Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Fel rwy'n siŵr y bydd wedi clywed, mae Llywodraeth y DU yn arwain y gwaith ar ariannu a chaffael brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i ddosbarthu brechlyn pan fydd un ar gael.