reoliadau erbyn hyn, ac mae hwn yn un o'r mwyaf arwyddocaol, yn sicr. Rydyn ni'n sôn, wrth gwrs, am reoliadau pellgyrhaeddol iawn—cyfyngiadau cenedlaethol sydd yn llym ac sydd yn effeithio ar bawb. Mi fyddwn ni'n pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw, sydd bellach wrth gwrs mewn grym ers dros 11 diwrnod. Mi wnes i a Phlaid Cymru ddadlau bod angen cyfyngiadau o'r fath—os rhywbeth, ychydig yn gynharach y dylen nhw fod wedi cael eu cyflwyno. Rydyn ni'n gweld yn Lloegr y goblygiadau o beidio â gweithredu cweit mor gyflym, wrth iddyn nhw ddechrau ddydd Iau ar gyfnod clo hirach, ond dwi yn dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn Lloegr yn eu hymdrechion nhw rŵan i gael rheolaeth ar ledaeniad y feirws. Felly, rydyn ni'n sôn am reoliadau hynod arwyddocaol ac ystod eang o gyfyngiadau. Rydyn ni'n cyd-fynd â nhw, yn gweld bod yna suite, os liciwch chi, o gyfyngiadau yn y fan hyn a oedd yn amserol iawn.
Mae'n rhaid i fi gyfeirio at Ran 3, sy'n cyfeirio at fusnesau a gwasanaethau—llawer yn gorfod cau. Dyma'r Rhan a wnaeth arwain at y drafodaeth genedlaethol fwyaf bywiog. Mae trafodaeth a beirniadaeth, a dal Llywodraeth i gyfrif, yn bwysig iawn. Dwi wedi cwestiynu llawer iawn o agweddau o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig yma, a dwi wedi trio gwneud hynny mewn ffordd adeiladol. Ac, i mi, mi oedd hi'n hynod siomedig gweld y Ceidwadwyr yn trio'u gorau i greu ac annog rhaniadau dros y cwestiwn o werthu nwyddau angenrheidiol yn unig. Oni bai eich bod chi am gael eich cysylltu efo'r math o conspiracy theorists sy'n gwadu perygl y feirws o gwbl, ac ati, byddwch yn ofalus iawn wrth chwarae gemau fel yna. Yn anffodus, dyna'r dôn rydyn ni newydd ei chlywed gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr rŵan, sy'n cyferbynnu'n fawr efo tôn arweinydd y Ceidwadwyr yn gynharach heddiw. Mi wnaf i wneud y sylw hwnnw.
Fel mae'n digwydd, rydw innau wedi dweud yn glir fy mod innau yn credu bod y Llywodraeth wedi gwneud camgymeriad ar y mater o werthiant rhai nwyddau—mewn archfarchnadoedd. Dwi'n deall beth roedden nhw'n trio'i wneud, dwi'n credu. Yn wir, mi oedd y Ceidwadwyr eu hunain wedi galw am sicrwydd na fyddai archfarchnadoedd mawr yn gallu tanseilio siopau bach, ac ati. Ond mi oedd y ffordd y cafodd hynny ei wneud gan y Llywodraeth—y negeseuo, yr effaith ymarferol fel y cafodd o'i deimlo, pobl yn methu deall pam roedd y Llywodraeth yn gwneud hyn, ei fod o'n teimlo nad oedd o'n gwneud synnwyr i bobl—mi oedd hynny'n anffodus, dwi'n meddwl, ac mi ofynnais i i'r Llywodraeth feddwl eto. Mi gafwyd negeseuon rywfaint yn gliriach, ond dwi'n gobeithio bod gwersi wedi eu dysgu, a dwi'n sicr yn cyd-fynd â'r hyn glywson ni gan Mick Antoniw, fel Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, fod angen edrych eto ar y math o ganllawiau sydd yn cael eu cyflwyno o gwmpas rheoliadau fel hyn. Os dwi ddim yn hapus yn llwyr efo cynnwys y rhan yna o'r rheoliadau. pam ydyn ni'n pleidleisio dros hwn heddiw? Wel, dwi ddim yn meddwl mai efo rheoliadau y mae'r broblem, o bosibl, ond y ffordd y cafodd o'i weithredu a'r diffyg eglurder yn y canllawiau, dwi'n credu. Ac, yn ail, mi oedd hi'n bwysig iawn, iawn bod y cyfnod clo dros dro yma yn cael ei gyflwyno.
