Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Mae addysgu ein hanes yn ysgolion Cymru yn bwysig. Mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol; byddai colli'r gorffennol yn golygu ein bod yn byw yn yr oes fwyaf ddi-hid. Mae hanes yn ein dysgu bod 'Cymreig' yn golygu Prydeinig. Enwyd 'England' a 'Scotland' ar ôl eu goresgynwyr. Fodd bynnag, fe wnaeth y Prydeinwyr, neu'r Brythoniaid, barhau. Enwyd 'Wales' ar ôl y term a ddefnyddiwyd gan y goresgynwyr—term a olygai 'estronwr' yn eu hiaith hwy—i ddisgrifio'r Brythoniaid ar draws ein hynysoedd, a gyfeirient at ei gilydd fel cyd-wladwyr, 'y Cymry'. Clywn am y cylch haearn o gestyll a adeiladwyd yng ngogledd Cymru ar ôl y goncwest Eingl-Normanaidd, ond ni chlywn fawr ddim am y 100,000 o gyd-Frythoniaid a fu farw yn ymdrech y Normaniaid i gyflawni hil-laddiad yng ngogledd Lloegr—anrheithio'r gogledd—ddwy ganrif cyn hynny.
Mae'r ddeiseb gyntaf rydym yn ei thrafod yn cyfeirio at wrthryfel Glyndŵr. Clywn am ei freuddwyd o gael Senedd Cymru, dwy brifysgol yng Nghymru ac eglwys rydd Gymreig. Fodd bynnag, mae hanes hefyd yn ein dysgu ei fod wedi gwasanaethu'r brenin Plantagenet olaf ac wedi ymuno â'r fyddin a arweiniodd y brenin hwnnw i mewn i'r Alban, cyn gwrthryfela yn erbyn y brenin cyntaf ers y goncwest Normanaidd nad oedd Ffrangeg yn famiaith iddo, mewn cynllwyn gyda Mortimer a Percy i hollti'r deyrnas yn dair rhan.
Mae'r ddeiseb gyntaf hefyd yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, sy'n perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hanes yn ein dysgu bod hyn hefyd yn rhan o brofiad Prydeinig ehangach, lle cafodd cymunedau eu boddi pan adeiladwyd cronfeydd dŵr Rivington i gyflenwi dŵr i Lerpwl ganrif ynghynt.
Mae mythau'n adrodd straeon am hanes cynnar pobl. Mae yna rai sy'n credu bod tynged y Brydain chwedlonol—Albion neu'r Ynys Wen—yn aros i gael ei deffro fel arweinydd ysbrydol y byd. Yn ôl Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, dywedodd y dduwies Diana wrth Brutus o Gaerdroea a oedd wedi'i alltudio,
Brutus! y tu hwnt i'r ffiniau Galaidd,
mae ynys gyda'r môr gorllewinol yn ei hamgylchynu,
ac o blith y cewri a feddai arni unwaith, nid oes llawer ohonynt ar ôl mwyach
i dy wahardd rhag mynd iddi, neu rwystro dy deyrnasiad.
Anela dy hwyliau i gyrraedd y lan hapus
lle mae ffawd yn gorchymyn codi ail Gaerdroea
a sefydlu ymerodraeth i dy linach frenhinol,
na fydd amser byth yn ei dinistrio nac yn cyfyngu arni.
Er nad oes fawr o goel arno bellach, ystyriwyd bod gwaith Sieffre o Fynwy yn ffaith tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae'r stori'n ymddangos yn yr hanesion cynharaf am Brydain. Mae addysgu hanesion du a phobl liw y DU yn ysgolion Cymru yn bwysig. O un o'r bobl dduon gyntaf i fod wedi byw yng Nghymru, dyn o'r enw John Ystumllyn a gludwyd i Gymru yn y ddeunawfed ganrif ac y credir ei fod wedi priodi dynes leol, i Shirley Bassey, Colin Jackson, maer presennol Caerdydd, a chyn faer Bae Colwyn, Dr Sibani Roy, mae poblogaeth ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol.
Mae'r rhan fwyaf o gymdeithasau wedi manteisio ar lafur caethweision ar ryw adeg yn eu hanes. Mae hyn hefyd yn wir am Gymru. Mae cadwyn caethweision a ddarganfuwyd ar Ynys Môn, cadwyn a luniwyd i ffitio pump o bobl, yn dyddio o Oes yr Haearn, tua 2,300 o flynyddoedd yn ôl. Pan ymosododd y Rhufeiniaid, daethant â'u caethweision eu hunain gyda hwy, caethweision o wledydd ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r dwyrain canol. Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, gwnaeth y llwythi Brythonig gaethweision o'r rhai a drechwyd ganddynt mewn brwydr. Ffynnai'r gaethfasnach drawsatlantig rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a 1807, pan basiodd Senedd Prydain Ddeddf i ddileu caethfasnachu yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd ymgyrchoedd i atal caethwasiaeth eu cychwyn gan bobl ddu a phobl wyn dros 30 mlynedd cyn i'r Ddeddf gael ei phasio o'r diwedd. Dechreuodd mudiad dileu caethwasiaeth Prydain o ddifrif yn 1787, pan sefydlodd Thomas Clarkson bwyllgor i ymladd caethfasnachu. Roedd un aelod, William Dillwyn, yn Grynwr Americanaidd a hanai o Gymru. Roedd ymgyrchwyr wedi bod yn gosod y sylfeini drwy gyhoeddi dogfennau am greulondeb caethwasiaeth. Un o'r rhain oedd William Williams, Pantycelyn, a ysgrifennodd yr emyn 'Arglwydd arwain trwy'r anialwch'. Yn y 1770au, cyhoeddodd nifer o gyn-gaethweision hanes eu bywydau, a Williams oedd y cyntaf i gyfieithu un o'r rhain i'r Gymraeg. Er mai Prydain oedd y wlad a oedd yn caethfasnachu fwyaf yn ystod y ddeunawfed ganrif, a bod caethfasnach anghyfreithlon wedi parhau ym Mhrydain am flynyddoedd lawer ar ôl pasio Deddf 1807, mae rôl y Llynges Frenhinol yn atal caethfasnach ar draws y cefnforoedd yn bennod ryfeddol o weithgarwch dyngarol cyson. Fodd bynnag, mae caethwasiaeth anghyfreithlon yn dal i barhau mewn sawl rhan o'r byd heddiw, hyd yn oed yng Nghymru. Fel y dywedodd Martin Luther King:
Mae gen i freuddwyd... boed i ryddid atseinio.