Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch. Mae dau etholwr yn benodol wedi cysylltu â mi ynghylch effeithiau COVID hir. Dangosodd un ohonynt symptomau ym mis Chwefror—[Anghlywadwy.]—ym mis Mawrth ac yna fe waethygodd, gan beri cryn dipyn o bryder iddo, gan nad oedd y feddygfa yn gallu ei helpu gyda symptomau feirws y mae gwyddoniaeth feddygol yn dal i ddysgu amdano. Fodd bynnag, mae wedi cael diagnosis o flinder ôl-feirysol. Mae etholwr arall wedi ysgrifennu ataf am fod COVID hir yn ei brofiad ef wedi ei atal rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'n hunangyflogedig. Mae bellach yn wynebu canlyniadau ariannol yn sgil hyn, ac mae naill ai'n talu tâl salwch iddo'i hun, heb incwm i wneud hynny, neu'n mentro—[Anghlywadwy.]—niwed posibl oherwydd effeithiau COVID hir ar ddychwelyd i'r gwaith yn rhy gynnar. Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith, drwy ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd yn ogystal â chymorth ariannol, i sicrhau nad yw pobl â COVID hir yn cael eu hanghofio?