1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ystyried effeithiolrwydd ei chyfnod atal byr, mae'n hollbwysig ei bod hefyd yn asesu lefel y cymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiadau gan y Llywodraeth am lawer yn hwy na dim ond pythefnos, wrth gwrs. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a ydych chi'n credu bod pecyn cymorth Llywodraeth Cymru wedi diwallu anghenion busnesau ledled y wlad, ac a ydych chi'n credu bod eich systemau cyllid grant wedi darparu yn ddigonol ar gyfer busnesau?
Wel, Llywydd, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. A yw hynny'n golygu ein bod ni wedi gallu ymateb i bob effaith y coronafeirws ar bob busnes yng Nghymru? Wel, wrth gwrs nad ydyw, gan fod y cyfnod hwn yn gyfnod eithriadol, ac mae busnesau yma yng Nghymru wedi bod yn wynebu heriau eithriadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw, yn ystod cam 1 ein cronfa cadernid economaidd—cronfa gwerth £500 miliwn—y rhoddwyd cyfanswm o bron i 7,000 o grantiau i ficrofusnesau, gan ddod i gyfanswm o bron i £125 miliwn. Yng ngham 2, 5,000 o grantiau eraill, yn dod i gyfanswm o dros £58 miliwn. Ac, yng ngham 3, pan aeth ein gwiriwr cymhwysedd yn fyw ar 19 Hydref, archwiliodd bron i 160,000 o ddefnyddwyr y cymorth a oedd ar gael iddyn nhw drwy Lywodraeth Cymru. Nawr, fe fyddem ni'n hoffi gwneud mwy, ac fe fydd yn dda pan fyddwn ni'n meddu ar y ffeithiau llawn, ynghylch y cynllun ffyrlo a'r cymorth a fydd ar gael i Gymru oherwydd newidiadau mewn cymorth i fusnesau yn Lloegr. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn edrych ymlaen at annog ei Lywodraeth, er nad yw'n ei chefnogi mwyach, yn ôl pob tebyg, i wneud yn siŵr ein bod yn cael popeth sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.
Wel, Prif Weinidog, mae'n dal yn ffaith fod busnesau yn y rhan fwyaf o'r de a'r gogledd wedi bod o dan gyfyngiadau'r Llywodraeth ers sawl wythnos, ac mae llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw wir wedi gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a chyn y cyfyngiadau symud Cymru gyfan, fe'i gwnaethoch yn glir y byddai busnesau yn cael grantiau yn awtomatig. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi digwydd. Nid yn unig y bu'n rhaid i fusnesau wneud cais am grantiau, darperir y cyllid ar sail y cyntaf i'r felin, yn hytrach nag ar angen gwirioneddol. Ac, yr wythnos diwethaf, ataliwyd grant datblygu busnes cam 3 y gronfa cadernid economaidd, yr ydych chi newydd gyfeirio ato, dim ond 24 awr ar ôl ei agor, ac mae busnesau yn dal i boeni ac yn bryderus ynghylch sut y gallan nhw oroesi a darparu swyddi i bobl leol. A hyd yn oed yn awr, mae busnesau lletygarwch yn dal i fod yn ansicr a fydd mesurau newydd Llywodraeth Cymru yn ei olygu iddyn nhw o ddydd Llun nesaf ymlaen. Felly, prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hyder i fusnesau Cymru y byddan nhw'n gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw? Ac a ydych chi mewn sefyllfa erbyn hyn i roi rhywfaint o'r eglurder y mae mawr ei angen ar fusnesau lletygarwch ledled Cymru er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y mesurau newydd yr wythnos nesaf? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni a fydd cam 3 y gronfa cadernid economaidd yn cael ei ailagor, a pha bryd y bydd hyn yn digwydd?
Wel, Llywydd, y ffordd gyntaf o roi hyder i fusnesau Cymru yw bod yn fanwl gywir ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud wrthyn nhw. Felly, fe wnaf i geisio rhoi trefn ar nifer o'r anghywirdebau yn y cwestiynau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gofyn i mi. Gadewch i ni fod yn glir, bydd eiddo yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth o'r agwedd honno ar y gronfa sy'n ymdrin â phobl sydd ar y statws ardrethi annomestig ar gyfer eu hawdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais amdano; nid ydym ni yn y busnes o gynnig cymorth i fusnesau nad ydyn nhw'n dymuno ei gael. Ond y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw dangos eu bod ar y rhestr statws ardrethi annomestig a byddan nhw'n cael y cymorth hwnnw yn awtomatig.
Nid yw'r Aelod yn gywir ychwaith wrth ddweud bod pob agwedd ar drydydd cam y gronfa gadernid economaidd wedi'i chau mor gyflym â hynny. Mae'r elfen cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn yn parhau i fod ar agor ac mae'n dal i dderbyn ceisiadau. Mae'n wir bod un elfen o'r gronfa wedi derbyn llawer iawn o geisiadau yn gyflym iawn. Byddwn ni yn edrych, Llywydd, i weld a oes unrhyw bosibilrwydd arall o ailagor yr agwedd honno ar y gronfa, ac, fel y dywedais i wrth Paul Davies, bydd o gymorth mawr i ni yn hynny o beth pan fydd y Trysorlys yn gallu dweud wrthym ni am y cyllid canlyniadol a fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i'r cymorth sydd eisoes wedi ei warantu i fusnesau yn Lloegr.
