Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Wedi dweud hynny, dwi yn ymwybodol iawn, iawn fod yna nifer o heriau sylweddol ynghlwm â hyn, a dwi ddim yn mynd i osgoi'r heriau yna, a dwi'n meddwl ei bod hi yn bwysig inni eu gwyntyllu nhw a'u trafod nhw. Mae deiseb Elfed Wyn Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Rŵan, dwi am herio Elfed ychydig yn y fan hyn. Pwy sy'n mynd i benderfynu beth fydd cynnwys y corff cyffredin o wybodaeth yma? Dwi yn cytuno bod angen cael corff cyffredin, ond mae angen cydnabod hefyd fod eisiau gwaith trwyadl gan ein harbenigwyr hanesyddol ni a chryn drafod er mwyn cyrraedd y nod yma.
Mae'r ddeiseb arall yn galw am ei gwneud hi'n orfodol i hanesion pobl ddu a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Dwi'n cytuno'n llwyr, ond dwi hefyd yn mynd i herio Angharad. Onid un agwedd yn unig ar hanes pobl ddu a phobl o liw ydy caethwasiaeth a gwladychiaeth, ac o ganolbwyntio ar yr agweddau hyn, ydyn ni ddim mewn peryg o anghofio cyfraniad cyfoethog cymunedau du Cymru a lleiafrifoedd ethnig Cymru i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth?
Dwi am dynnu'ch sylw chi at adroddiad pwysig gafodd ei wneud saith mlynedd yn ôl bellach gan banel dan gadeiryddiaeth yr hanesydd Dr Elin Jones. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig inni atgoffa ein hunain am beth ddywedwyd yn yr adroddiad yna, a oedd o dan y teitl, 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru'. Dyma eiriau'r panel:
'Mae llawer o'r drafodaeth ar y math o hanes a ddysgir mewn ysgolion yn tueddu i bwysleisio cynnwys ffeithiol y cwricwlwm. Ond mae llawer mwy i ddisgyblaeth hanes na chronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn unig. Tra bod cronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn cynnig fframwaith er deall y gorffennol a pherthnasedd gwahanol gyfnodau, datblygiadau a gweithredoedd unigolion', mae hanes yn rhoi cyfleoedd eraill hefyd. Ac yng ngeiriau'r adroddiad eto:
'Un o'r agweddau pwysicaf ar ddisgyblaeth hanes yw'r cyfle a rydd i ddod i ddeall bod pob naratif neu ddadl hanesyddol yn agored i feirniadaeth, ac mai barn amodol yw pob barn hanesyddol. Nid oes un hanes yn unig: mai gan bob unigolyn ei brofiad ei hun a'i berspectif unigryw ar y gorffennol…Mae derbyn hynny yn fodd i dderbyn a pharchu gwahanol fersiynau o hanes, a'u gwerthuso yn ôl meini prawf mwy gwrthrychol na'n gwybodaeth bersonol o'r gorffennol neu fersiwn cyfarwydd ohono.
'Mae dysgu hanes yn effeithiol yn fodd i ddatblygu dinasyddion gweithredol y dyfodol. Gall gynorthwyo dysgwyr i ddeall eu hanes eu hun, a'r ffordd y mae'r gorffennol wedi ffurfio'r presennol, ond yn bwysicach na hynny, gall eu cynorthwyo i ymholi i'r hanes hwnnw, a phwyso a mesur gwahanol fersiynau o hanes. Gall roi arf yn erbyn propaganda o bob math yn nwylo pob dinesydd.'
Mae hwn yn ddatganiad pwysig—ac rydw i yn dod i derfyn—ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig inni gofio'r cyd-destun yma yr oedd Dr Elin Jones yn ei roi i ni. Mae dysgu hanes yn effeithiol yn mireinio'n sgiliau ni i ddadansoddi, i gwestiynu, i beidio â derbyn bob dim rydym ni'n ei weld ar yr olwg gyntaf, ac i adnabod propaganda a newyddion ffug, sydd yn beth pwysig iawn yn y byd sydd ohoni.
Felly, mae yna ddadl gref dros gynnwys hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, gan gynnwys hanes Cymru a hanes pobl ddu a phobl o liw, fel rhan fandadol o'r cwricwlwm, ond peidiwn ag anghofio bod yna lawer iawn mwy i ddysgu hanes a gwerth aruthrol iddo yn ein huchelgais ni o greu pobl ifanc wybodus i'r dyfodol. Diolch, Llywydd, a diolch am ganiatáu i mi ymhelaethu.