9. Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:40, 4 Tachwedd 2020

Rwy'n hoffi geiriad y ddeiseb gyntaf rŷn ni'n ei thrafod y prynhawn yma'n arbennig. Mae'r pwynt wedi cael ei wneud bod yr iaith yma yn gyfoethog ac yn bwysig. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac, wrth gwrs, mae'r ail ddeiseb yn gysylltiedig, gan ei bod yn gofyn i hanesion pobl dduon a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.

Mae'r syniad o greu corff cyffredin yn hollbwysig. Mae'r ddeiseb, wrth gwrs, yn siarad yn llythrennol yma; mae'n sôn am yr angen i rai penawdau pwysig o hanes Cymru gael eu dysgu ym mhob cwr o'r wlad. Ond mae yna hefyd yma ystyr ddwysach: corff cyffredin, corpws, yn cael ei greu. Ie, casgliad o ffynonellau, o ddigwyddiadau, ond pethau sydd wedi llunio a ffurfio corpws y wlad, ffurfio'r bobl—corff cyffredin, ymwybyddiaeth, hunaniaeth y bobl. Oherwydd dydy'r naill ddeiseb na'r llall ddim yn sôn am yr angen i ddysgu plant am hanesion pobl eraill—na, dysgu am y Cymry, pobl sydd wedi byw a threulio bywyd yma, Cymry o ddiwylliannau gwahanol sydd eto yn rhan o'r corff cyffredin, hunaniaeth gyda haenau amryw, lle mae pob un haen yn rhan o'r un. Mae'r geiriad yn ein hatgoffa bod hanes yn ein cysylltu ni gyda'n gilydd, wrth gwrs, ond hefyd gyda'n gorffennol. Hanes sydd wedi ein ffurfio ni, er da ac er drwg. Hanes sydd yn cynnig gwreiddiau i ni. Mae'n dysgu gwersi, mae'n ein cyfoethogi ni bob un, ond dim ond os rydyn ni'n clywed ac yn dysgu am yr hanesion hynny.

Cyn y toriad dros yr haf, gwnaethom ni, fel Plaid Cymru, gynnal dadl ar y pwnc hwn, yn gosod mas pam ei bod hi mor bwysig i bobl ifanc ddysgu am hanesion eu cenedl. A dwi'n dweud 'hanesion' yn y lluosog, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod yn y ddadl yma, achos does dim un llinyn o hanes sy'n bwysicach na'r lleill. Yn wir, mae angen i blant Cymru ddysgu mwy am hanesion y bobl wnaeth ddim ysgrifennu'r llyfrau hanes. Fel y dywedais i yn ein dadl cyn yr haf, os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am benawdau hynod bwysig hanes ein cenedl, gall hyn amddifadu cenedlaethau cyfan o synnwyr o'u hunaniaeth—fyddan nhw ddim yn gweld eu hunain yn y corpws. Ac mae hynny yr un mor wir am foddi Capel Celyn, hanes Glyndŵr a'r arwisgo, a pherthynas y Cymry gyda chaethwasiaeth, a hanes diwydiannol a diwylliannol ardaloedd fel Tiger Bay.

Ers yr haf bu datblygiadau sydd i'w croesawu ac sydd wedi cael eu trafod. Roedden ni'n trafod rhai o'r datblygiadau yma gyda Dr Elin Jones, sydd wedi cael ei chrybwyll yn barod, wnaeth gadeirio'r tasglu ar 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru' yn 2013. Rwy'n cytuno gyda hi bod lle i groesawu penodiad yr Athro Charlotte Williams i arwain adolygiad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi athrawon i'w helpu nhw wrth iddyn nhw gynllunio gwersi am hanesion pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gall y penodiad hwn arwain at wireddu argymhellion yr adroddiad hwnnw am ddatblygu ymwybyddiaeth disgyblion o'r Cymry aml-ethnig, amlddiwylliannol, a, thrwy hynny, gwarantu na fydd plant Cymru yn cael eu hamddifadu o wybodaeth o'u hanes eu hunain. Ac mae hyn yn bwysig, Llywydd, ar gyfer safiad ein cenedl yn genedlaethol. Os nad ydy hanesion Cymru yn cael eu dysgu yn ein hysgolion, bydd myfyrwyr ddim yn dysgu am y penodau hynny yn y brifysgol ychwaith, a gall hyn arwain at fwy o ddirywiad yn niferoedd y canolfannau hanes Cymru ac astudiaethau Celtaidd yn ein prifysgolion. Bydd hynny yn cael effaith anorfod ar wybodaeth genedlaethol a'r ffordd y mae'r wlad yn ei phortreadu ei hun ar lwyfan y byd.

Ar ôl diddymiad galarus Prifysgol Cymru, mae'n hollbwysig gwarchod y ganolfan astudiaethau uwch a Cheltaidd, Gwasg Prifysgol Cymru a chanolfan astudiaethau uwch Gregynog. Mae hyn oll yn gysylltiedig. Os does dim brwdfrydedd nac arbenigedd am hanes Cymru—yr hanesion Cymreig yna i gyd dŷn ni'n trafod—bydd yn gwanhau'r cysyniad o Gymru a'i chryfder academaidd. Mae angen gwarantu parhad ein cenedl a'n canolfannau arbenigol, a chreu canolfannau o ragoriaeth newydd ac adrannau astudiaethau Celtaidd, nid dim ond yng Nghymru ond dros y byd. Dyma beth dŷn ni'n ei drafod heno a dyma ydy dechrau'r broses yna: creu corff cyffredin a gwarantu ymwybyddiaeth ein pobl ifanc o'u hunaniaeth. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ein corff deddfwriaethol yma, y Senedd, yn cytuno â phwysigrwydd hynny. Diolch.