Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Wrth gwrs, mae parhau i gael mynediad at driniaethau a gwasanaethau cyn gynted â phosibl yn flaenoriaeth hollbwysig i bobl sy'n byw yn Sir Benfro. Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi ailadrodd yr alwad honno, gan ddweud bod cleifion sydd wir angen eu llawdriniaethau yn ganolog i hyn i gyd. Mae llawer ohonynt mewn poen difrifol, gyda'u cyflyrau'n dirywio wrth iddynt aros, ac felly mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hamseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Weinidog, a ydych yn cytuno â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac os felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyhoeddi’r amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth diweddaraf, fel y gall byrddau iechyd, fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ddefnyddio'r wybodaeth honno i gynllunio yn unol â hynny?