COVID-19 mewn Ysbytai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi anghytuno â'r hyn a oedd yn gyflwyniad hurt i'r hyn a oedd yn gwestiwn synhwyrol ar ei ddiwedd. Roedd y pwynt synhwyrol y llwyddodd yr Aelod i'w wneud yn ymwneud â'r ffordd y mae safleoedd y GIG yng Nghymru yn creu cyfleusterau ar wahân i bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws er mwyn gallu diogelu cyfleusterau ar gyfer y bobl hynny y mae angen iddyn nhw ddefnyddio'r GIG am bob rheswm arall. Yn gynharach heddiw, Llywydd, cynhaliodd cyfarwyddwr cyffredinol a phrif weithredwr y GIG gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ac ymdriniodd yn uniongyrchol â'r mater o ledaeniad y coronafeirws mewn ysbytai. Dywedodd ei fod, wrth gwrs:

yn gresynu at bob achos o Covid a gafwyd mewn ysbytai. Ond rwyf i eisiau bod yn glir,

Meddai Dr Goodall, nid yw hyn mor syml â methiant gweithdrefnau golchi dwylo neu weithdrefnau rheoli heintiau gwael.

Aeth ymlaen i egluro'r ffyrdd y gall y coronafeirws barhau, er gwaethaf popeth y mae ein staff yn ei wneud i ddiogelu'r lleoliadau caeëdig hynny a'r bobl hynny sy'n gweithio ac sy'n cael eu trin ynddyn nhw—er gwaethaf yr holl ymdrechion hynny, nododd y ffyrdd y gall y feirws hynod heintus hwn barhau i fynd i mewn i'r lleoedd hynny, a pha mor anhygoel o anodd y gall hi fod i atal ei ledaeniad mewn amgylcheddau gofal iechyd prysur, yn enwedig pan ein bod yn gweld 100 o bobl sydd â'r coronafeirws yn cael eu derbyn i'n hysbytai bob dydd erbyn hyn. Ac rwyf i'n credu y byddai ychydig mwy o ddealltwriaeth, ar ran yr Aelod, o bopeth y mae'r staff rheng flaen hynny yn ei wneud i ymdrin â'r amgylchiadau gwirioneddol anodd hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael yn gynharach heddiw wrth nodi'r ymdrechion parhaus y mae'r bobl hynny yn eu gwneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.