Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ystyried effeithiolrwydd ei chyfnod atal byr, mae'n hollbwysig ei bod hefyd yn asesu lefel y cymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiadau gan y Llywodraeth am lawer yn hwy na dim ond pythefnos, wrth gwrs. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a ydych chi'n credu bod pecyn cymorth Llywodraeth Cymru wedi diwallu anghenion busnesau ledled y wlad, ac a ydych chi'n credu bod eich systemau cyllid grant wedi darparu yn ddigonol ar gyfer busnesau?