9. Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:22, 4 Tachwedd 2020

Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddwy ddeiseb yma i sylw'r Senedd, a diolch am eu gosod nhw efo'i gilydd, sef y peth iawn a'r peth priodol i'w wneud. A diolch i drefnwyr y ddwy ddeiseb, Elfed Wyn Jones ac Angharad Owen, am fwrw ati mor ddygn i gasglu cymaint o enwau. Dwi'n gwybod yr oedd Elfed Wyn Jones wedi bwriadu cerdded o'r fferm lle mae o'n byw ym Meirionnydd i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn cyflwyno'r ddeiseb, a bod yn bresennol yn y ddadl, ond, wrth gwrs, oherwydd y cyfyngiadau, doedd hynny ddim yn bosib. Ond mae o wedi bod yn cerdded yr un pellter ar y fferm, yn ôl yn Nhrawsfynydd, ac wedi cael sylw i'r pwnc y mae o yn teimlo'n angerddol yn ei gylch yn sgil hynny. 

Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rydyn ni wedi bod yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), wrth gwrs, gan dderbyn tystiolaeth o sawl cyfeiriad. A dwi wedi bod yn trio gwneud y pwynt yn gyson yn ystod y sesiynau trafod fod angen meddwl nid yn unig am gynnwys y Bil fel y mae o ar hyn o bryd, ond bod angen meddwl hefyd am unrhyw beth sydd ddim yn y Bil—unrhyw beth sydd angen bod ar wyneb y Bil ond sydd ddim yno ar hyn o bryd. A dwi yn credu bod y ddau fater sydd dan sylw heddiw ac sydd yn gweu i'w gilydd—maen nhw angen bod ar wyneb y Bil, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud hyn yn gyson. 

Mae angen sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod am ein gorffennol fel pobl, am ein gorffennol fel gwlad, a hynny yn ei holl amrywiaeth cyfoethog. Mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu pwysigrwydd ein hunaniaeth genedlaethol, ac mae o hefyd wedi tanlinellu'r angen i roi sylw arbennig a brys i ddileu anghydraddoldeb ar sail hil.

Mae angen newid strwythurol mawr, ac yn union fel y mae angen dysgu perthnasoedd iach fel thema drawsgwricwlaidd er mwyn creu newid o fewn ein cymdeithas ni, ac er mwyn creu y newid hynny yn y berthynas rhwng menywod a dynion, mae angen hefyd i ddyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â pherthnasoedd iach ac addysg ryw. A'r unig ffordd i sicrhau hynny ydy dyrchafu'r maes, dyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, i fod ar wyneb y Bil, a'i gynnwys o fel elfen fandadol ymhob ysgol er mwyn sicrhau cysondeb i bob disgybl.