1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2020.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55809
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda byrddau iechyd i'w cefnogi i reoli lledaeniad y coronafeirws mewn ysbytai. Caiff pob achos ei adolygu a chaiff gwersi eu rhannu rhwng byrddau iechyd wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ffaith fod COVID-19 wedi cael ei adael i ledaenu yn ein hysbytai yn arwydd o fethiant clir ym mholisi'r Llywodraeth ac o esgeuluso dyletswydd Llywodraeth Cymru i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Prif Weinidog, pam nad oes ffin glir rhwng cleifion sydd â COVID a chleifion nad oes ganddyn nhw COVID? Pam ydym ni'n profi ychydig dros hanner yr holl dderbyniadau i'r ysbyty? A, Prif Weinidog, siawns eich bod yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddiogelu ein GIG yw profi pawb a neilltuo ysbytai penodol ar gyfer trin y rhai sydd wedi eu heintio â COVID-19? Diolch.
Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi anghytuno â'r hyn a oedd yn gyflwyniad hurt i'r hyn a oedd yn gwestiwn synhwyrol ar ei ddiwedd. Roedd y pwynt synhwyrol y llwyddodd yr Aelod i'w wneud yn ymwneud â'r ffordd y mae safleoedd y GIG yng Nghymru yn creu cyfleusterau ar wahân i bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws er mwyn gallu diogelu cyfleusterau ar gyfer y bobl hynny y mae angen iddyn nhw ddefnyddio'r GIG am bob rheswm arall. Yn gynharach heddiw, Llywydd, cynhaliodd cyfarwyddwr cyffredinol a phrif weithredwr y GIG gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ac ymdriniodd yn uniongyrchol â'r mater o ledaeniad y coronafeirws mewn ysbytai. Dywedodd ei fod, wrth gwrs:
yn gresynu at bob achos o Covid a gafwyd mewn ysbytai. Ond rwyf i eisiau bod yn glir,
Meddai Dr Goodall, nid yw hyn mor syml â methiant gweithdrefnau golchi dwylo neu weithdrefnau rheoli heintiau gwael.
Aeth ymlaen i egluro'r ffyrdd y gall y coronafeirws barhau, er gwaethaf popeth y mae ein staff yn ei wneud i ddiogelu'r lleoliadau caeëdig hynny a'r bobl hynny sy'n gweithio ac sy'n cael eu trin ynddyn nhw—er gwaethaf yr holl ymdrechion hynny, nododd y ffyrdd y gall y feirws hynod heintus hwn barhau i fynd i mewn i'r lleoedd hynny, a pha mor anhygoel o anodd y gall hi fod i atal ei ledaeniad mewn amgylcheddau gofal iechyd prysur, yn enwedig pan ein bod yn gweld 100 o bobl sydd â'r coronafeirws yn cael eu derbyn i'n hysbytai bob dydd erbyn hyn. Ac rwyf i'n credu y byddai ychydig mwy o ddealltwriaeth, ar ran yr Aelod, o bopeth y mae'r staff rheng flaen hynny yn ei wneud i ymdrin â'r amgylchiadau gwirioneddol anodd hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael yn gynharach heddiw wrth nodi'r ymdrechion parhaus y mae'r bobl hynny yn eu gwneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
Mae pobl yn Lloegr sy'n agored i niwed yn glinigol ac nad ydyn nhw'n gallu gweithio gartref wedi cael cyngor gwarchod newydd, ac mae pobl dros 60 oed wedi cael cyngor i leihau cysylltiad ag eraill gymaint â phosibl. Yng Nghymru, y cyngor i'r grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol, gan gynnwys pobl dros 60 oed, yw i barhau i weithio os na allwch chi weithio gartref. Mae eich cyngor yn dweud y dylai eich cyflogwr allu egluro wrthych chi y mesurau y maen nhw wedi eu rhoi ar waith i'ch cadw chi'n ddiogel yn y gwaith. Nawr, rwy'n siŵr y gallwch chi ddychmygu nad yw hyn yn dderbyniol i'r holl rai hynny sy'n wynebu dewis amhosibl. Fel y dywedodd un etholwr o'r Rhondda, mae'n fater o naill ai gwarchod a pheidio â chael cymorth ariannol, neu weithio ac wynebu cymhlethdodau hirdymor gyda'n hiechyd neu farwolaeth hyd yn oed. Nid oes modd gorbwysleisio'r pwysau iechyd meddwl sy'n dod gyda'r math hwn o ddewis. Mae angen i'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol gael eu diogelu yn well yn y gwaith ac mae hyn yn arbennig o wir os yw pobl yn gweithio mewn lleoliadau risg uchel fel ysbytai, ysgolion, carchardai a lleoliadau caeëdig eraill. Nawr, rwy'n deall bod manylion rheoliadau'r dyfodol yn dal i gael eu llunio, ond a wnewch chi roi ymrwymiad i ni heddiw y byddwch chi'n addo rhoi'r amddiffyniad hwn i bobl sydd mewn gwaith ac sy'n agored iawn i niwed yn glinigol?
Wel, Llywydd, fe ddylwn i ei gwneud yn glir i'r Aelodau nad fy nghyngor i oedd yr Aelod yn ei ddyfynnu; roedd hi'n dyfynnu cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru yn y llythyr y mae ef wedi ei anfon at bob un o'r 130,000 o bobl a oedd ar y rhestr warchod, ac mae'n rhoi'r cyngor clinigol gorau y gall ef ei roi iddyn nhw.
Gwn i y bydd Leanne Wood yn cydnabod effaith gwarchod ar iechyd meddwl hefyd. Dyma un o'r pethau a ddywedodd y boblogaeth sy'n gwarchod wrthym ni yn rymus iawn yn gynharach yn y flwyddyn yn ystod y cyfnod hir hwnnw pryd y gwnaethom ni ofyn iddyn nhw beidio â mynd i'r gwaith, peidio â mynd allan i siopa, peidio â gadael eu cartrefi ar gyfer ymarfer corff. Y neges yn ôl ganddyn nhw oedd bod hynny wedi cael effaith ddofn, mewn llawer o achosion, ar ymdeimlad pobl o iechyd meddwl a lles. Ac mae hynny i gyd wedi'i grynhoi yn y cyngor y mae'r prif swyddog meddygol yn ei roi i bobl, gan geisio cydbwyso'r gwahanol fathau o niwed a ddaw o ofyn i bobl fyw eu bywydau yn y ffordd gyfyngedig iawn honno.
Ond rwyf i yn cytuno â Leanne Wood ynglŷn â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud o ran pobl sydd mewn gwaith pan eu bod nhw'n agored iawn i niwed. Rwy'n credu bod y llythyr yn ymdrin â hynny mewn ffordd fwy sensitif nag y mae hi wedi ei awgrymu efallai, ond rwyf i'n hapus iawn i ddweud wrthi bod hwnnw'n fater y byddwn ni'n ei adolygu yn barhaus, ac os oes modd rhoi gwell cyngor i bobl ac i gyflogwyr ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ymateb i bobl sydd yn yr oedran hwnnw ac sy'n agored i niwed yn glinigol—y ffordd y cânt eu hamddiffyn yn y gweithle—yna wrth gwrs, rydym ni'n falch iawn o barhau i wneud hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.