Amseroedd Aros

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:36, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gyda Bae Abertawe yn dal i orfod rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith yn Ysbyty Treforys, bydd nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn parhau i gynyddu, gan waethygu sefyllfa sydd eisoes yn enbyd yng nghyswllt amseroedd aros gormodol am driniaeth. Cyn y pandemig, roedd bron i 6,500 o bobl eisoes yn aros dros 36 wythnos am driniaeth. Felly, gyda thriniaethau cyffredin yn cael eu gohirio yn ystod y pandemig, mae'r nifer honno wedi cynyddu’n sylweddol. Weinidog, a fyddwch yn recriwtio meddygon, nyrsys a staff ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad?