Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Weinidog, ers dechrau'r pandemig yng Nghymru mae marwolaethau yn y cartref o achos dementia a chlefyd Alzheimer ymhlith menywod wedi cynyddu 92 y cant yn erbyn y cyfartaledd pum mlynedd. Mae marwolaethau yn y cartref o achos clefyd y galon ymhlith dynion yng Nghymru wedi cynyddu 22 y cant uwchlaw'r cyfartaledd pum mlynedd. Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau ychwanegol yn y cartref yn farwolaethau nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r marwolaethau ychwanegol hyn?