Ond mi wnaf i gloi yn y fan hyn. Dwi wedi gwneud y pwynt droeon fod yn rhaid i'r cyfnod clo dros dro yma fod yn ddechrau ar gyfnod newydd o strategaeth newydd. Rydyn ni wedi clywed am rai o'r cyfyngiadau newydd—yr haen is a fydd yn dod i mewn yn genedlaethol o'r wythnos nesaf ymlaen. Dwi'n annog bod yn bwyllog. Yr egwyddor graidd gennyf fi ydy cael y lleiaf posib o gyfyngiadau ond eu gweithredu nhw yn effeithiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i'r nifer lleiaf o gyfyngiadau fod yn sylweddol ar rai adegau, ond dyna'r egwyddor sydd gen i. Ond nid yn unig mae'n rhaid cael y cyfyngiadau yn iawn o'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n rhaid cryfhau yn arbennig y broses o brofi, ei gwneud hi'n fwy gwydn a sicrhau bod gan bobl hyder yn y broses honno. Dwi'n siomedig iawn o glywed bod y ganolfan brofi yn Llangefni, er enghraifft, yn cau ddydd Sul. Wel, nid rŵan ydy'r amser i gau canolfannau profi; rŵan ydy'r amser i gryfhau a sicrhau bod technolegau newydd a bod sgiliau newydd mewn profi, ac ati, yn rhoi system sydd yn fwy gwydn i ni ac yn dod â chanlyniadau yn gynt. Ond rydym ni'n cefnogi'r rheoliadau yma beth bynnag.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio cyfyngiadau symud ac y dylid eu hosgoi. Bydd y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi i iechyd, cyfoeth a lles pobl yn ddifrifol, ac rydym yn gweld nifer syfrdanol o fusnesau yn methu, niferoedd di-ri o bobl yn colli eu swyddi, niferoedd enfawr o bobl ifanc methu â dod o hyd i waith, ac addysg plant yn cael ei rhwystro. Mae llawer o fy etholwyr i eisoes yn byw mewn tlodi. Ac am beth y mae'r cyfyngiadau hyn wedi bod? Rydych chi'n gwybod na fydd y cyfyngiadau hyn yn rhoi terfyn ar y bygythiad a achosir gan feirws SARS-CoV-2. Pe byddai pawb yn gwisgo mwgwd, yn cadw 2m i ffwrdd o'i gilydd ac yn golchi eu dwylo'n rheolaidd, ni fyddai'r clefyd hwn ar gynnydd. Pe byddai pawb yn cadw at y rheolau hyn, gallem ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn. Ond nid yw pobl yn cadw at y rheolau ac oherwydd gweithredoedd ychydig o bobl hunanol, rydym ni i gyd mewn perygl.
O ran profi, pam mai dim ond llai na thraean o 1 y cant o'n poblogaeth sy'n cael eu profi am y feirws hwn o hyd? Mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol o ran profi. Profodd Slofacia, gwlad â phoblogaeth bron i ddwywaith ein poblogaeth ni, hanner eu poblogaeth ddydd Sadwrn ac fe wnaethom ni gynnal ychydig dros 7,000 o brofion. Er mwyn curo'r feirws hwn mewn ffordd nad yw'n gwneud niwed hirdymor i'n hiechyd a'n lles, mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn. Rwyf i'n dal i fod o'r farn mai profi'r boblogaeth gyfan yw'r ffordd orau ymlaen a gallwn sicrhau bod y rhai hynny sy'n profi'n bositif yn cael eu rhoi mewn cwarantin priodol ac yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn hytrach na rhoi pawb dan glo. Gallem ni ddefnyddio'r arian sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu cyfyngiadau symud a chau busnesau i dalu pobl sâl i aros gartref. Dyna sut yr ydym ni'n ymdrin â'r clefyd hwn ac yn byw ynddo.
