Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Rydym ni wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol sylweddol i'r sector i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i weithredu fel bod y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Mae'r effaith ar refeniw teithwyr, a ddarparodd tua hanner yr arian sydd ei angen i weithredu ein gwasanaethau cyn COVID-19, yn golygu y bydd yn rhaid i ni weithredu ar frys. Mae angen inni sicrhau bod gennym ni sail gytundebol sefydlog i gyflawni ein hymrwymiadau allweddol i greu'r metro, darparu cerbydau newydd sbon a datgarboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cytuno ar hanfodion perthynas newydd rhyngddyn nhw a Keolis ac Amey, a fydd yn darparu model darparu cadarn newydd. Rydym yn cymryd y camau brys sydd eu hangen i ddiogelu gwasanaethau, i ddiogelu swyddi ac i gyflawni'r rhaglen metro uchelgeisiol. Ar hyn o bryd, serch hynny, mae angen i mi bwysleisio ein bod yn dal i drafod manylion y contract gyda'n partneriaid, felly rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall na allaf fod yn rhy benodol ynghylch manylion masnachol sensitif ar hyn o bryd.
Bydd y gwasanaethau rheilffyrdd y bydd teithwyr yn eu defnyddio, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf, yn cael eu gweithredu gan is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Mae'r cwmni cyhoeddus newydd wedi sicrhau ei drwydded ddiogelwch ei hun a bydd yn destun rheoliadau ac amodau diogelwch y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn yr un ffordd yn union â phob cwmni trên arall. Rydym yn cymryd rheolaeth sector cyhoeddus dros weithredu a darparu gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd, i gydbwyso'r angen am y gwerth gorau am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau parhad ein gwasanaethau rheilffyrdd hanfodol.
Yn ogystal â diogelu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn parhau i drawsnewid a sicrhau y caiff metro'r de ei adeiladu. Bydd Amey Keolis Infrastructure Ltd yn parhau i wneud y gwaith hwn, a bydd partneriaeth newydd gyda KeolisAmey, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, yn cael ei sefydlu i helpu i gyflawni ymrwymiadau pwysig megis system docynnau integredig a'r gwaith parhaus o gyfuno rheilffyrdd ysgafn a thrwm. Mae hwn yn gam angenrheidiol y mae'n rhaid inni ei gymryd nawr i sicrhau sefydlogrwydd a gweithrediad parhaus ein gwasanaethau rheilffyrdd. Byddwn yn parhau i weithredu ein gwasanaethau rheilffyrdd fel hyn, gyda'n model cyflenwi sector cyhoeddus newydd, hyd y gellir rhagweld.
Rydym yn dal i aros i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad Williams o'u heiddo ynglŷn â'r rheilffyrdd, a addawyd ers amser maith. Rwy'n disgwyl i hwn argymell mwy o gyfranogiad gan y sector cyhoeddus yn y rheilffyrdd, a'n bod o'r diwedd yn cael y pwerau a'r setliad ariannu teg sydd eu hangen arnom ni i ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod yr angen hwn yn fwy nag erioed nawr.
Fel y gŵyr yr Aelodau, y mis diwethaf ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol y DU yn nodi'r tanfuddsoddi hanesyddol yn y rheilffyrdd ac effaith bosibl HS2 ar economi Cymru. Mae angen sylfaenol i ailystyried y ffactor cymharedd o dan Barnett ar gyfer y symiau canlyniadol yn y dyfodol mewn cysylltiad â HS2. Mae ein gallu i ddatrys helyntion y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac annog teithwyr newydd i ddefnyddio gwasanaethau yn y dyfodol yn dibynnu ar fuddsoddiad teg a digonol yn y seilwaith, agor llwybrau newydd, cynyddu amlder gwasanaethau a gwella capasiti.
Bydd Aelodau hefyd yn cofio mai honiad Llywodraeth y DU yw bod HS2, yn wahanol i Crossrail, sy'n brosiect i Loegr yn unig, mewn gwirionedd yn brosiect i Gymru a Lloegr. Ni fydd Cymru yn manteisio ar wasanaethau HS2 uniongyrchol. Yn ôl ffigurau HS2 ei hun, bydd HS2 yn achosi niwed blynyddol net o £150 miliwn i economi Cymru. Yn sgil y ffaith bod y prosiect yn cael ei ddosbarthu'n brosiect i Gymru a Lloegr, ni fyddwn yn cael dim o'r £100 biliwn o wariant trethdalwyr y DU ar brosiect sy'n niweidio Cymru. Bydd yr Alban, a fydd yn cael budd uniongyrchol o'r prosiect, yn cael cyfran o'r £100 biliwn. Byddai cyfran deg o'r £100 biliwn yn sicr yn caniatáu inni drawsnewid y rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, rhaid imi fod yn glir ein bod yn disgwyl y bydd effaith a graddau'r argyfwng hwn o ran ein cyllid cyhoeddus yn cael eu teimlo am gryn amser. Rydym ni eisoes wedi darparu hyd at £105 miliwn o gyllid ychwanegol i redeg ein gwasanaethau rheilffyrdd yn ystod y cyfnod brys hwn, ac mae'n debyg y bydd angen i ni ddarparu £62 miliwn arall o gyllid ar gyfer gweithredu gwasanaethau hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn darparu digon o wasanaethau a chapasiti o fewn amserlen lai i ddiwallu anghenion teithio gweithwyr allweddol a'r rhai ag anghenion teithio hanfodol eraill, megis disgyblion a myfyrwyr sy'n dychwelyd i ysgolion a cholegau.
Yn y tymor hwy, tra bod llawer llai o alw gan deithwyr o hyd, mae'n debygol y bydd yn rhaid inni barhau i wneud rhai dewisiadau anodd. Nawr, bydd gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn parhau i ddioddef gostyngiad sylweddol mewn refeniw nes y gallwn ni groesawu teithwyr yn ôl i'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn llawn. Bydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch sicrhau bod adnoddau ar gael, costau gweithredol a'r potensial o barhau i gynnig gwasanaeth llai cynhwysfawr nes bydd y galw a refeniw teithwyr yn cynyddu eto. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y bydd gweithwyr allweddol a'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i allu gwneud y teithiau y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y gwaith yr ydym ni yn ei wneud a'r dewisiadau y byddwn yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.