Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n deall yr amgylchiadau a arweiniodd at gyhoeddi'r datganiad hwn cyn ei gyflwyno gerbron y Senedd, ac rwy'n derbyn bod y Gweinidog ei hun o'r farn nad oedd hynny'n ddelfrydol ac nad felly y byddai fel arfer yn dymuno gweithredu.
Fel y gŵyr y Gweinidog, mae Plaid Cymru yn falch o'i gefnogi yn y dull gweithredu hwn. Pan ddaeth y cyfle i'r amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, teimlem nad oedd achos arbennig o glir dros yr angen i gyfranddalwyr y sector preifat wneud elw o'n gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod gwneud hynny'n eu gwneud yn fwy effeithlon neu'n fwy dymunol i'w defnyddio. Byddwn ni'n cefnogi'r Gweinidog i gynnal y trefniant hwn cyhyd ag sy'n bosibl, ac os oes angen iddo geisio unrhyw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ar lefel San Steffan, byddwn yn ei gefnogi i wneud hynny.
Hoffwn ofyn rhai cwestiynau penodol. Gweinidog, rydych yn sôn am y posibilrwydd o'r angen i wella gorsafoedd—er enghraifft, mae'r orsaf yn Llanelli mewn cyflwr pur druenus ar hyn o bryd. A fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ymateb i flaenoriaethau cyhoeddus Cymru? A fydd, er enghraifft, hefyd yn ei gwneud hi'n haws cael amserlenni cysylltiedig? Mae'n rhwystredigaeth arbennig i bobl sy'n dod o orllewin Cymru ac yn cyrraedd gorsaf Abertawe ar yr union adeg y mae'r trên i Lundain neu'r trên i Fanceinion yn gadael, am nad yw'r amserlenni hynny'n gweithio gyda'i gilydd. Lleoedd fel Cydweli, lle mae taith gerdded hir iawn o'r orsaf reilffordd i'r orsaf fysiau—a fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n fwy effeithiol ac yn haws ichi arwain trafnidiaeth gyhoeddus i fodloni blaenoriaethau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnewch chi gadarnhau i ni, Gweinidog—ac rwy'n cymryd, o'ch cyfeiriad at drefniadau TUPE—na fydd dim effeithiau negyddol ar delerau ac amodau staff sy'n darparu ein gwasanaethau rheilffordd ar bob lefel? Rydych chi wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw inni'n breifat, a gwn eich bod wedi cael y trafodaethau hynny gydag undebau llafur ac eraill, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol petaech chi'n dweud ar goedd na fydd effaith negyddol ar staff.
Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd, Gweinidog, pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi adolygiad Williams, oherwydd, ar un ystyr, heb wybod hynny, ac unrhyw fesurau a allai ddeillio o hynny, rydych chi i raddau yn gweithredu gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'ch cefn o ran gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Byddwn i a'm plaid yn cefnogi popeth yr ydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, am y swm canlyniadol a ddylai fod ar gael o ganlyniad i HS2. Mae'n gwbl annerbyniol nad yw'n cael ei ddarparu, ac, unwaith eto, byddwn yn eich cefnogi o ran unrhyw sylwadau a wnewch chi.
Yn olaf, sylweddolaf na allwch chi, fel y dywedsoch chi wrth Russell George ac fel y dywedsoch chi yn eich datganiad, roi manylion y trefniadau ariannol inni, ac rwy'n deall y materion cyfrinachedd masnachol dan sylw, ond ar wahân i'r costau gweinyddol yr ydych chi wedi'u crybwyll o ran TUPE a'r costau sy'n deillio'n uniongyrchol o'r pandemig, y byddid wedi gorfod eu talu pe cai'r fasnachfraint ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus neu pe bai yn aros mewn dwylo preifat, a allwch chi roi sicrwydd inni mai eich bwriad yw na fydd unrhyw gostau tymor hwy ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y pwrs cyhoeddus heblaw'r rhai a fyddai wedi bod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau pe bai'r fasnachfraint wedi aros mewn dwylo preifat?