6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Blwyddyn 4 y Rhaglen Tai Arloesol — Dulliau Adeiladu Modern/Modiwlar Arbennig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:45, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddechrau gyda dau o'm safbwyntiau hirsefydlog? Mae angen mwy o dai arnom ni, yn enwedig tai cyngor, i ddiwallu'r angen, ac, yn ail, mae angen i ni ddychwelyd at safon Parker Morris neu safon debyg iawn i honno, sy'n seiliedig ar y rhagdybiaeth nad yw hi byth yn bosibl gwneud tŷ neu fflat da allan o safleoedd sy'n rhy fach. Hefyd, mae eu cartref, i lawer o bobl, bellach yn dod yn weithle iddyn nhw hefyd.

Rwy'n croesawi barn y Llywodraeth bod dyddiau cysylltu dulliau adeiladu modern gyda thai parod o safon gwael, dros dro, wedi mynd heibio. Mae dulliau adeiladu modern bellach yn cynhyrchu tai fforddiadwy dymunol o safon uchel, sy'n defnyddio ynni mewn modd effeithlon, y gall tenantiaid ymfalchïo ynddyn nhw.

Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn cofio, oherwydd mae wedi effeithio ar ei hetholwyr hi yn ogystal â fy etholwyr innau, tai dur ac adeiladau anhraddodiadol eraill fel sment alwmina uchel mewn ysgolion fel Olchfa a oedd naill ai'n gorfod cael eu dymchwel neu eu hadnewyddu'n llwyr oherwydd problemau gyda'r adeiladu.

Mae gennyf i ddau gwestiwn: beth yw disgwyliad oes yr adeiladau hyn a sut y cafodd hynny ei gyfrifo? Ac, yn ail, sut ydych chi'n cyfrifo effeithlonrwydd ynni tai adeiladu modiwlar?