Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Llywydd, fe wnes i ddatganiad ac fe gyhoeddais adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod ein strategaethau a'n polisïau yn cyflawni ar gyfer pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r wlad yn ei chyfanrwydd.