Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Nawr, rydym i gyd wedi cytuno bod yn rhaid i ddysgu fod yn gynhwysol a manteisio ar brofiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi'r cyfraniad y gallant hwy ac eraill ei wneud yn eu gwahanol gymunedau, ac i ddatblygu ac archwilio eu hymateb i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd hyn hefyd yn helpu dysgwyr i archwilio, gwneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth mewn cymdeithas amrywiol. Mae'r cwricwlwm yn cydnabod nad endid unffurf yw ein cymdeithas ond ei bod hi'n cwmpasu amrywiaeth o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanesion sy'n cynnwys pawb sy'n byw yng Nghymru. A gadewch i mi fod yn glir: nid lleol yn unig yw 'cynefin', mae'n darparu sylfaen ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. Fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu gwerthfawrogi natur amrywiol cymdeithasau, yn ogystal â deall amrywiaeth ei hun.
Yn yr haf, penodais yr Athro Charlotte Williams i arwain gweithgor a fydd yn rhoi cyngor ac argymhellion ynghylch addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rwy'n falch fod Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau wedi croesawu'r gwaith hwnnw. Nawr, mae'n hanfodol dweud nad yw hyn wedi'i gyfyngu i hanes; mae'n cwmpasu pob rhan o'r cwricwlwm ysgol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, yn ddiweddarach y mis hwn, at gael yr adroddiad interim a fydd yn canolbwyntio ar adnoddau dysgu. Mae'r grŵp wedi datblygu'r gwaith yng nghyd-destun y fframwaith cwricwlwm newydd, sy'n osgoi rhagnodi rhestr lawn o bynciau neu weithgareddau penodol. Mae'r canllawiau'n nodi'r cysyniadau a ddylai fod yn sail i ystod o wahanol bynciau, gweithgareddau dysgu a chaffael gwybodaeth, a bydd dysgwyr o bob oed yn dysgu am ystod o gyfnodau hanesyddol ar lefel leol a chenedlaethol. Byddant yn ystyried sut mae hanes lleol, hanes Cymru a hanes byd-eang yn cysylltu â'i gilydd, ac yn cael eu ffurfio a'u deall, drwy ddigwyddiadau fel gwrthryfel Glyndŵr, rhyfel sifil Sbaen, a rhyfeloedd byd yr ugeinfed ganrif. Mae hyn eisoes wedi'i nodi yn y canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.
Rwy'n cydnabod bod angen inni barhau i gefnogi athrawon gyda'u dysgu proffesiynol i'w helpu i symud ymlaen i nodi adnoddau, pynciau a chysylltiadau. Er mwyn caniatáu amser a lle i addysgwyr gydweithio ar draws ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn dysgu proffesiynol, gydag oddeutu £31 miliwn eisoes wedi ei ddyfarnu'n uniongyrchol i ysgolion, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini dysgu proffesiynol cryf hyn wrth inni symud yn nes at weithredu'r cwricwlwm yn 2022. Felly, rwy'n hyderus y bydd yr adnoddau, y cymorth a'r arweiniad sy'n cael eu datblygu yn grymuso ysgolion i ddarparu addysg ystyrlon am hanesion Cymru a'i chymunedau amrywiol ym mhob maes dysgu a phrofiad ar draws y cwricwlwm.
Bydd ysgolion yn cael cymorth i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, amgueddfeydd ac orielau, yn ogystal ag arweinwyr cymunedol a diwylliannol wrth gynllunio eu cwricwlwm er mwyn cyfoethogi dysgu a phrofiadau pob disgybl. Felly, o fewn y paramedrau a nodir yn y canllawiau, bydd gan athrawon hyblygrwydd i deilwra cynnwys gwersi i alluogi dysgwyr i archwilio eu 'cynefin'. Credwn mai dyna'r ffordd orau ymlaen iddynt ddeall sut mae eu hunaniaeth leol, eu tirweddau a'u hanesion yn cysylltu â'r rheini ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd rhyddid i athrawon addysgu hanesion niferus ac amrywiol Cymru a'r byd ehangach, ac fel y dywedais o'r blaen, ni ddylid cyfyngu archwilio straeon pobl a chymunedau Cymru i wersi hanes yn unig. Mae holl ddiben a chynllun y cwricwlwm i Gymru yn annog dysgwyr i archwilio themâu ar draws y cwricwlwm. Gellir addysgu hanesion amrywiol pobl Cymru nid yn unig ym meysydd y dyniaethau, ond hefyd mewn ieithoedd, llenyddiaeth a chyfathrebu, ac mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddwn yn creu adnoddau pellach a fydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanesion Cymru a'r byd wrth inni symud ymlaen at weithredu, a bydd yr adnoddau hyn yno i alluogi athrawon i ddatblygu eu cwricwla eu hunain.
Fel y soniais yn gynharach, mae'r gweithgor dan gadeiryddiaeth yr Athro Williams wedi adolygu'r adnoddau presennol i gefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â phrofiad a chyfraniadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws ein cwricwlwm, ac fel y nodwyd, bydd Estyn hefyd yn adrodd ar eu hadolygiad o addysgu hanes Cymru ac amrywiaeth mewn ysgolion y flwyddyn nesaf. Bydd ei ganfyddiadau yn ein helpu ymhellach i gomisiynu adnoddau i sicrhau bod athrawon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflwyno'r cwricwlwm yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd mynediad at adnoddau dysgu o ansawdd da yn ddigon ar ei ben ei hun o reidrwydd ac y bydd angen i athrawon gael y dysgu a'r datblygiad proffesiynol perthnasol. Yn gynnar y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl cael ail adroddiad gan weithgor yr Athro Williams, a fydd yn ystyried anghenion dysgu a datblygiad proffesiynol staff yn ein hysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y grŵp yn darparu argymhellion ar sut i sicrhau y gall athrawon ar draws y cwricwlwm fynd ati'n gymwys i gyflwyno dysgu sy'n gysylltiedig â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A maddeuwch i mi, Lywydd, ni allaf gofio pa un o fy nghyd-Aelodau a wnaeth y pwynt, ond mae'r Athro Williams yn glir iawn fod yn rhaid i addysgu am hanes pobl dduon fynd y tu hwnt i ddysgu am gysyniadau ynglŷn â chaethwasiaeth. Mae llawer iawn mwy i sôn amdano, a'r Aelod a siaradodd am gyfraniad cadarnhaol cymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i Gymru—gwnaed y pwynt hwnnw'n dda iawn.
Felly, i grynhoi, fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd yn rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu am natur amrywiol cymdeithasau a dealltwriaeth ohonynt,yn ogystal â deall y cysyniad o amrywiaeth ei hun, a'u 'cynefin'. Rydym yn parhau i weithio ar gynnwys y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cwmpasu profiadau a hanesion sy'n cynrychioli natur amrywiol cymdeithasau sydd gennym yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Ond diolch i'r Aelodau unwaith eto. Rwyf bob amser yn ystyried bod y dadleuon hyn ymhlith y goreuon a gawn yn y Siambr, ac ni fu heddiw'n eithriad, fel y dywedais. Diolch yn fawr.