12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:05, 3 Tachwedd 2020

Rydyn ni wedi trafod a phleidleisio ar nifer fawr o reoliadau erbyn hyn, ac mae hwn yn un o'r mwyaf arwyddocaol, yn sicr. Rydyn ni'n sôn, wrth gwrs, am reoliadau pellgyrhaeddol iawn—cyfyngiadau cenedlaethol sydd yn llym ac sydd yn effeithio ar bawb. Mi fyddwn ni'n pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw, sydd bellach wrth gwrs mewn grym ers dros 11 diwrnod. Mi wnes i a Phlaid Cymru ddadlau bod angen cyfyngiadau o'r fath—os rhywbeth, ychydig yn gynharach y dylen nhw fod wedi cael eu cyflwyno. Rydyn ni'n gweld yn Lloegr y goblygiadau o beidio â gweithredu cweit mor gyflym, wrth iddyn nhw ddechrau ddydd Iau ar gyfnod clo hirach, ond dwi yn dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn Lloegr yn eu hymdrechion nhw rŵan i gael rheolaeth ar ledaeniad y feirws. Felly, rydyn ni'n sôn am reoliadau hynod arwyddocaol ac ystod eang o gyfyngiadau. Rydyn ni'n cyd-fynd â nhw, yn gweld bod yna suite, os liciwch chi, o gyfyngiadau yn y fan hyn a oedd yn amserol iawn.

Mae'n rhaid i fi gyfeirio at Ran 3, sy'n cyfeirio at fusnesau a gwasanaethau—llawer yn gorfod cau. Dyma'r Rhan a wnaeth arwain at y drafodaeth genedlaethol fwyaf bywiog. Mae trafodaeth a beirniadaeth, a dal Llywodraeth i gyfrif, yn bwysig iawn. Dwi wedi cwestiynu llawer iawn o agweddau o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig yma, a dwi wedi trio gwneud hynny mewn ffordd adeiladol. Ac, i mi, mi oedd hi'n hynod siomedig gweld y Ceidwadwyr yn trio'u gorau i greu ac annog rhaniadau dros y cwestiwn o werthu nwyddau angenrheidiol yn unig. Oni bai eich bod chi am gael eich cysylltu efo'r math o conspiracy theorists sy'n gwadu perygl y feirws o gwbl, ac ati, byddwch yn ofalus iawn wrth chwarae gemau fel yna. Yn anffodus, dyna'r dôn rydyn ni newydd ei chlywed gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr rŵan, sy'n cyferbynnu'n fawr efo tôn arweinydd y Ceidwadwyr yn gynharach heddiw. Mi wnaf i wneud y sylw hwnnw.

Fel mae'n digwydd, rydw innau wedi dweud yn glir fy mod innau yn credu bod y Llywodraeth wedi gwneud camgymeriad ar y mater o werthiant rhai nwyddau—mewn archfarchnadoedd. Dwi'n deall beth roedden nhw'n trio'i wneud, dwi'n credu. Yn wir, mi oedd y Ceidwadwyr eu hunain wedi galw am sicrwydd na fyddai archfarchnadoedd mawr yn gallu tanseilio siopau bach, ac ati. Ond mi oedd y ffordd y cafodd hynny ei wneud gan y Llywodraeth—y negeseuo, yr effaith ymarferol fel y cafodd o'i deimlo, pobl yn methu deall pam roedd y Llywodraeth yn gwneud hyn, ei fod o'n teimlo nad oedd o'n gwneud synnwyr i bobl—mi oedd hynny'n anffodus, dwi'n meddwl, ac mi ofynnais i i'r Llywodraeth feddwl eto. Mi gafwyd negeseuon rywfaint yn gliriach, ond dwi'n gobeithio bod gwersi wedi eu dysgu, a dwi'n sicr yn cyd-fynd â'r hyn glywson ni gan Mick Antoniw, fel Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, fod angen edrych eto ar y math o ganllawiau sydd yn cael eu cyflwyno o gwmpas rheoliadau fel hyn. Os dwi ddim yn hapus yn llwyr efo cynnwys y rhan yna o'r rheoliadau. pam ydyn ni'n pleidleisio dros hwn heddiw? Wel, dwi ddim yn meddwl mai efo rheoliadau y mae'r broblem, o bosibl, ond y ffordd y cafodd o'i weithredu a'r diffyg eglurder yn y canllawiau, dwi'n credu. Ac, yn ail, mi oedd hi'n bwysig iawn, iawn bod y cyfnod clo dros dro yma yn cael ei gyflwyno.

Ond mi wnaf i gloi yn y fan hyn. Dwi wedi gwneud y pwynt droeon fod yn rhaid i'r cyfnod clo dros dro yma fod yn ddechrau ar gyfnod newydd o strategaeth newydd. Rydyn ni wedi clywed am rai o'r cyfyngiadau newydd—yr haen is a fydd yn dod i mewn yn genedlaethol o'r wythnos nesaf ymlaen. Dwi'n annog bod yn bwyllog. Yr egwyddor graidd gennyf fi ydy cael y lleiaf posib o gyfyngiadau ond eu gweithredu nhw yn effeithiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i'r nifer lleiaf o gyfyngiadau fod yn sylweddol ar rai adegau, ond dyna'r egwyddor sydd gen i. Ond nid yn unig mae'n rhaid cael y cyfyngiadau yn iawn o'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n rhaid cryfhau yn arbennig y broses o brofi, ei gwneud hi'n fwy gwydn a sicrhau bod gan bobl hyder yn y broses honno. Dwi'n siomedig iawn o glywed bod y ganolfan brofi yn Llangefni, er enghraifft, yn cau ddydd Sul. Wel, nid rŵan ydy'r amser i gau canolfannau profi; rŵan ydy'r amser i gryfhau a sicrhau bod technolegau newydd a bod sgiliau newydd mewn profi, ac ati, yn rhoi system sydd yn fwy gwydn i ni ac yn dod â chanlyniadau yn gynt. Ond rydym ni'n cefnogi'r rheoliadau yma beth bynnag.