Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Yn ystod y cyfnod atal byr, rydym wedi cymryd camau i gryfhau ein hymateb ni i'r feirws a gwireddu ein cynllun i ddiogelu'r GIG trwy'r gaeaf. Fe gaiff datblygiadau arloesol megis y gwasanaeth archebu ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghaerdydd a'r Fro eu cyflymu mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae ein byrddau iechyd lleol ni'n parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n capasiti o ran ysbytai maes. Mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu ni'n parhau i wneud gwaith da wrth ymdrin â niferoedd yr achosion, sydd wedi codi'n sylweddol, a gwelwyd cynnydd yn yr adnoddau. Fe agorwyd canolfannau prawf lleol newydd i'w gwneud nhw'n fwy hygyrch, gan gynnwys i fyfyrwyr, ac mae mwy o ganolfannau lleol o'r fath yn yr arfaeth. Mae gwaith arloesi yn cael ei ddatblygu i gynyddu capasiti'r labordai a galluogi profion pwynt gofal, a allai fod yn arbennig o werthfawr mewn ysbytai a chartrefi gofal. Fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, fe fydd y Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am dechnolegau profi newydd yn y dyddiau nesaf.
Llywydd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi parhau â'r dull ymgynghorol yr ydym wedi bod yn ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig hwn, gan siarad â phartneriaid cyn inni wneud penderfyniadau, nid eu hysbysu nhw'n unig pan fydd y penderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau hyn: y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi cyfarfod ddwywaith mewn cyfarfodydd eithriadol, gan gynnwys undebau llafur, busnesau a phartneriaid eraill; y fforwm rhyng-ffydd; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chyngor y trydydd sector; comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid heddluoedd Cymru; a phobl ifanc o Blant yng Nghymru, a llawer iawn o rai eraill hefyd. Llywydd, fe fydd y rheoliadau a wnawn ni'r wythnos hon yn effeithio'n uniongyrchol ar yr holl bartneriaid hyn ac mae pob un wedi cyfrannu at eu llunio nhw. Fe fyddwn ni'n cwblhau'r rheoliadau pan fyddwn ni wedi clywed gan Aelodau'r Senedd o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw.
Canlyniad hyn yw y byddwn ni, o 9 Tachwedd, yn cyflwyno ymateb cenedlaethol, gydag un gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Fe fydd y rhain yn ein galluogi ni i ailddechrau gydag agweddau ar fywyd Cymru, ond nid yw'r feirws wedi diflannu a dim ond drwy ymddwyn yn gyfrifol a diogelu ein gilydd y byddwn ni'n sicrhau'r cynnydd angenrheidiol wrth gefnu ar yr argyfwng hwn. Llywydd, o ddydd Llun, rydym yn cynnig newid y gyfraith yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol: fe fydd eglwysi, temlau, synagogau a mannau addoli eraill yn gallu ailagor fel yr oedden nhw cyn y cyfnod atal byr. Fe fydd canolfannau cymunedol yn ailagor hefyd. Fe fydd prifysgolion yn parhau i weithredu fel y buon nhw yn ystod y cyfnod atal byr, ac fe fydd ysgolion a cholegau yn gallu croesawu pob disgybl a myfyriwr yn ôl. Fe fydd siopau, canolfannau ffitrwydd a phob safle arall sydd ar agor i'r cyhoedd, y bu'n ofynnol iddyn nhw gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ailagor. Ond, ym mhob un o'r safleoedd hyn ac mewn gweithleoedd, fe fydd y gofyniad cyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws yn parhau i fod yn gymwys er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys tafarndai, caffis a bwytai. Fe fydd y rhain yn ailagor, ond ein cyngor clir ni i bobl Cymru yw y dylem ymweld â'r lleoedd hyn mewn grwpiau mor fach â phosibl ac, i lawer, bydd hynny'n golygu y bobl yr ydym ni'n byw gyda nhw. Ond rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl ifanc a phobl sengl yn arbennig wedi ei ddweud wrthym ni o ran pa mor bwysig yw gallu cwrdd â ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu. Ein bwriad ni yw y bydd y rheoliadau yn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o bobl gyfarfod mewn lleoliad sy'n cael ei reoli, fel bwyty, caffi neu dafarn, ond y bydd hyn yn amodol ar fesurau diogelu caeth a drafodir gyda'r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau amser cyfyngedig a gallu profi hunaniaeth. Llywydd, fel ym mhob agwedd ar ein bywydau ni, fe fydd cadw at hanfodion hylendid da a chadw pellter yn hanfodol yn y lleoliadau hyn hefyd.
Dyma un o'r newidiadau mwyaf heriol o safbwynt iechyd y cyhoedd, ac fe fyddwn ni'n ei adolygu drwy'r amser. Fe fydd ei lwyddiant yn dibynnu ar yr hyn a wna'r sector a phob un o ddinasyddion Cymru wrth ddefnyddio'r ailagor hwn mewn ffordd gyfrifol a chall. Ac fe fyddwn ni, Llywydd, yn parhau i ddod â gwerthu alcohol i ben am 10 p.m. yng Nghymru.