1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda swyddogion, gan gynnwys y rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghylch y cynnydd tuag at frechlyn ar gyfer COVID-19? OQ55789
Fel rwy'n siŵr y bydd wedi clywed, mae Llywodraeth y DU yn arwain y gwaith ar ariannu a chaffael brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i ddosbarthu brechlyn pan fydd un ar gael.
Diolch, Weinidog iechyd. Adroddodd nifer o bapurau newydd yn ddiweddar y gallai staff y GIG ddechrau cael brechlyn ymhen ychydig wythnosau yn unig. Mae datblygu brechlyn yn amlwg yn allweddol i fynd i’r afael â'r pandemig dros y tymor canolig a'r tymor hwy, fel rydych wedi egluro o'r blaen. Yn amlwg, bydd cryn dipyn o alw am y brechlyn hwn pan fydd ar gael. A yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhestr o'r rheini a fydd yn cael y brechlyn yn gyntaf, fel meddygon, nyrsys ac athrawon? Credaf ei bod yn bwysig gwneud cynlluniau. Hefyd, os ydym am achub y blaen a sicrhau bod y brechlyn yn cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed cyn gynted â phosibl, pa gynlluniau rydych yn eu rhoi ar waith i gefnogi hynny, ac a yw eich swyddogion wedi trafod logisteg darparu'r brechlyn gydag ymarferwyr iechyd?
Felly, 'do' i'r pwynt olaf—do, wrth gwrs, cynhaliwyd sgyrsiau dan arweiniad adran y prif swyddog meddygol, fel y byddech yn ei ddisgwyl, gyda'r gwahanol rannau o'n gwasanaethau gofal iechyd ynglŷn â sut y byddai rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno. O ran eich pwynt ynglŷn â blaenoriaethau, unwaith eto byddwn yn cael cyngor ar gyfer y DU gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch sut i flaenoriaethu grwpiau agored i niwed. Felly, ni fydd gennym grwpiau proffesiynol yn dadlau yn erbyn ei gilydd pam y dylent fod ar frig y rhestr o gymharu ag eraill; mae'n ymwneud â pha grwpiau agored i niwed yn ein cymdeithas sy'n debygol o gael y budd mwyaf, gan ystyried priodoleddau unrhyw frechlyn sy'n cael ei gymeradwyo ac ar gael i'w ddefnyddio yn y pen draw. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd fel arall, yn fy marn i bydd unrhyw syniad mai’r llais uchaf a fydd yn cael ei glywed yn hytrach na'r tegwch a'r budd y bydd brechlyn yn ei ddarparu yn tanseilio'r ymddiriedaeth sy'n hanfodol ar gyfer ein staff a fydd yn cyflwyno'r rhaglen yn ogystal â’r cyhoedd y byddwn yn gofyn iddynt ddod i gael y brechlyn. Felly, credaf y gallwch fod yn hyderus, os a phan fydd brechlyn ar gael, y bydd gennym gynllun ar waith i’w ddarparu yma yng Nghymru, a byddwn yn glir, fel y dywedais wrth ateb Rhun ap Iorwerth yn gynharach, ynghylch y cyfathrebu ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud a pham, a pha grwpiau rydym yn arbennig o awyddus i'w brechu yn gyntaf er mwyn rhoi'r gobaith gorau iddynt allu osgoi rhagor o niwed gan glefyd angheuol a heintus iawn.