Iechyd y Cyhoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:10, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, pobl dros 50 oed yw'r grŵp sy'n wynebu'r perygl mwyaf, ac mae pwysigrwydd ymarfer corff i'r grŵp hwn o ran iechyd cyffredinol a chadw lefelau uchel o symudedd, sy'n aml yn dirywio gydag oedran, yn bwysig iawn i'ch system imiwnedd ac i'ch gallu i gael fitamin D. Fodd bynnag, credaf fod llawer o bobl weithiau'n eithaf ofnus ynglŷn â mynd allan, a phan gawn y neges hon i 'aros gartref', mae'n bwysig fod honno’n cael ei chydbwyso gyda’r angen i ymarfer corff yn rheolaidd a'r ymarfer corff gorau i bobl dros 50 oed yw cerdded yn rheolaidd. Ond o’r hyn a welaf y tu allan, rwy'n ofni mai dyna’r grŵp oedran sydd i'w weld leiaf y tu allan, ac rwy'n aelod o'r grŵp hwnnw bellach.