Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Rydych yn sôn am wella, ac am symud at sefyllfa lle gallant ddarparu gwasanaeth addas, ond byddai'n well gennyf aros hyd nes y gallant brofi y gallant ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnom. Ac nid wyf yn dweud na ddylid defnyddio’r labordai goleudy o gwbl—credaf y gall y labordai goleudy fod yn hynod bwysig ac y byddant yn hynod bwysig—ond does bosibl na ddylai fod gennym yr un faint o reolaeth dros yr hyn sydd, o bosibl, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Gwyddom o atebion i gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynais yn ystod yr wythnosau diwethaf mai eich polisi yw gadael pethau i Lywodraeth y DU i raddau helaeth o ran brechu hefyd. Ceir optimistiaeth gynyddol ynghylch y gobaith y bydd brechiad coronafeirws mawr ei angen ar gael yn y dyfodol agos. A allwch ddweud wrthyf beth yw eich syniadau diweddaraf ynglŷn â hyn, a beth fydd rôl Llywodraeth Cymru wrth gaffael a chynnal rhaglen frechu yng Nghymru?