Rwy'n gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, ynghylch y trefniadau ar ôl y cyfnod atal byr yma yng Nghymru, a bydd gen i bethau i'w dweud am y sector lletygarwch bryd hynny.
Wel, rwy'n falch y byddwch chi'n dweud rhywbeth ychydig yn ddiweddarach y prynhawn yma, oherwydd bod busnesau wir eisiau eglurder gennych chi, Prif Weinidog. Nawr, nid busnesau yn unig sydd angen cymorth; ond pobl hefyd, wrth gwrs. Ar 30 Hydref, fe wnaethoch chi gadarnhau unwaith eto y gellir dyfarnu grantiau hunanynysu i bobl ar incwm isel yng Nghymru y mae'n ofynnol iddyn nhw hunanynysu. Roeddech chi wedi gwneud ymrwymiad tebyg yn flaenorol ar 22 Medi. Nawr, Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol yn yr Alban a Lloegr wedi bod yn darparu'r grantiau ers rhai wythnosau ac yn eu hôl-ddyddio i 28 Medi, ond er hynny nid ydym ni'n gweld yr un lefel o weithredu yn cael ei sicrhau i gefnogi'r bobl hynny sydd mewn mwyaf o angen yng Nghymru, a gallai hyn arwain at risg y byddan nhw'n rhoi diwedd ar eu hynysu yn rhy fuan er mwyn talu eu biliau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni pam nad yw pobl ar incwm isel ledled Cymru wedi cael eu taliadau hunanynysu hyd yma? A wnewch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf yr ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch darparu'r grantiau hynny? Ac a allwch chi roi amserlen realistig i ni yn awr ar gyfer pryd y bydd pobl yng Nghymru yn derbyn eu grant hunanynysu mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, rydym ni eisoes wedi nodi ein cynlluniau i gefnogi pobl sy'n hunanynysu. Bydd y taliadau gwerth £500 hynny ar gael i bobl yng Nghymru. Byddan nhw ar gael drwy awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i allu ymateb yn gyflym i anghenion pobl ac, ar yr un pryd, i sicrhau bod gan y system sydd gennym ni yng Nghymru rai mesurau i ddiogelu rhag twyll mewn system lle yr ydych chi eisiau i'r cymorth gyrraedd y bobl yn gyflym ond mae'n rhaid i chi ddal i sicrhau bod y cymorth yn mynd i'r lle iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n hawdurdodau lleol am dderbyn y gyfres ychwanegol hon o gyfrifoldebau ar ben popeth arall yr ydym ni wedi dibynnu arnyn nhw i'w wneud i gefnogi eu poblogaethau lleol. Bydd y cymorth y byddwn ni yn ei roi i bobl i'w cefnogi wrth hunanynysu yn cael ei baru â chyfres o gosbau i'w gorfodi ar y bobl hynny sy'n methu yn fwriadol ac yn bwrpasol â dilyn y cyngor a roddir iddyn nhw gan ein system profi, olrhain a diogelu. Ar yr un pryd, byddwn yn ei gwneud yn drosedd i gyflogwyr annog pobl yn fwriadol i fynd i'r gwaith pryd y dylen nhw fod yn hunanynysu. Mae'n gytundeb pecyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei lunio gydag elfennau annog a chosbi, ac mae hynny i gyd wedi ei gynllunio i sicrhau bod ein system profi, olrhain, diogelu yn parhau i fod mor effeithiol ag y bu eisoes, ac yn llawer mwy effeithiol nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud ddoe, pe na byddem ni yn rhan o'r DU, na fyddem ni'n cael trafodaeth ynglŷn â ffyrlo oherwydd, fe wnaethoch chi awgrymu, na allem ni ei fforddio. Pam mae hynny?
Llywydd, dim ond ei gwneud yn glir oeddwn i bod pobl yng Nghymru yn talu i mewn i'r cynllun yswiriant, sef y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n anghytuno â sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod cymorth wedi ei roi rywsut i Gymru o haelioni Llywodraeth y DU. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod Cymru, sy'n gwneud mwy o ymdrech o ran y dreth—mae ei dinasyddion yn gwneud mwy o ymdrech o ran y dreth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—yn defnyddio'r polisi yswiriant hwnnw. Rydym ni wedi talu i mewn ac yn awr rydym ni yn tynnu allan o'r cynllun pan fydd yn diwallu ein hanghenion. Ond pe na byddem yn rhan o gynllun, pe na byddem yn talu i mewn, yna ni fyddem yn gallu tynnu allan, a dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud.
