Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am yr angen i gefnogi'r rhai hynny ar incwm is. Mae 42 diwrnod wedi mynd heibio erbyn hyn ers i'ch Llywodraeth gyhoeddi y byddai'n cyflwyno taliadau o £500 yr wythnos i'r rhai hynny ar incwm isel y gofynnir iddyn nhw hunanynysu, ond nid yw'r taliadau wedi dod i law eto. Nawr, mae pobl yn Lloegr a'r Alban wedi bod â hawl i daliadau o £500 ers 28 Medi, gyda grantiau yn cael eu talu o 12 Hydref. Yn gynharach heddiw, gofynnodd Paul Davies i chi, yn ei gwestiynau ef, pryd y bydd pobl yng Nghymru yn cael y grantiau hunanynysu gwerth £500. Ni wnaethoch chi ateb ei gwestiwn, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni yn awr pryd y bydd y gwneir y taliadau hyn?