Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Os caf i, Prif Weinidog—rwy'n ddiolchgar ichi am eich datganiad chi'r prynhawn yma—barhau â thema cymorth i fusnesau. Mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud dros y dyddiau diwethaf, ac yn croesawu'r ymdeimlad o gyfrifoldeb personol a'r ysbryd hwnnw yr ydych chi wedi ei gyflwyno i'r ddadl gyhoeddus ynglŷn â hyn, ond rwyf i'n clywed gan lawer o fusnesau bach a phobl hunangyflogedig sy'n awyddus iawn i ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng cynnal eu busnesau, cynnal cyflogaeth, cynnal y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu i bobl leol, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel drwy'r cyfnod anodd iawn hwn hefyd. Mae'r anhrefn a welsom ni yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf—y Prif Weinidog yno'n dweud ddoe bod ffyrlo ar gael, a hwnnw'n cael gwybod gan ei Weinidogion heddiw ei fod wedi gwneud camgymeriad ddoe—yn golygu, wrth inni siarad heddiw, nad ydym yn gwybod beth yw polisi'r Trysorlys, ac a ydyn nhw wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU eto beth yw eu polisi nhw. Felly, mae angen rhywfaint o gydlyniad yn ogystal ag ymdeimlad o gefnogaeth ddi-dor i bobl, ac mae cefnogaeth y gronfa cadernid economaidd gan Lywodraeth Cymru wedi cynnig hynny. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom ni'n ddiolchgar o weld cymorth gan y gronfa cadernid economaidd yn ailddechrau ac ar gael i fusnesau cyn gynted â phosibl.
Yr ail bwynt, Prif Weinidog, yw hwn: rydych chi newydd ateb Adam Price ynglŷn â mater profi ac olrhain, ac mae'n hwnnw'n un o lwyddiannau mawr, os mynnwch chi, y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Llywodraeth wedi gwario tua £102 miliwn yng Nghymru ar hyn, sy'n cynrychioli £32 y pen, ac sydd ar gael i 80 y cant a 90 y cant o'r bobl hynny sydd ei angen. Dros y ffin yn Lloegr, lle cafodd ei breifateiddio, wrth gwrs, maen nhw'n gwario £12 biliwn, £1,700 y pen, ac nid yw ar gael yn yr un niferoedd yn y fan honno. Felly, mae hynny'n dangos pa mor rymus yw rhoi gwerthoedd ar waith. Mae hynny'n dangos grym y sector cyhoeddus—byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol—yn cydweithio â'i gilydd. A wnewch chi egluro i ni, Prif Weinidog, beth yw eich gweledigaeth o ran sut y bydd profi ac olrhain yn rhoi cyfle inni reoli trosglwyddiad y feirws, a thorri ar drosglwyddiad y feirws, a chaniatáu inni fod â rheoliadau sy'n cydnabod bod profi ac olrhain yn gallu, trwy ei rymuster, sicrhau y gallwn reoli ymlediad y feirws? Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd.