Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Weinidog, ar ôl clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth eraill am ba mor anodd yw creu mannau sy'n rhydd o COVID neu ysbytai sy'n rhydd o COVID, rwyf wedi cael gohebiaeth yr wythnos hon gan etholwyr a oedd yn poeni am fynd i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID gan eu bod yn poeni am y posibilrwydd o ddal COVID yno. Pa sicrwydd pellach y gallwch ei roi i'r cleifion hynny, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, eu bod yn gallu cael y triniaethau hynny nad ydynt yn gysylltiedig â COVID mewn ffordd ddiogel? Oherwydd rwy’n cytuno’n gryf â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ba mor bwysig yw hi fod pobl yn parhau i gael triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID ar hyn o bryd.