3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:00, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, o ganlyniad i'r trafodaethau lawer a gynhaliwyd dros y 10 diwrnod diwethaf, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r angen i roi cyfle i bobl gael cyswllt cymdeithasol yn ystod misoedd y gaeaf. Fe fydd gweithgareddau a drefnir i grwpiau o hyd at 15 o bobl dan do a 30 o bobl yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu eto pan ddaw'r cyfnod atal byr i ben. Ond, unwaith eto, fe fydd angen cynnal asesiadau risg ymlaen llaw, a chymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddal neu ledaenu'r feirws, ac ni fydd y gweithgareddau hyn yn gallu cynnwys gwerthu nac yfed alcohol. Fe fydd eithriad ar wahân ar gyfer hyd at 15 o bobl i allu bod yn bresennol mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, ac ni fydd plant dan 11 oed yn cael eu cyfrif yn rhan o'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn y lleoliadau rheoledig hyn.

Rwyf am droi nawr, Llywydd, at faes heriol iawn arall, sef i ba raddau y dylem gwrdd â'n gilydd yn ein cartrefi ni ein hunain, sy'n lleoliad y gwyddom fod y coronafeirws yn parhau i ledu a ffynnu ynddo. O ganlyniad, y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, yn y cartref, gan gynnwys mewn gerddi, ni all pobl gwrdd â neb oni bai am y rhai sydd o'r un aelwyd estynedig, ac fe fydd yr aelwyd estynedig honno'n cael ei chyfyngu i ddwy aelwyd sy'n dod at ei gilydd a neb arall. Os ydym ni am wneud yn fawr o'r enillion a greodd y cyfnod atal byr, fe fydd yn rhaid inni osgoi'r mathau mwy peryglus hyn o ymddygiad yn gyfan gwbl y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Fe fydd partïon mewn tai, digwyddiadau mwy o faint ac ymgynnull dan do yn anghyfreithlon, ac fe fyddwn ni'n gwneud hyn yn gwbl glir yn ein rheoliadau ni.

Llywydd, er mwyn inni allu cadw'r rheolau cenedlaethol newydd hyn mor syml â phosibl, ni fyddwn yn cael cyfyngiadau teithio lleol eto. Fe fydd pobl yn gallu teithio i unrhyw le yng Nghymru, ond, unwaith eto, rydym ni'n gofyn i bobl fod yn gyfrifol wrth deithio, gan aros yn agos i gartref a pharhau i gyfyngu ar eu cysylltiadau nhw â phobl eraill. Nid yw caniatâd i deithio yn gyfarwyddyd i deithio, ac fe fydd y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn o ran yr agwedd hon ar ein bywydau yn cael ei hadolygu hefyd yn yr wythnosau sy'n dilyn y cyfnod atal byr.

Pan fydd y cyfnod clo'n weithredol yn Lloegr, fe fydd rheoliadau Lloegr yn gwahardd teithio i Loegr ac oddi yno oni bai bod hynny am reswm hanfodol fel gwaith neu addysg. A chan gydnabod y bydd Cymru'n dod allan o'r cyfnod atal byr hwn fel ardal o'r DU sydd â nifer fawr o achosion, fe fyddwn ni hefyd yn rhoi cyfyngiadau teithio ar bobl sy'n ymadael neu'n dod i Gymru hyd nes i'r cyfraddau hynny ostwng. Ni chaniateir teithio rhyngwladol heb reswm digonol.

Llywydd, gan ein bod ni ar fin dechrau ar y cam nesaf yn ein hymdrech genedlaethol i reoli'r feirws, fe fydd y ffordd y mae pob un ohonom yn ymddwyn ym mhob agwedd ar ein bywydau ni wrth wraidd yr ymdrech honno. Mae angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein gilydd yn ddiogel. Fe wn i'n iawn fod mwyafrif llethol pobl Cymru wedi aberthu llawer iawn ar gyfer byw yn ôl y rheolau a fu cyn y cyfnod atal byr. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonyn nhw. A thros gyfnod y gaeaf hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn barod i fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol fel nad yw'r ymdrech a wnaethom gyda'n gilydd yn mynd yn ofer ac nad ydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa hon unwaith eto. Fe fydd yn rhaid i bob un ohonom gadw ein cysylltiadau â'n gilydd mor ysgafn â phosibl, a chadw'r cylch o bobl yr ydym ni'n cyfarfod â nhw mor fach â phosibl, a rhoi ystyriaeth i'r holl ffyrdd eraill o barhau i gadw mewn cysylltiad â nhw.

Llywydd, yn ystod yr wythnosau ar ôl 9 Tachwedd fe fydd gennym ni fwy o dystiolaeth o effaith y cyfnod atal byr. Fe fyddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn i sicrhau eu bod nhw'n gymesur ac yn effeithiol. Ond mae'n rhaid inni beidio â bod dan unrhyw gamargraff. Wedi i'r cyfnod atal byr ddod i ben, ni fydd y feirws wedi darfod o'r tir. Yn ystod yr wythnosau i ddod fe fydd yn rhaid inni ofyn i ni ein hunain nid, 'Beth alla i ei wneud?', ond, 'Beth ddylwn i ei wneud?' er mwyn ein cadw ni a phobl eraill yng Nghymru yn ddiogel rhag yr hyn sy'n parhau i fod yn glefyd difrifol. Llywydd, diolch yn fawr.