Rwy'n cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag marw o COVID neu orfod byw gydag anabledd hirdymor o ganlyniad iddo, ond nid dyma'r ffordd. Ac rwyf i wedi cefnogi cyfyngiadau symud y Llywodraeth yn flaenorol, ond dyma'r adeg pan fo'n rhaid i ni ddod o hyd i ddewis arall. Bydd ein heconomi'n dioddef a bydd y rhai hynny yng nghenedlaethau'r dyfodol yn dal i dalu amdano. Diolch yn fawr.
Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. A gaf i egluro—rwy'n credu bod fy meicroffon ymlaen?
Ydy. Gallwch barhau.
Diolch am gyflwyno'r ddadl heddiw, Gweinidog. Byddai wedi bod yn well gen i pe byddem ni wedi gallu pleidleisio ar y rheoliadau hyn cyn iddyn nhw ddod i rym, fel y mae Senedd San Steffan yn cael y cyfle i'w wneud dros Loegr yfory. O leiaf ein bod ni'n pleidleisio arnyn nhw cyn i'r cyfnod atal byr ddod i ben, sydd o leiaf yn welliant ar rai o'r amseriadau yr ydym ni wedi eu cael o'r blaen.
Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud unrhyw beth o ran lefel y gydymffurfiaeth â'r rheoliadau hyn. Mae'n amlwg bod unrhyw gonsensws gwleidyddol y tu ôl iddyn nhw wedi methu a tybed beth fu effaith hynny ar y cyhoedd. Bu rhywfaint o rethreg eithaf rhwygol, nid cyn waethed â Nicola Sturgeon yn yr Alban, a oedd fel pe bai'n awgrymu y byddai'r Alban wedi dileu'r feirws, fel yn Seland Newydd, pe na byddai wedi ei ailhadu o Loegr. Fodd bynnag, yr oedd sylwadau nad oedden nhw mor bell â hynny gan y Prif Weinidog, a gyfeiriodd at bobl o ogledd-orllewin Lloegr yn dod i Ddinbych-y-pysgod a sut y dylai pobl leol fod yn annymunol o dan yr amgylchiadau hynny. Fe wnes i dreulio rhan o fis Awst yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth yn Ninbych-y-pysgod, ac yn sicr yr oedd llawer o bobl o Loegr, gan gynnwys gogledd-orllewin Lloegr, yno. Ond, yn sir Benfro, arhosodd nifer yr achosion o'r feirws yn isel ar ôl hynny, ac rwyf i'n meddwl tybed sut mae hynny'n gyson â gwneud yr ymwelwyr o Loegr y bychod dihangol yr ydym ni wedi ei weld gan Lywodraeth y Gweinidog.
A gaf i ofyn hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda'r arolygiadau hyn o'r draeniau a'r profion carthion? Fe wnaeth y Gweinidog sioe fawr o'r blaen o astudiaeth a oedd, yn ôl y sôn, yn dangos amrywiad Seisnig o'r feirws a oedd wedi dod i'r gogledd o ardaloedd lle mae llawer o achosion yng ngogledd-orllewin Lloegr. A fu arolygiadau tebyg o'r carthffosydd o ran de Cymru a Bryste a de swydd Gaerloyw, lle'r oedd nifer yr achosion yn eithaf isel yn flaenorol, ond ers i ni fod ag ardaloedd uwch yn y Cymoedd a Chasnewydd a Chaerdydd, a oes tystiolaeth o amrywiad Cymreig o feirws COVID yn symud i dde-orllewin Lloegr? Neu a ydym ni dim ond yn profi am y pethau hyn neu'n ymddiddori mewn ymchwil o'r fath pan fydd posibilrwydd o wneud Lloegr y bwch dihangol am fethiannau ein Llywodraeth ein hunain yma yng Nghymru?
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol i'r ddadl. Diolch i'r aelod o'r pwyllgor; byddwn yn ymateb yn fanwl i'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud, felly bydd ymateb ysgrifenedig fel arfer i'r pwyllgor i ymdrin â phob un o'r pwyntiau rhinwedd sy'n cyfeirio at y gwaith craffu. Wrth gwrs, fel y soniodd un o'r cyfranwyr diweddarach, rydym ni'n cael y ddadl hon heddiw, ond roedd y pwyllgor, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, yn glir iawn eu bod nhw'n dymuno gallu craffu ar y rheoliadau a oedd wedi eu cyflwyno a darparu adroddiad i gynorthwyo yn y ddadl heddiw. Ac mae dewisiadau i ni eu gwneud wrth wneud hynny. Gallem ni fod wedi cael y ddadl hon yn llawer cynharach, ond ni fyddem ni wedi rhoi'r cyfle i'r pwyllgor graffu ar y rheoliadau, ac mae hynny yn fater sydd yn nwylo'r sefydliad mewn gwirionedd, o ran amserlennu pryd y bydd y dadleuon hyn yn digwydd a'r broses drwy'r Pwyllgor Busnes.
