Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. A gaf fi wneud apêl ar sail iechyd ar ran campfeydd ar y cam hwn o'r argyfwng? Mae campfeydd yn hanfodol i iechyd corfforol a lles meddyliol llawer o bobl, felly mae achos cryf dros ddynodi campfeydd fel llefydd ar gyfer defnydd hanfodol, a byddwn yn annog eich Llywodraeth i gymryd y camau hynny. Yn ystod rhai cyfnodau o’r argyfwng diweddar, mae campfeydd wedi cael aros ar agor yng ngweddill y DU, ond yma yng Nghymru, fe’u gorfodwyd i gau, er eu bod yn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Gwn nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ond mae'r dyfodol yn dal i fod yn ansicr iawn i'r rhan fwyaf o'n campfeydd yng Nghymru. Weinidog, os ceir cyfnod arall o gyfyngiadau symud yng Nghymru yn y dyfodol, a allech roi rhywfaint o ystyriaeth i'r syniad y dylid dynodi campfeydd yn llefydd ar gyfer defnydd hanfodol ar sail iechyd ac y dylid caniatáu iddynt aros ar agor?