Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Ie, rwyf eisoes wedi nodi'n gyhoeddus y byddwn yn cyhoeddi'r data ehangach hwnnw ar ystadegau'r GIG, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, y mis hwn. Felly, ar y diwrnod ystadegau arferol y byddem fel arfer yn cyhoeddi pethau ym mis Tachwedd, byddwn yn gwneud hynny ar draws yr ystod eang o feysydd, o ofal heb ei drefnu i wasanaethau canser, i amseroedd aros arferol rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Felly, gallwch ddisgwyl gweld hynny yn unol â'r ymrwymiad rwyf wedi'i wneud eisoes.