Fe wnaf i ymdrin â sylwadau Caroline Jones. Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod nad ymateb cyntaf yw ymyriad o'r math hwn. Rydym ni wedi rhoi amrywiaeth o fesurau eraill ar waith, gan gynnwys cyfyngiadau lleol, a gyfrannodd, ond na wnaeth y gwahaniaeth yr oedd ei angen arnom, yn union fel yr oedd gan y Llywodraeth yn Lloegr ystod o gyfyngiadau lleol a rhanbarthol dros gyfnod o sawl mis mewn rhai rhannau o Loegr ac maen nhw wedi gwneud eu penderfyniad eu hunain bod angen dull gweithredu cenedlaethol arnyn nhw yn awr ar gyfer y mis nesaf. Rydym yn profi, ar gyfartaledd, dros 10,000 o bobl y dydd. Rydym ni'n profi llawer mwy na 70,000 o bobl yr wythnos yn rheolaidd. Felly, mae gennym ni raglen brofi fawr. Ond mae profion a'r olrhain cysylltiadau a'r cais a'r cymorth a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer hunanynysu yn arfau i'n helpu ni i ymdrin â chanlyniadau heintio ac i geisio atal rhagor o heintio. Mewn gwirionedd, ein prif bwynt yw sut yr ydym yn byw yn wahanol, a'r pwynt hwnnw ynghylch sut yr ydym yn gofyn, 'Beth ddylem ni ei wneud?' yn hytrach na cheisio dod o hyd i gyfres o reolau i geisio gweithio o'i chwmpas.
Fel y dywedais i, fe wnes i ymdrin â phwynt Mark Reckless ynghylch cefnogaeth y cyhoedd yn fy agoriad, ynghylch tystiolaeth yr heddlu, ond mae tystiolaeth eang hefyd o gefnogaeth gyhoeddus eang. Mae'r holl dystiolaeth o arolygon barn sydd ar gael yn cefnogi'r dewis yr ydym ni wedi ei wneud. Ac o ran monitro dŵr gwastraff, yn sicr nid ydym ni'n defnyddio hynny i geisio gwneud rhannau eraill o'r DU yn fychod dihangol—mae'r math hwnnw o iaith yn arbennig o ddi-fudd a hynny'n fwriadol.
Hoffwn i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y gefnogaeth eang y mae Plaid Cymru wedi parhau i'w darparu ar gyfer y mesurau a'r ffordd adeiladol yr ydym ni wedi trafod, cyd-drafod ac nid cytuno bob amser ar rai o'r dewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud. Serch hynny, rydym ni wedi myfyrio, fel Llywodraeth, ar gyfnod anodd iawn o ran y negeseuon ynghylch manwerthu nad yw'n hanfodol, ond fe wnaethom ni ddewisiadau ynghylch cau yn sylweddol mewn rhannau eraill o'r economi oherwydd ein bod ni wedi blaenoriaethu buddiannau plant a phobl ifanc o ran cadw ein hysgolion ar agor, ac roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn galetach ac yn ddyfnach mewn gweithgarwch arall i gael y math o effaith yr ydym ni'n dymuno ei chael. Mae dewis gwahanol yn cael ei wneud bellach mewn rhannau eraill o'r DU; mae gan Ogledd Iwerddon gyfres lawer hirach o gyfyngiadau; mae Lloegr erbyn hyn wedi dewis ymyriad hwyrach, ond ymyriad hirach hefyd. Ac, felly, byddwn ni'n dysgu mwy oddi wrth ein gilydd, a dyna un o'r pwyntiau a ddaeth o COBRA ddoe, lle rydym ni wedi egluro ein bod ni, yn ogystal ag adrodd i bobl Cymru, yn dymuno rhannu'r gwersi yr ydym yn eu dysgu ar ôl y cyfnod atal byr â Llywodraethau eraill yn y DU, gan fod gennym ni lawer i'w ddysgu o hyd, gan fydd y feirws yn ein plith am lawer mwy o fisoedd cyn i ni gael ateb effeithiol a thymor hwy.
