Amseroedd Aros

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:33, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddefnyddio peth o’ch dylanwad i ailagor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Singleton yn Abertawe. Mae wedi bod ar gau ers peth amser bellach. Ond yn y cyfamser, tybed a allech ddweud wrthym pa weithgarwch cleifion allanol sy'n digwydd yn y gymuned ers mis Mawrth. Mae ceisio dod â rhywfaint o weithgarwch cleifion allanol priodol yn ôl allan o ysbytai cyffredinol wedi bod yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru ers peth amser. Ac a allech ddweud hefyd a yw'r gweithgarwch hwnnw wedi lleihau ers inni ddechrau gweld marwolaethau COVID yn rhai o'n hysbytai cymunedol yn hytrach na'n hysbytai cyffredinol? Credaf efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol o'r marwolaethau yn Ysbyty Cymunedol Maesteg, sy'n amlwg mewn rhan wahanol o fy rhanbarth.