Mae'r Swistir, Norwy, Denmarc, Latfia, Estonia, Iwerddon a hyd yn oed Lwcsembwrg, sydd â phoblogaeth o'r un faint â Chaerdydd, i gyd yn ariannu cynlluniau cymhorthdal cyflog sy'n cyfateb i'r ffyrlo a hwythau yn wledydd bach, annibynnol, felly pam y byddai Cymru annibynnol yn wahanol? Yn wir, fel gwlad annibynnol gallem ni hyd yn oed benderfynu mynd gam ymhellach na hynny, a chyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol fel y gallem ni helpu'r traean o bobl hunangyflogedig nad ydyn nhw'n cael unrhyw gymorth o gwbl ar hyn o bryd. Pe byddai Cymru yn wlad annibynnol, byddai gennym ni ein Trysorlys a'n banc canolog cwbl weithredol ein hunain, sy'n golygu y gallem ni wneud yr hyn y mae pob gwlad arall yn y byd yn ei wneud ar hyn o bryd i dalu cost y pandemig, sef benthyca ar y marchnadoedd cyfalaf a defnyddio dulliau esmwytho meintiol. Mae Trysorlys y DU yn talu am y cynllun ffyrlo trwy fenthyca a thrwy gyllido ariannol. Beth sy'n eich argyhoeddi, Prif Weinidog, na fyddai Cymru annibynnol yn gwneud yr un fath neu na allai wneud yr un fath, fel y gwledydd bach eraill yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw? Pam ydych chi'n credu na allwn ni wneud penderfyniadau economaidd drosom ni ein hunain?
Llywydd, mae gennym ni safbwynt hollol wahanol. Mae'r Aelod o blaid gwahanu. Mater iddo ef yw gwneud yr achos dros hynny, nid i mi egluro pam yr wyf i'n credu ei fod e'n anghywir. Rwyf i'n gwneud yr achos cadarnhaol dros fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Mae Cymru, sydd â'n pwerau annibynnol ein hunain yma yn y Senedd, sydd wedi arfer y pwerau hynny yn annibynnol drwy gydol argyfwng y coronafeirws, ar yr un pryd yn gallu defnyddio'r gronfa ehangach honno o adnoddau sydd gennym ni trwy fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig, lle mae anghenion pobl sy'n gweithio yng Nghymru yn debyg iawn i anghenion pobl sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a lle mae'r ymdeimlad hwnnw o undod yn ymestyn y tu hwnt i'n ffin. Nid yw'r Aelod o blaid hynny. Mae'n dymuno tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, i'n gwahanu ni oddi wrth bopeth yr ydym ni'n ei wneud gydag eraill, rwyf i'n credu, yn fy mhlaid i, yn y mudiad llafur ehangach. Caiff ef gyflwyno ei achos a bydd pobl Cymru yn penderfynu, ond rwyf i'n anghytuno yn sylfaenol ag ef.
Prif Weinidog, rydych chi'n dweud bod bod yn rhan o'r DU yn golygu bod gan Gymru y fantais o gymryd rhan mewn polisi yswiriant ar raddfa fawr, ond onid yw'r wythnosau diwethaf newydd ddangos ei fod yn bolisi nad yw'n talu allan pan fydd fwyaf ei angen arnom ni yng Nghymru? Mae'r Torïaid wedi honni ein bod ni wedi cael £4 biliwn gan San Steffan yn ystod y pandemig, ond dim ond ein cyfran Barnett ni yw hynny o'r arian y mae'r Trysorlys wedi ei fenthyg ar ein rhan oherwydd ei fod wedi ein hatal ni rhag ei fenthyg ein hunain. Pe byddem ni'n gallu benthyg ein hunain, heb lyffethair fel gwlad annibynnol, yna gallem ni wneud cymaint mwy. Gallem ni fuddsoddi yn ein gallu profi ein hunain, fel y mae Slofacia wedi gallu ei wneud, gan ei galluogi i brofi dwy ran o dair o'i phoblogaeth gyfan dros y penwythnos. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â system fethedig labordy goleudy y DU, sy'n rhoi Cymru ar ei cholled, a oes unrhyw syndod bod pobl yn ymuno ag ymgyrch YesCymru yn eu miloedd?
Wel, Llywydd, rwyf i'n cyflwyno achos nad yw'r Aelod byth yn ei wneud dros undod cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, i ni rannu ein risgiau a chael ein gwobrau pan fydd eu hangen nhw arnom ni. Rwyf i'n credu y bu hynny o fantais i Gymru erioed. Mater i'r Aelod yw esbonio i Gymru pam y mae e'n credu, o golli popeth yr ydym yn ei gael trwy fod yn rhan o'r cyfan ehangach, y byddai Cymru yn fwy llwyddiannus ar ei phen ei hun yn y byd. Nid wyf i erioed wedi derbyn y ddadl honno. Nid oeddwn i eisiau i ni adael yr Undeb Ewropeaidd; nid wyf i eisiau i ni adael undeb y Deyrnas Unedig.