O ran yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, wel, bydd gen i fwy i'w ddweud am yr hyn y mae'r cyfnod atal byr wedi caniatáu i ni ei wneud: y mae wedi rhoi'r lle a'r amser i ni fyfyrio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud wrth symud ymlaen, felly bydd gen i fwy i'w ddweud, fel yr awgrymodd y Prif Weinidog, am dechnoleg profi newydd, ond hefyd am yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud i gryfhau ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu.
Ac o ran y sylwadau uniongyrchol gan Andrew R.T. Davies, nid wyf i erioed wedi awgrymu bod pobl yn fradwyr. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi dweud unrhyw beth amhriodol o gwbl yn fy nghyfraniadau heddiw. O ran y cyfeiriad at gyfraddau hunanladdiad yn Lloegr, rwy'n credu ei fod yn cyfeirio at raglen am wasanaeth ambiwlans Llundain, ffigurau sy'n hanesyddol, yn hytrach na chyfredol, ac, wrth gwrs, nid ydym yn gwybod am yr effaith ar gyfraddau hunanladdiad yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, serch hynny, yw bod yr holl fesurau yr ydym ni'n eu cymryd yn ystyried cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o niwed: mae canlyniadau gwirioneddol a sylweddol iawn yn gysylltiedig â gwneud dim. Nid fy marn i yn unig yw hynny, ond barn Prif Weinidog y DU hefyd. Rydym ni yn gwybod y bydd effaith ar iechyd meddwl a lles, a dyna pam yr ydym ni wedi dewis yn fwriadol cael cyfnod byrrach yn y cyfnod atal byr hwn.
Rwy'n dal i gredu mai hwn oedd yr unig ddewis cyfrifol i'w wneud. Pan wnaethom ni ddechrau, roedd 775 o gleifion mewn gwelyau ysbyty. Heddiw, fel y mae prif weithredwr GIG Cymru wedi adrodd, mae 1,275, dim ond 9 y cant yn is na'r uchafbwynt ym mis Ebrill gyda'r coronafeirws. Yr hyn y mae'r cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau symud am bedair wythnos yn Lloegr wedi ei wneud yw pwysleisio nad yw'r feirws yn diflannu, ac mai ein hymddygiad ni sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid yw hwn yn benderfyniad yr oedd Gweinidogion wedi ei wneud yn ddihid nac ag unrhyw fwynhad. Rydym ni'n gwybod pa mor anodd y mae wedi bod ac yn parhau i fod i bobl ledled Cymru.
Hoffwn i ddiolch unwaith eto i bawb am eu hymdrech a'u haberth gyfunol sydd i'w weld ym mhob rhan o Gymru. Fodd bynnag, rwyf i'n gofyn i arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn arbennig i fyfyrio ar eu dewisiadau ac arfer cyfrifoldeb yn eu hiaith. Wrth gwrs, mae gan y Ceidwadwyr hawl i anghytuno â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Ceidwadol y DU, a barn bob prif swyddog meddygol yn y DU, fel y maen nhw'n ei wneud. Fodd bynnag, mae'r iaith y maen nhw wedi ei defnyddio droeon i anghytuno wedi bod yn hynod bersonol, yn rhwygol, ac yn mynd y tu hwnt i sgarmesoedd arferol gwleidyddiaeth. Nid yw'r rhain yn amseroedd arferol. Yn y cyfnod eithriadol hwn, mae'r sylwadau rhwygol, personol ac, ar adegau, heb fod yn ffeithiol gan yr wrthblaid swyddogol yng Nghymru yn creu mwy o le i bobl ar gyrion gwleidyddiaeth. Nid yw'r safbwyntiau ymylol hynny yng nghanol pandemig yn ddoniol; maen nhw'n beryglus. Mae'n siŵr y byddwn ni'n parhau i anghytuno, ond rwy'n gobeithio y gall y ffordd yr ydym yn anghytuno fod yn gadarn ac yn gyfrifol yn y dyfodol. Rwyf i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.