Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn. Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, Weinidog, dywedwch y bydd profion i staff cartrefi gofal asymptomatig bellach yn cael eu cynnal drwy borth sefydliadau’r DU a’r labordai goleudy, yn hytrach na chaniatáu profion drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y problemau gyda'r labordai goleudy, bydd hwnnw’n benderfyniad siomedig a braidd yn rhyfedd i lawer o bobl. Nid ydych hyd yn oed yn dweud bod y problemau gyda’r labordai goleudy wedi'u datrys eto. Dywed eich datganiad fod y materion yn cael sylw. A ydych yn cydnabod eich bod mewn perygl o danseilio hyder yn y system brofi i sector y gŵyr pob un ohonom ei bod yn dal i fod yn fregus tu hwnt?