Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Rwy'n diolch iddo am fynegi ei gefnogaeth yn gyffredinol dros y dyddiau diwethaf ac am y cyfle i drafod rhai o'r mesurau a gyhoeddwyd ar y cyd ag Aelodau o'i blaid ef. Y cyfan y gallaf i ei ddweud wrtho ef yw'r hyn a ddywedais i wrth bobl eraill o ran yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol, sef nad ydym ni mewn sefyllfa i allu diystyru unrhyw beth. Mae'r dyfodol mor ansicr drwyddo draw fel bod unrhyw un sy'n dweud wrthych chi y bydd angen rhywbeth yn bendant neu na fydd angen rhywbeth yn bendant ymhen wyth wythnos yn dibynnu ar ddim amgen mewn gwirionedd na dewiniaeth, ac nid wyf i'n credu y byddai pobl yng Nghymru yn diolch inni pe byddem ni'n ceisio bwrw ymlaen yn y ffordd honno.
Roeddwn i o'r farn fod Adam Price wedi gwneud pwynt pwysig, Llywydd, pan ddywedodd mai dim ond Llywodraethau a all wneud rhai pethau ac mae yna bethau eraill na all neb eu gwneud ond pob un ohonom ni yn ein bywydau ni ein hunain, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o'r ddeubeth hynny. Rydym wedi bod yn gwneud nifer o bethau i ymateb i rai o'r pwyntiau y soniodd Adam Price amdanyn nhw. Rydym ni'n rhan o'r arbrawf profi tref gyfan sy'n cael ei gynnal yn Lerpwl, yn yr ystyr y byddwn ni'n gallu casglu'r hyn a ddysgwyd o hynny'n uniongyrchol. Rwy'n credu y bydd yna lawer i'w ddysgu o gylchu'r trac hwnnw am y tro cyntaf a gweld a allwn ni ddefnyddio'r dull sy'n deillio o'r arbrawf hwnnw wedyn mewn rhannau o Gymru lle byddai'n ddefnyddiol i ni.
Rwy'n credu bod y profion asymptomatig a'r profion ledled y boblogaeth yn cysylltu'n agos iawn â'r genhedlaeth nesaf o brofion a allai fod ar gael ac y bydd Vaughan Gething yn adrodd arnyn nhw eto yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei wneud yw syrthio i'r fagl yr wyf i'n gweld eraill yn ei syrthio iddi o ddweud wrth bobl yng Nghymru, 'Mae yna ryw ddatrysiad hud a lledrith rownd y gornel, mae yna brawf, mae yna frechlyn, mae yna rywbeth a fydd yn ein gollwng ni'n rhydd o'r carchar.' Rwyf i o'r farn fod pobl wedi syrffedu ar gael clywed, 'O, fe fydd y cyfan drosodd ymhen 12 wythnos', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y Nadolig', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y gwanwyn', 'Mae yna rywbeth ar fin digwydd; arhoswch chi, ac fe fydd popeth yn iawn.' Nid yw pobl yn coelio hyn ac maen nhw'n iawn i beidio â'i goelio. Mae'n frwydr hir a chaled y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod â rhan ynddi, nid yn unig am y dyddiau nesaf neu'r wythnosau nesaf, ond ymhell i'r flwyddyn nesaf.
Ac yna, pan ddaw'r cyfleoedd newydd hyn i'n rhan ni, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn awyddus i'w defnyddio nhw, a'u defnyddio nhw i wneud bywyd yn haws i bobl—drwy olrhain cyswllt yn ôl, sy'n digwydd eisoes yn ein system profi, olrhain, diogelu ni yng Nghymru, am yr union reswm a grybwyllodd Adam Price. Fe wyddom ni fod yna unigolion a digwyddiadau a all fod yn gyfrifol am nifer anghymesur iawn o achosion o heintio o'r newydd, a dyna pam rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Mae gennym ni gynlluniau annibynnol ar gyfer gweinyddu brechlyn pan fydd hwnnw ar gael, ond, unwaith eto, nid wyf eisiau awgrymu i bobl Cymru mai'r brechlynnau cyntaf a fydd ar gael fydd y math y maen nhw'n fwyaf cyfarwydd â nhw—brechlyn ffliw sy'n para am flwyddyn gyfan neu frechlyn MMR sy'n para am oes gyfan. Fe fydd y brechlynnau cynnar sy'n debygol o fod ar gael yn rhoi rhywfaint o imiwnedd am gyfnod o amser, ond ni fyddan nhw yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, o ystyried eu profiadau blaenorol mewn bywyd.
O ran ffyrlo, siomedig iawn yw ein bod ni yn ôl mewn dryswch unwaith eto, wedi inni gael eglurder, fel yr ymddangosodd ddoe, gan Brif Weinidog y DU. Fe gafodd Gweinidogion Llywodraeth y DU eu siarsio gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru mewn cyfarfod COBRA ddoe i sicrhau bod yr eglurder sydd ei angen ar gael inni, ac nad yw'n bosibl i Weinidogion Lloegr, ar eu pennau eu hunain, ddatgan argyfwng iechyd cyhoeddus a galw cynllun ffyrlo. Roeddwn i o'r farn fod yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth, ac ynglŷn â hyn, mae gwir angen cyflawni'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud.
Ni fyddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur R ar gyfer dydd Llun nesaf am ychydig wythnosau ar ôl dydd Llun nesaf, oherwydd mae yna oedi gyda'r dangosydd R. Dyna pam rwyf i bob amser wedi dweud na fyddwn ni'n gwybod pa mor effeithiol fu'r cyfnod atal byr am rai wythnosau eto. 'A fydd hynny'n ddigon?', fel mae Adam Price yn ei ofyn yn gwbl briodol. Wel, Llywydd, fy ateb i yw hyn: bydd hynny'n ddigon dim ond os bydd pob un ohonom yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol inni ei wneud, yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, ond hefyd y pethau y gallwn ni eu gwneud yn ein bywydau ni ein hunain, oherwydd ni all Llywodraethau ddatrys yr argyfwng hwn ar eu pennau eu hunain. Yn y pen draw, sut rydym ni'n ymddwyn ar ein haelwydydd ein hunain, yn ein gweithleoedd, pan fyddwn ni tu allan ac mewn lleoliadau eraill sy'n cael eu rheoli, dyna sy'n ysgogi'r feirws hwn ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i leihau'r perygl hwnnw. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i gynyddu'r perygl hwnnw. Os ydym ni'n gwneud y pethau iawn ac yn gofyn i ni ein hunain, fel y dywedais i, 'Beth ddylwn i ei wneud?', fe all hynny fod yn ddigon.