Prydau Ysgol am Ddim

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:15, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Os caf i ddychwelyd, Prif Weinidog, at brydau ysgol am ddim, hoffwn i gysylltu fy hun â llawer o'r hyn a ddywedodd Joyce Watson am ba mor gadarnhaol yw hi ein bod ni'n parhau i'w darparu, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd ddoe, yn galw am system fudd-daliadau yng Nghymru. Un o'r problemau sydd gennym ni o hyd o ran prydau ysgol am ddim yw bod oddeutu 20 y cant o'r teuluoedd hynny sydd â hawl iddyn nhw yn dal i beidio â manteisio arnyn nhw.

Nawr, dywedwyd wrthyf i y gallai fod problem, yn enwedig mewn rhai cymunedau llai—er enghraifft, cymunedau pentrefi yn y Gwendraeth, lleoedd fel Pontyberem, Pont-iets a'r Tymbl—lle mae pobl yn dal i deimlo rhywfaint o stigma wrth wneud cais am y cymorth hwn. A gaf i wahodd y Prif Weinidog heddiw i ailbwysleisio nad elusen yw hyn mewn unrhyw ystyr? Mae hwn yn hawliad yr ydym ni i gyd yn awyddus i bob un teulu sydd â hawl iddo ei ddefnyddio. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, trwy weithio gyda chymunedau a gydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod pob un plentyn sydd â hawl i gael cymorth fel nad yw'n llwglyd yma yn ein gwlad ni yn cael y cymorth hwnnw?